A ddylem fod yn obeithiol?

15 November 2021

Erbyn hyn, ry’n ni’n gwybod y stori - mae'r argyfwng hinsawdd fan yma, fan yna, ac ym mhobman, ac mae'n frawychus. Ry’n ni’n iawn i boeni, mae pethau'n edrych yn llwm. Ond bydd COP26 unwaith eto'n dwyn ynghyd arweinwyr y byd sy’n addo newid - felly, a ddylem fod yn obeithiol?

Er fy mod fel arfer yn ysgrifennu ag ychydig o obaith, angerdd ac egni sy'n adlewyrchu fy nghred yng ngalluoedd, sgiliau a gweithredoedd pobl gyffredin, yr hyn sy'n fy mhoeni fwyaf yn y cyfnod sy’n arwain at COP26 yw nid yn unig yr argyfwng hinsawdd datblygol, ond fy niffyg ffydd llwyr yn y sefydliadau hyn i ddod yn agos at wireddu ac ymrwymo i'r newidiadau angenrheidiol. Ry’n ni wedi bod fan hyn o'r blaen, a byddwn ni yma eto. Mae'r naratif newid hinsawdd sy'n cael ei yrru o fyny fry gan yr arweinwyr hyn yn tueddu i fod yn rheolaethol, yn dechnegol, ac mae’n annigonol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng hinsawdd. Nid problem amgylcheddol yn unig yw'r hyn rydym yn delio ag ef; rhywbeth y gallem ei ddatrys ar lawr gwlad - mae'n fater gwleidyddol ac economaidd sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn

Mae’n bwysicach nag erioed i ni ddeall a thynnu sylw at yr ymryson am rym sy’n digwydd mewn perthynas â gwleidyddiaeth newid yn yr hinsawdd. Gwyddom fod yr argyfwng hinsawdd yn fwy dinistriol i rai cymunedau nag eraill - er y rhethreg gyffredin, nid yw'n cael ei brofi gan "bawb", ond mae profiadau pobl o newid yn yr hinsawdd yn aml yn adlewyrchu anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol sylfaenol (fel anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a thlodi). Ond, mae’r cyfoethocaf a’r mwyaf pwerus yn dweud yn rheolaidd wrth y bobl sy'n ysgwyddo baich yr argyfwng hwn fod angen iddynt fod yn "wydn", nad yw'n syndod, a dweud y gwir, pan ystyriwch chi’r hyn sydd yn y fantol.

Dangosodd adroddiad Oxfam yn 2020 fod yr 1% cyfoethocaf yn cyfrannu mwy na dwbl allyriadau'r 50% tlotaf. At hynny, gwnaeth adroddiad cynhwysfawr gan y grŵp di-elw CDP dynnu sylw at y ffaith fod dim ond 100 o gwmnïau wedi cynhyrchu 71% o nwyon gwydr diwydiannol y byd ers 1988, a gellir olrhain dros hanner yr allyriadau diwydiannol byd-eang ers y pwynt hwn i ddim ond 25 o gynhyrchwyr corfforaethol a gwladwriaethol. Mae'r un corfforaethau hyn yn cael budd o broblem systemig sy'n cymryd mantais o’r rhai sydd fwyaf agored i'r argyfwng hinsawdd ac yn eu gwthio i mewn i dlodi.  

Image Source: Circle of Sustainable Europe
Gwyrddgalchu Corfforaethol – Cylch Ewrop Gynaliadwy 
Ffynhonnell y Llun: Cylch Ewrop Gynaliadwy
 

Ond, mae cip cyflym ar wefan COP26 yn datgelu problem - mae'n cael ei noddi ac yn bartner â Microsoft ac Unilever, yn ogystal â chorfforaethau mawr eraill sydd wrth wraidd y broblem systemig hon ac sydd hefyd yn meddu ar yr "atebion", yn ôl y sôn. Y canlyniad yw ein bod yn tueddu i weld naratif deublyg yn dod i'r amlwg - ar y naill law, atgyweiriadau technolegol i'r system bresennol (sydd nid yn unig yn methu â herio'r problemau sylfaenol hyn, ond yn ceisio eu cynnal) ac ar y llaw arall, naratifau unigol o newidiadau defnydd ac ymddygiadol (fel peidio â rinsio eich llestri cyn llwytho eich peiriant golchi llestri, yn ôl llefarydd hinsawdd y Prif Weinidog, Allegra Stratton). Nid yw'r sbin gwleidyddol a chorfforaethol hwn ond yn tynnu ein sylw oddi ar y problemau sylfaenol a'r atebion (mae gan McDonald's wellt papur erbyn hyn - ry’n ni wedi ein hachub!)  

Photo Source: the Guardian
Ffynhonnell y Llun: The Guardian   
 

Dyna pam y credaf mai dim ond drwy newid systemig gwirioneddol y gellir ymdrin â'r argyfwng hinsawdd. Mae hyn yn gofyn am ddemocrateiddio ein strwythurau economaidd a gwleidyddol yn ddyfnach fel eu bod yn cael eu gyrru gan ac yn gwasanaethu anghenion a dyheadau pobl gyffredin yn hytrach na rhai'r elît economaidd a gwleidyddol. Fodd bynnag, mae arbrofion ar waith i newid a herio'r strwythurau pŵer hyn, fel Cynulliadau Dinasyddion, sydd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn ymgyrchoedd gwleidyddol ar gyfer cyfiawnder hinsawdd a newid a arweinir gan ddinasyddion, haid o weithredwyr ifanc egnïol, a hefyd fathau o ddinasoliaeth sy'n adeiladu democratiaeth wirioneddol ar lefel leol. Mae'r rhain i gyd yn cynrychioli dinasyddion yn ymladd dros ddyfodol gwyrddach, mwy cyfartal a thecach a, thrwy wneud hynny, ailafael yn yr awenau yng ngwir ystyr y gair. 

Felly, mae gobaith, ond ni fyddaf yn dod o hyd iddo yn COP26.