Daeth Anna i weithio yn Y Lab o raglen Edtech yn Nesta. Mae wedi bod yn brysur yn lansio Infuse, rhaglen ddysgu a datblygu ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Rwy'n falch iawn o ymuno ag Y Lab i arwain Infuse dros y blynyddoedd nesaf ac i weithio'n agos gyda James Lewis i gyflawni ein cenhadaeth o wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym nodau polisi uchelgeisiol ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi'r sector cyhoeddus i'w gweithredu trwy raglenni a arweinir gan arloesedd.
Bydd Rob Ashelford, sydd wedi cyd-arwain Y Lab ers 2015, yn parhau i weithio ar arloesedd yng Nghymru trwy Nesta Cymru.
Mae'r tîm yn tyfu'n gyflym ac yn ddiweddar rydym hefyd wedi croesawu Dr Muhammad Irfan, Cymrawd Ymchwil mewn Cyflymu Datgarboneiddio, a Carys Lloyd sydd wedi ymuno â'r tîm Infuse fel Cydlynydd.
Yn ymuno â nhw hefyd mae Wendy Hardyman (Prifysgol Caerdydd) ac Emyr Williams (Nesta) sy'n aros yn Y Lab er mwyn canolbwyntio ar Infuse yn y blynyddoedd i ddod.
Rhagor o wybodaeth am Infuse.