Wedi wyth mlynedd o gefnogi ac ymchwilio i arloesedd yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, caeodd Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd ddiwedd mis Medi 2023.
Mae’r tirweddau arloesi ledled Prifysgol Caerdydd ac yng Nghymru wedi newid yn ddramatig ers i’r Lab a oedd yn bartneriaeth i Nesta ddechrau yn 2015. Erbyn hyn mae Prifysgol Caerdydd wedi hen agor drysau sbarc, sef parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, ag arloesi yn greiddiol iddo (ac mae Nesta Cymru ar bedwerydd llawr yr adeilad). Ceir chwe Sefydliad Arloesi y Brifysgol hefyd a hynny ym meysydd: Sero Net; Trawsnewid digidol; Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl; Catalysis; Diogelwch, Trosedd a Deallusrwydd; ac Ymchwil ar Imiwnedd Systemau. Mae gennym bartneriaethau newydd, er enghraifft gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a chyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Gall gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nawr droi at y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, ymgynghori â Strategaeth Arloesi newydd Cymru, neu weithio gyda’r pedair Partneriaeth Twf a Bargen Ddinesig, rhanbarthol. Ceir hefyd sector preifat cryfach, gan gynnwys ein cyfeillion yn We Are Service Works a Perago.
Gallwn fod yn falch ein bod wedi chwarae ein rhan yn y dirwedd hon sydd wedi gweld newid, a ninnau wedi cefnogi dros 100 unigolion a thros 40 tîm o weision cyhoeddus Cymru dros ystod ein rhaglenni, mewn meysydd o’r celfyddydau ac iechyd, i gefnogi gofalwyr maeth, i gyflymu datgarboneiddio. Fe fu inni drwy Gyngor Cynghorol ar Arloesi Cymru, gynghori Llywodraeth Cymru a chefnogi cydweithwyr i ddyfeisio strategaeth newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bu inni gynnal ymchwil ar bynciau mor amrywiol â rhywedd ac arloesi, dementia ac amrywiaeth, grymuso cyfreithiol cymunedol yn Lesotho, a chyd-gynhyrchu cefnogaeth ar gyfer staff y GIG y bu’n rhaid iddynt warchod eu hunain yn ystod pandemig COVID, a rhannu’r ymchwil honno. Yn 2022, roeddem yn falch iawn o ennill, ar y cyd, Wobr Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd yn y categori Rhagoriaeth ym maes Arloesi a Mentergarwch.
Mae wedi bod yn waith ystyrlon, heriol, yng nghwmni cydweithwyr anhygoel ac ysbrydoledig, yr ydym bellach yn eu hystyried yn gyfeillion i ni. Rydym yn edrych ymlaen at y bennod nesaf, pob un ohonom.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch Y Lab, cysylltwch â’r Athro James Lewis yn lewisj78@caerdydd.ac.uk.