Beta Welcome to the new Y Lab website. If you'd like to share some feedback, please get in touch

Pam ymunais i â’r Lab: Cyflwyno Dr Steve Garner

Mae’n bleser gennym groesawu Dr Steve Garner i’r tîm. Yn ei flog cyntaf i’r Lab, mae’n rhannu ei gefndir ymchwil a beth mae’n bwriadu canolbwyntio arno nesaf.

Rwy’n gymdeithasegydd sy’n arbenigo ynghylch anghydraddoldeb a hunaniaeth, yn arbennig rhai sy’n ymwneud â thras, cenedligrwydd, dosbarth a chenedl a’r modd maen nhw’n ymwneud â’i gilydd. Rwyf wedi cyhoeddi llawer am y meysydd hynny, yn benodol, white identities.

Rwyf i wedi ymuno â’r Lab ar ôl treulio blwyddyn yng Nghaerdydd eisoes gan weithio’n rhan-amser mewn prosiect am lywodraethu addysg bellach yn y deyrnas hon o dan nawdd ESRC, i gyflawni gwaith maes yng Nghymru.

Sut mae fy ngwaith yn berthnasol i bolisïau cyhoeddus? Bydd y ffyrdd mae pobl yn ystyried eu hunaniaeth nhw a hunaniaeth carfanau eraill yn effeithio ar eu hagweddau atyn nhw a’u syniadau amdanyn nhw. O ganlyniad i’r dylanwad hwnnw, byddan nhw’n cefnogi neu’n gwrthwynebu polisïau addysg, tai, budd-daliadau a mewnfudo, er enghraifft.

Bydd y ffyrdd mae pobl yn ystyried eu hunaniaeth nhw a hunaniaeth carfanau eraill yn effeithio ar eu hagweddau atyn nhw a’u syniadau amdanyn nhw.

Bydd teimladau cryf am berthyn a’r hawl i fynnu adnoddau (pwy sy’n haeddu beth a pham) yn cyfeirio sawl ymateb i bolisïau cyhoeddus. Fel arfer, bydd arweinyddion a gwleidyddion yn ceisio newid polisïau er poblogrwydd. Bydd sylw ar batrymau o’r fath yn llywio eu ffyrdd o arwain a’u penderfyniadau strategol. Os na ddeallan nhw’r berthynas gymdeithasol briodol, fodd bynnag, bydd y tybiaethau sydd wrth wraidd yr ymateb i bolisïau yn anghywir. Fydd polisïau effeithiol ddim yn deillio ohoni. Un enghraifft o hynny ar hyn o bryd yw patrymau profiad a deilliannau o ganlyniad i hiliaeth ym maes addysg uwch. Yn sgîl cyhoeddi adroddiad arall sy’n honni bod hiliaeth yn rhemp yn addysg uwch y deyrnas yr wythnos hon, mae’r drafodaeth yn ôl at yr un hen sefyllfa lle nad yw’r prif syniad wedi’i ddeall yn eglur, hyd yn oed gan yr asiantaeth wladol a gynhaliodd yr ymchwil. Fel anffafrio yn ôl rhyw, rhywioldeb, crefydd neu ddosbarth, er enghraifft, mae hiliaeth yn berthynas sy’n ymwneud â grym. Dyw hi ddim yn ymwneud â pherthynas pobl â’i gilydd, ond strwythurau hirsefydlog a mathau o ymddygiad sefydliadol sy’n cynhyrchu patrymau hawdd eu hadnabod. Mynegir y patrymau hynny mewn amryw ffyrdd, megis pwy sydd o’r farn bod ganddo hawl i bennu’r hyn sy’n arferol, a phwy sydd gan y grym i herio hynny fel y bydd yr hyn sy’n arferol yn ymddangos yn ‘afresymol’ neu’n ‘fygythiol’, hyd yn oed. Nid dim ond meintiol y dylai manylion dadansoddi tiriogaeth o’r fath fod.

Wrth gyfweld cannoedd o bobl ar gyfer fy amryw brosiectau ymchwil ledled Lloegr dros y degawd hyd at 2016, daeth rhai patrymau i’r amlwg dro ar ôl tro ynglŷn â’r modd mae pobl yn deall materion mewnfudo yng nghyd-destun polisïau cyhoeddus a’r modd maen nhw’n uniaethu â chymunedau lleol a chenedlaethol, yn arbennig o ran cymathu, er enghraifft. Rhaid i ymchwilwyr polisïau cyhoeddus fod yn effro i oblygiadau’r syniadau maen nhw’n eu defnyddio a’r cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer eu dadansoddi.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn dau brif faes i ddechrau. Yn gyntaf, helpu i werthuso prosiect Arloesi i Arbed, gan drin a thrafod y data a gasglwyd yn ystod y prosiect a lledaenu’r hyn a ddysgwyd trwy hynny. Gallaf i gyfrannu trwy fy mhrofiad o ddefnyddio dulliau ansoddol, hefyd. Yn ail, bydda i’n helpu i ddatblygu gallu’r Lab ym meysydd ymchwil a chyhoeddi trwy gydweithio â’r staff sydd am gyflwyno canlyniadau ymchwil o safon trwy gyfrwng papurau o safon.