Cyflwyniad
Mae HARP - Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl - yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Nesta ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd) i ystyried sut y gallwn ni greu, tyfu a dysgu am ddatblygiadau arloesol creadigol ac effeithiol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru.
Mae HARP yn rhaglen ddysgu sy'n cyfuno cyllid grant, adeiladu rhwydweithiau, hyfforddi ac ymchwil gyda 13 tîm o arloeswyr celfyddydol ac iechyd. Rydyn ni’n gwneud hyn gyda chymorth Tîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta, Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru.
Manylebau
Rydym yn chwilio am arbenigwr cyfathrebu i gefnogi tîm HARP a phartneriaid i rannu dysgu o'r rhaglen rhwng nawr a diwedd y rhaglen (Mehefin 2022).
Bydd y person hwn yn gweithio ochr yn ochr â ni 2-3 diwrnod yr wythnos am chwe mis, gan gyfuno'r cyfoeth o ddysgu, tystiolaeth a chanfyddiadau rydym yn eu gweld ac yn cynhyrchu cynnwys creadigol, deniadol i'w rannu â chynulleidfaoedd gwahanol: partneriaid, timau, polisi, arweinwyr iechyd a rhwydweithiau. Byddant yn rheoli cyfathrebu rhagweithiol ar gyfer HARP 'ar lawr gwlad', gan nodi cyfleoedd siarad a chynadleddau ar gyfer tîm HARP, gweithio gyda chyhoeddiadau a chylchlythyrau perthnasol, bod yn ymwybodol o agendâu polisi ac iechyd allweddol a chreu datganiadau i'r cyfryngau i fanteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd hynny.
Byddai'r prosiect hwn yn addas i rywun sydd â sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf, arddull ysgrifennu wych a diddordeb mewn arloesedd yn y celfyddydau a/neu iechyd. Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg hefyd yn ddymunol iawn.
Amcanion i'w cyflawni
- 2-3 Adroddiad Argymhellion Polisi (ac asedau ategol) yn erbyn pynciau Agenda Dysgu HARP, a ddatblygwyd gyda phartneriaid
- Dadansoddi data a delweddu Dysgu HARP - comisiynu neu greu cynnwys hygyrch, diddorol a pherthnasol ar gyfer cynulleidfaoedd allanol mwy cyffredinol
- Ymgysylltu â phartneriaid - bwydo cynnwys i wefannau partner, cylchlythyrau, digwyddiadau, adroddiadau a rhai rhwydweithiau ehangach (Cynghrair Diwylliant, Iechyd a Lles, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Creadigol, cyllidwyr y DU, rhwydweithiau iechyd y DU).
- 3 datganiad i'r cyfryngau am brosiectau a straeon HARP
- Negeseuon Twitter wythnosol am HARP sy'n cynnwys deunydd diddorol o 13 prosiect HARP
- Rheoli, adolygu a golygu blogiau misol gan aelodau tîm HARP
- Rheoli, adolygu a golygu erthyglau misol o brosiectau HARP
Amserlen a chyllideb
Rydym yn rhagweld y bydd y contract hwn yn cael ei ddyfarnu ar sail cyfradd undydd am 2-3 diwrnod yr wythnos o fis Rhagfyr 2021 i fis Mai 2022 (chwe mis).
Sut i gael eich ystyried
Cyflwynwch y canlynol erbyn dydd 17 Tachwedd 2021 am 12pm i gael eich ystyried ar gyfer y gwaith hwn:
- Llythyr eglurhaol yn amlinellu eich profiad perthnasol a pham mae gennych ddiddordeb yn y gwaith hwn
- Eich CV
- Eich cyfradd dydd a sawl diwrnod/pa ddiwrnodau o’r wythnos rydych ar gael i weithio
I gyflwyno eich cynnig neu am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r briff, cysylltwch â [email protected]
Sylwer y bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu manylion cyswllt dau ganolwr cyn i gontract gael ei ddyfarnu.