Ymunwch â’r arolwg

Celfyddydau ac Iechyd Cymru yn ystod pandemig COVID-19

20 August 2020

Mynd i’r afael â heriau a gwella mynediad at ddarpariaeth ar-lein  mynd i’r afael â heriau a gwella mynediad at ddarpariaeth ar-lein 

Pam rydyn ni'n gwneud hyn?

Mae’r arolygon hyn yn rhan o astudiaeth draws-Cymru o effeithiau argyfwng COVID-19 ar y celfyddydau ac iechyd. Y nod yw canfod sut mae pontio i arferion ymgysylltu o bell yn effeithio ar gyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n cyflwyno sesiynau creadigol, ynghyd â phrofiadau’r cyfranogwyr.   

 

Pwy all gymryd rhan?

Gwahoddir pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol sy’n fuddiol i’w hiechyd a’u lles ac sy’n byw yng Nghymru, i lenwi’r arolwg hwn:

https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/covid19-arts-and-health-participation-survey
 

Gwahoddir gweithwyr proffesiynol sy’n cyflwyno gweithgareddau creadigol sy’n fuddiol i iechyd a lles cyfranogwyr ac sy’n byw yng Nghymru, i lenwi’r arolwg hwn:

https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/covid-19-arts-and-health-professional-delivery-survey
 

Dylai’r arolwg gymryd tua 10 munud i'w lenwi. Nod yr ymchwil hon yw cynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi gweithwyr proffesiynol yn well, a gwneud gweithgareddau creadigol a gyflwynir ar-lein yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd mwy eang. Defnyddir y canfyddiadau i lywio datblygiad ein hymchwil i’r celfyddydau ac iechyd.  

 

 

Mae’r arolwg hwn yn rhan o brosiect Sbrint Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil a Phobl (HARP) COVID-19. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg hwn, cysylltwch â Sofia, Cymrawd Ymchwil i’r Lab, drwy ebostio [email protected]

 

Llun: Emily Morter on Unsplash