Cyfnodolyn HARP: Gorffennaf 2021

Croeso i Gyfnodolyn HARP! Yma, byddwn yn rhannu newyddion a dysgu newydd o raglen ‘HARP’ (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl) pob mis yn ystod 2021-22. Thema’r mis hwn yw Llwybrau.

Gorffennaf 2021

Diweddariad Rhaglen - Camu Allan

Mae hi wedi bod yn adeg brysur yn HARP wrth i’r prosiectau a’r timau rydym yn eu cefnogi ddechrau camu allan o ‘sefydlu’ a dechrau rhedeg sesiynau. Rydym yn parhau i gael ein hysbrydoli gan yr arloesedd rydym yn ei weld gan y timau wrth iddynt lywio darpariaeth ‘hybrid’ (cymysgedd o ar-lein ac wyneb yn wyneb), briffiau arfarnu a system iechyd a gofal wedi’i niweidio. Eu positifrwydd nhw, eu parodrwydd i fod yn hyblyg a datblygu ac addasu eu ffyrdd o feddwl, yw beth sy’n gwneud HARP mor gyffrous!  

Fel y nodwyd eisoes, yn HARP rydym yn gweithio gyda 13 tîm o bartneriaid celfyddydau ac iechyd sy’n gweithio gyda ni i hadu, tyfu a chynnal ystod fawr o brosiectau creadigol i gefnogi iechyd a lles pobl yng Nghymru. Gallwch ddysgu rhagor am ein partneriaid a lleoedd yma.

Mae cynnydd ar Egin HARP yn parhau, ble rydym wedi bod yn creu partneriaethau rhwng lleoedd iechyd ac artistiaid i arbrofi gyda datrysiadau creadigol newydd i heriau iechyd allweddol. Bellach, mae’r timau wedi dechrau profi eu syniadau: mae un tîm yn casglu straeon gan weithwyr GIG du ac un arall yn cynnal sesiynau grwpiau ffocws creadigol i bobl sydd wedi profi trais rhywiol. Rydym yn gyffrous o ran y cysyniad o ddefnyddio dulliau creadigol i ddeall profiadau bywyd pobl fel bod modd i’n sefydliadau iechyd a gofal lywio cefnogaeth well ar eu cyfer nhw. Gallwch ddysgu mwy am hyn yn ein sbotolau isod!

Yn Borthi HARP, rydym wedi bod yn profi ac yn addasu ein dull o ran yr elfennau hyfforddi a dysgu rydym wedi’i sefydlu ar gyfer ein 10 tîm arloesol. Rydym hefyd wedi parhau i fireinio sut rydym yn cynnal ein ‘grwpiau dysgu’ sy’n cwrdd pob chwe wythnos i drafod pum pwnc allweddol yr ydym yn credu y mae angen i ni wybod mwy amdanynt er mwyn i’r prosiectau celfyddydau ac iechyd gael eu hymgorffori mewn systemau iechyd. Y rhain yw tystiolaeth, llwybrau atgyfeirio, cyflawniad, adeiladu dealltwriaeth a rennir o werth a chyllid. Rydym yn cynnal trafodaethau gwych yn y sesiynau hyn ac eisoes yn gwneud cynnydd o ran adeiladu dealltwriaeth ar y cyd am y pynciau allweddol hyn. Rydym hefyd yn gweld y pŵer syml o ddod â phobl at ei gilydd i rannu dysgu. Pob mis yn y Cyfnodolyn hwn, byddwn yn canolbwyntio ar un o’r pynciau hyn ac yn rhannu beth rydym yn ei ddysgu, Llwybrau yw hynny'r mis hwn! 

Sbotolau ar Brosiect - New Pathways

Elusen yw New Pathways sy’n cefnogi pobl sy’n cael eu treisio neu sy’n profi trais rhywiol. Yng Nghymru, mae trais rhywiol yn effeithio ar oddeutu 70,000 o bobl. Mae stigma a chywilydd yn rhwystrau enfawr, ac mae ystyriaethau ymarferol yng Nghymru, megis bod yn ynysig mewn ardaloedd gwledig, cysylltiadau trafnidiaeth a thlodi digidol yn gyffredin; mae’r rhain yn benodol yn effeithio ar y rheiny gyda chyflogau isel neu sy’n dod o grwpiau sydd eisoes yn ymylol. Afraid dweud bod y rhain yn heriau iechyd mawr sy’n effeithio ar lawer o bobl.

Does dim proffil arferol i’r grŵp cleientiaid New Pathway, felly her barhaus iddyn nhw yw sicrhau bod pobl yn ymgysylltu gyda’u gwasanaethau yn y lle cyntaf. Ymunodd y sefydliad â’n rhaglen Egin HARP fis Ionawr 2021, gan obeithio dysgu sut gallai creadigrwydd eu helpu nhw i ymgysylltu â phobl na fyddai’n gwneud hynny o bosibl fel arfer. Gyda chymorth Y Lab a thîm Canlyniadau dan Arweiniad Pobl Nesta, adeiladodd New Pathways dîm traws-sector i weithio ar yr her iechyd hon. Y nod penodol oedd cynyddu mynediad yng nghanolbarth Cymru, lle roedd niferoedd atgyfeirio asiantaeth/gwasanaeth (a hunangyfeirio) yn isel.

Gwnaethom daflu’r rhwyd yn eang drwy alwad agored ar gyfer artistiaid; yn achos New Pathways, helpodd Seed i froceru partneriaeth newydd gyda dau artist ffantastig (Jain Boon a Matilda Tonkin-Wells), sy’n deall trawma ac sy’n gwerthfawrogi’r broses o arloesedd a gweithio mewn tîm.

Awgrymodd Matilda a Jain y dylai’r tîm ymdrin â’r dasg drwy gynnal grwpiau ffocws creadigol, gyda chleientiaid New Pathways hen a newydd, er mwyn dysgu pa fath o weithgareddau creadigol allai fod o ddiddordeb iddyn nhw, helpu i leihau stigma a helpu New Pathways i ddod o hyd i ragor o bobl sydd angen cefnogaeth.  

Photo shows a still from a Zoom call with the members of the New Pathways seed team
Tîm Hadu HARP New Pathways

Er bod y sefydliad wedi arfer gyda rhedeg ymgynghoriad neu sesiynau gwybodaeth, mae’r syniad o ymgorffori gweithgareddau creadigol i’r rhain wedi agor i fyny math gwahanol o gyfathrebu gyda chleientiaid, yn annog pobl i rannu’n fwy rhydd, yn ddiogel ac yn greadigol am eu profiadau, gan leoli risg mewn ffordd ddiogel. Y gobaith yw y bydd y tîm yn datblygu rhai o allbynnau creadigol - gwaith celf o bosibl, ffilmiau neu bodlediadau, gan ychwanegu tudalen ‘Cornel Cleientiaid’ ar eu gwefan y mae modd ei rannu’n gyhoeddus i helpu pobl eraill sydd angen cefnogaeth i ddod o hyd i’r nerth i siarad allan. Creda New Pathways bod hyd yn oed mynychu’r grwpiau ffocws wedi bod yn bwerus ac wedi grymuso cleientiaid a staff, sydd wedi gwneud cais i barhau i gwrdd i gefnogi eu hadferiad. Yn bwysicach na dim, ar ôl cymryd y cam dewr hwn i’r celfyddydau ac iechyd, mae’r sefydliad eisoes yn ymgysylltu â phrosiectau a gweithgareddau creadigol eraill i godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau cymorth ac i rannu straeon pobl sy’n cael eu heffeithio gan drais rhywiol. Maent hefyd yn ymchwilio ffrydiau cyllid newydd a gwahanol.

Yn hyn o beth, rydym wedi dysgu llawer gan y tîm hwn ynghylch pa mor wahanol all effaith edrych mewn sefydliadau. Er enghraifft, gall effaith ar gyfer New Pathways olygu unrhyw beth o achub bywyd i gael rhywun i edrych drwy’r llenni a chymryd y cam cyntaf at ail-gysylltu gyda’r byd. Mae Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol New Pathways wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i gynnal y syniadau sy’n gweithio o’u cyllid craidd eu hunain, yn ogystal â rhannu’r dysgu gyda sefydliadau iechyd a gofal eraill fel bod modd iddynt efelychu’r gwaith y maent wedi’i wneud, gan arwain at ragor o fywydau’n cael eu newid - a llawer mwy o lenni’n cael eu hagor.

Pwyntiau dysgu y mis hwn: Llwybrau

Fel sy’n amlwg o stori New Pathways, elfen fawr ar brosiectau cyfranogol y celfyddydau ac iechyd yw gallu cysylltu gyda phobl all fod eisiau cymryd rhan yn eich prosiect. Mae nifer o lwybrau ‘atgyfeirio’, a’r mis hwn rydym wedi bod yn meddwl am y diddordeb cenedlaethol cynyddol yn yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘ragnodi cymdeithasol’, mudiad sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i gyfeirio pobl at ystod o wasanaethau lleol, nad ydynt yn glinigol, i gefnogi eu hiechyd a’u lles. Mae’r mudiad yn cynnig cyfleoedd mawr i ddarparu ymagweddau mwy holistaidd o ran iechyd a gofal, fodd bynnag, mae her o ran addasu prosesau gweinyddol sefydliadau iechyd a gofal i le ble mae pobl yn cael cynnig ymyriadau nad ydynt yn rhai meddygol ar gyfer eu hiechyd. Drwy ein gwaith gyda’r timau HARP, rydym yn gweld y themâu a’r heriau hyn yn codi ynghylch y pwnc:

Y naid athronyddol: mae’r cysyniad o ragnodi cymdeithasol yn golygu newidiadau diwylliannol sylweddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Mae mabwysiadu barn y gall gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol atal neu helpu i reoli salwch yn golygu bod angen naid athronyddol i’r rhai ohonom sy’n draddodiadol yn disgwyl i feddygon roi ‘datrysiad’ syml, megis pilsen, rhwymyn neu lawdriniaeth. Mae’n golygu pylu’r ffiniau ynghylch systemau iechyd a gofal, gan ystyried ein hiechyd - yn benodol ein hiechyd meddwl - yn rhywbeth sydd â sawl agwedd, sy’n cael ei ddylanwadu gan bob agwedd ar ein bywydau. Y gofod hwn y mae prosiectau celfyddydau ac iechyd fel arfer yn eu meddiannu, felly drwy lwc, bydd ein dull HARP o ran cefnogi sefydliadau celfyddydol ac iechyd i weithio mewn partneriaeth yn helpu i addasu’r naratifau hyn.

Cyfrifoldeb pwy yw rhagnodi cymdeithasol?: Yma yng Nghymru mae gennym sail gref dros y naid hon: ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n cael ei hystyried yn flaengar, ac yn ddull polisi holistaidd o ran ein cadw ni’n iach. Y cam nesaf yw sut gallwn ni weithredu hyn yn achos rhagnodi cymdeithasol. Yn Lloegr, mae’r GIG wedi ariannu ‘gweithwyr cyswllt’ ar gyfer gofal sylfaenol (meddygon teulu) ledled y wlad. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae dull ymatebol mwy lleol; mae rhai ardaloedd wedi pennu gwasanaethau cysylltiadau cymunedol yn y cynghorau, mae rhai eraill wedi defnyddio cymdeithasau gwirfoddol, a rhai byrddau iechyd hefyd wedi ffafrio’r llwybr gofal sylfaenol fel Lloegr. Nid yw’r ymagweddau hyn yn ecsgliwsif, gallant gyd-fyw mewn meysydd penodol ac mae teitlau swyddi’n amrywio hyd yn oed: Cydlynydd Ardal, Rhagnodwr Cymdeithasol, Cysylltwr Cymunedol. Mae’r ffocws lleol hwn yn arwain at fanteision i ymarferwyr celfyddydau ac iechyd, mae’n galluogi pobl leol, rhwydweithiau a darparwyr i arwain y ffordd; fodd bynnag mewn termau ymarferol, gall fod yn system anodd ei llywio, gan ei bod yn eithaf tameidiog ledled Cymru (felly mae gan rai ardaloedd ddarpariaeth well na rhai eraill). Mae hefyd cred ymysg rhai timau HARP bod awdurdodau lleol neu gymdeithasau gwirfoddol o bosibl mewn sefyllfa well i wneud y gwaith hwn na byrddau iechyd, gan bod eu poblogaethau llai a’u cylch gwaith yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa well i feddwl yn holistaidd am iechyd a lles.

Dod o hyd i ffynonellau: Yn y cyfnod ôl-argyfwng wedi Covid, mae systemau iechyd a gofal yn delio gyda llwyth gwaith uchel, gweithlu blinedig a chynnydd mawr mewn teimlo’n ynysig ac iechyd meddwl gwael. Gallai gweithgareddau celfyddydol chwarae rhan fawr o ran lleddfu pwysau ar y system, a helpu pobl yn fwy ystyrlon na dim ond ‘diffodd y tân’. Mae ein timau HARP yn dysgu, er mwyn i ragnodwr cymdeithasol neu gysylltwr cymunedol hwyluso cyfranogiad i bobl mewn gweithgareddau celfyddydol, maent angen buddsoddi amser mewn llywio beth sydd ar gael, a rhoi hwb i hyder pobl i gymryd y naid athronyddol honno ac ymgysylltu gyda rhywbeth newydd. Wrth wraidd hyn oll mae perthnasoedd. Mewn rhai prosiectau HARP mae hyn yn gweithio’n dda: mae cysylltwyr cymunedol yn mynychu prosiectau gyda phobl, yn datrys anghenion technoleg ar gyfer prosiectau ar-lein ac yn gafael yn nwylo pobl, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. Fodd bynnag, noda rhai eraill bod cysylltwyr cymunedol yn rhy brysur i wneud llawer mwy na rhoi rhif i bobl ei ffonio, sy’n aml ddim yn ddigon. Y neges gan ein timau HARP yw y gallai buddsoddi mewn nifer fwy o gysylltwr cymunedol arwain at fuddion hirdymor i bobl a lleihau’r pwysau ar systemau.

Cysondeb a chyllid:  O bersbectif cysylltwyr cymunedol, nod allweddol iddyn nhw yw cysylltu gyda sefydliadau celfyddydol cymunedol a phrosiectau celfyddydau ac iechyd y gallant ddibynnu arnynt i fod a) o safon uchel a b) cael eu cynnal yn yr hirdymor. Ond heb lwybrau clir at gynaliadwyedd, gall prosiectau celfyddydol ac iechyd fod yn annibynadwy o ran cyfeirio pobl atynt. Beth sy’n digwydd os yw person yn credu bod prosiect celfyddydol yn newid bywyd, ond bod y gwasanaeth hwnnw’n dod i ben yn ddigon sydyn? Oni fyddai’n well peidio â chyfeirio yn y lle cyntaf? Mae rhai’n credu, ochr yn ochr â chyllid i’w timau, y byddai’n help mawr pe byddai cyllid craidd hirdymor ar gael drwy awdurdodau lleol a Sefydliadau Gwirfoddol er mwyn cynnal grwpiau iechyd a chelfyddydol na fyddai o bosibl yn goroesi fel arall.

Cysondeb a chyllid:  O bersbectif cysylltwyr cymunedol, nod allweddol iddyn nhw yw cysylltu gyda sefydliadau celfyddydol cymunedol a phrosiectau celfyddydau ac iechyd y gallant ddibynnu arnynt i fod a) o safon uchel a b) cael eu cynnal yn yr hirdymor. Ond heb lwybrau clir at gynaliadwyedd, gall prosiectau celfyddydol ac iechyd fod yn annibynadwy o ran cyfeirio pobl atynt. Beth sy’n digwydd os yw person yn credu bod prosiect celfyddydol yn newid bywyd, ond bod y gwasanaeth hwnnw’n dod i ben yn ddigon sydyn? Oni fyddai’n well peidio â chyfeirio yn y lle cyntaf? Mae rhai’n credu, ochr yn ochr â chyllid i’w timau, y byddai’n help mawr pe byddai cyllid craidd hirdymor ar gael drwy awdurdodau lleol a Sefydliadau Gwirfoddol er mwyn cynnal grwpiau iechyd a chelfyddydol na fyddai o bosibl yn goroesi fel arall.

Y tro nesaf, byddwn yn edrych ar fodelau cyflawni celfyddydau ac iechyd arloesol.  

Dolenni Diddorol

  • Wrth i bandemig COVID-19 waethygu yn ystod gaeaf 2020, a’r pwysau ar staff y GIG yn cynyddu, aeth Amgueddfa Cymru â’r casgliad celf genedlaethol i ysbytai er mwyn rhoi cysur i staff a chleifion: Tirwedd Cymraeg Enwog, golygfeydd o Gymru'n cael eu defnyddio i addurno ysbytai’r GIG yng Nghymru at ddibenion Lles
  • Mae Coleg y Brifysgol Llundain yn cynnal cwrs ar-lein am ddim i’ch helpu i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso gwaith iechyd a lles o fewn sefydliad amgueddfa, celfyddydau, treftadaeth neu ddiwylliannol: Diwylliant, Iechyd a Lles: Cyflwyniad | Cyrsiau Byr
  • Dysgwch ragor am y prosiect y mae HARP Borthi yn ei gefnogi, Ar Y Dibyn - cwrs creadigol iaith Gymraeg i bobl sy’n profi camddefnyddio sylweddau, a gyflawnir gan Theatr Genedlaethol Cymru a’u partneriaid. Mae galwad ar gyfer hwyluswyr artistiaid a chyfranwyr yma.

Ariennir HARP gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Loteri Genedlaethol, Caiff ei gyflawni gan Y Lab, partneriaeth rhwng Nesta a Phrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru a Chonffederasiwn y GIG Cymru.

Image shows three lottery funding logos for Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government