Briffiau Ymchwil: Y Celfyddydau ac Iechyd

Rhagor o wybodaeth am sut mae ein hymchwil i’r celfyddydau ac iechyd yn gysylltiedig â pholisi yng Nghymru.

Gwella capasiti i arloesi ym maes y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru: Gwerthuso proses ac effaith rhaglenni Egin a Borthi HARP

Rydym yn gwybod y gall y celfyddydau gael effaith fuddiol iawn ar ein hiechyd a'n lles. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall cynllunio a chynnal gweithgareddau creadigol beri pryder yn ystod pandemig 

Wrth geisio darganfod sut i fynd i’r afael â’r heriau hyn, gwnaethom nodi cyfleoedd yma yng Nghymru. Ymhlith ein dulliau ar gyfer arloeswyr ym maes y celfyddydau ac iechyd roedd cyllid grant cyfunol, gwaith rhwydweithio, hyfforddiant ac ymchwil.  

Roedd prosiect HARP yn cynnwys llawer o dimau gwahanol, a defnyddiodd pob un ohonynt ddulliau gwahanol iawn. Roedd gwahanol garfanau’n ymgysylltu â gwahanol gelfyddydau.  

Cafodd ein data ei gasglu drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau:  

  • cyfweliadau, holiaduron 
  • grwpiau ffocws 
  • adroddiadau gweinyddol,  
  • negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol

Roedd pum grŵp o gyfranogwyr dan sylw:  

  • tîm cyflwyno HARP,   
  • gweithwyr proffesiynol yn nhimau HARP,   
  • cyfranogwyr 
  • cynghorwyr cynnwys y cyhoedd 
  • rhanddeiliaid allanol

Defnyddiwyd y dull dadansoddi fframwaith wrth ddadansoddi’r data, sy’n canolbwyntio ar gwestiynau ymchwil penodol. Dyma sy’n cynnig y strwythur dadansoddi sydd ei angen i ddeall proses ac effaith arloesedd ar sail y celfyddydau yn rhan o systemau iechyd a gofal 

Nod y gyfres hon o friffiau ymchwil yw cysylltu ymchwil â pholisi:  

  • rhyngwyneb y celfyddydau ac iechyd,   
  • rhagnodi cymdeithasol 
  • arloesedd 
  • mesur effaith 
  • cyd-gynhyrchu a chydraddoldeb 
  • amrywiaeth a chynhwysiant

Y maes polisi mwyaf perthnasol i’r ymchwil hon yw rhagnodi cymdeithasol, ac ymgysylltu diwylliannol yn fwy cyffredinol.  

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn:  

  • y Rhaglen Lywodraethu 
  • strategaeth Arloesi Cymru,   
  • maniffesto Cymru Wrth-hiliol   
  • Mae hefyd yn cyd-fynd â:  
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015,   
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.   
  • Mae’r ddau ohonynt yn seiliedig ar fodelau sy'n cydnabod effaith agweddau cymdeithasol ar iechyd a lles.