Yn ddiweddar, gwnaethom gydweithio â Reality Theatre i ddatblygu tri pherfformiad theatrig byr yn seiliedig ar ymchwil i ofal dementia ac anghydraddoldebau iechyd. Gwnaeth pobl â phrofiad uniongyrchol o ofal dementia gyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r sgriptiau.
Mae Next of Kin (5 munud) yn archwilio'r materion a godwyd gan unigolion B/byddar. Mae More Time (15 munud) yn archwilio'r materion a godwyd gan ofalwyr a gweithwyr gofal iechyd Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, ac mae Back in the Closet (10 munud) yn archwilio'r materion a godwyd gan y gymuned LHDTC+. Nod y ffilmiau byr hyn yw gwella’r gwasanaethau gofal dementia sy’n cael eu darparu drwy'r celfyddydau fel adnodd cyfathrebu.
Hoffem eich gwahodd i wylio'r ffilmiau hyn a chwblhau holiadur ‘cyn ac ar ôl’. Bydd yn cymryd tua 5 munud i'w gwblhau ac yn ein helpu i ddeall yr effaith y gallai'r perfformiadau hyn ei chael ar wylwyr.
Rhybudd Cynnwys:
Mae'r ffilmiau a'r arolygon cysylltiedig yn cynnwys deunydd sensitif a allai beri gofid i rai pobl. Bwriad yr ymchwil yw helpu i godi ymwybyddiaeth o’r materion y mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu ym maes gofal dementia. Er mwyn sicrhau cydraddoldeb yn y sector hwn, rhaid trafod deunydd sensitif.
Mae'r prosiect hwn wedi sicrhau cymeradwyaeth foesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.
A fyddech cystal â rhannu’r wybodaeth hon yn eang. Mae croeso i unrhyw un dros 18 oed wylio'r ffilmiau a chwblhau'r arolygon. Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy'n astudio iechyd a gofal cymdeithasol neu'n gweithio yn y maes hwnnw, yn ogystal â phobl y mae dementia wedi effeithio arnynt.
Bydd yr arolygon ar gael i’w cwblhau tan 13 Medi.