People Holding Hands

Cefnogi Arloesedd Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Rhaglen Ymchwil Defnyddwyr

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022 cynhaliodd Y Lab a Chanlyniadau Pŵer Pobl Nesta ymchwil gyda 70 o bobl o bob rhan o faes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Fe ddysgon ni fod:

  • pobl eisiau newid ac yn meddwl ei fod yn angenrheidiol.
  • ond mae'r system yn creu anghydraddoldeb: nid yw pawb yn cael yr un cyfle i arloesi yng Nghymru.
  • maent am i waith gael ei wneud ar y system i liniaru pwysau a hefyd i roi cymhelliant iddynt sicrhau canlyniadau gwell.

 

Nod yr ymchwil oedd nodi ffyrdd y gall Gofal Cymdeithasol Cymru gefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol yn well. Gwnaethom ei chynllunio a'i chyflwyno i fod yn sensitif i gymhlethdod y system gofal cymdeithasol, defnyddio fframweithiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a gweithio'n gyson gyda rhanddeiliaid allweddol. Hyd yn oed cyn i'r prosiect ddod i ben, dylanwadodd yr ymchwil defnyddwyr yn uniongyrchol ar ddyheadau, buddsoddiad a chamau gweithredu'r sector.

Amcanion allweddol y prosiect oedd:

  • rhoi dealltwriaeth o’r cyfleoedd a'r rhwystrau o ran arloesedd yng Nghymru drwy weithio gydag ystod eang o bobl, gan gynnwys: llunwyr polisïau, staff rheng flaen, eiriolwyr, pobl â phrofiad o lygad y ffynnon, a'r rhai sydd â phrofiad o arloesi
  • helpu Gofal Cymdeithasol Cymru i nodi rhanddeiliaid allweddol a datblygu cynllun gweithredu i gefnogi arloesedd lle bo angen;

datblygu personâu sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fod yn fodd o gyfathrebu gyda'r sector cyhoeddus ehangach.

Nododd ein hymchwil 3 Maes Gweithredu allweddol  ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi arloesedd a 6 Maes Her  — pwyntiau ffrithiant cylchol sy’n mygu arloesedd mewn gofal cymdeithasol, a 10 Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Gofal Cymdeithasol. Edrychwch ar yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am ganfyddiadau ac allbynnau ein hymchwil.

Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Available Downloads

Crynodeb Gweithredol / Executive summary

Adroddiad Terfynol / Final Research Report

Tri Gorwel / Three Horizons

Personas Personas Available HERE / Ar gael YMA

Os yw'n well gennych, gwyliwch ein cyflwyniad 50 munud ar gyfer Ysgol Haf DPP Rithwir 2022 Prifysgol Caerdydd.

Mae'r cyflwyniad cyfan yn cael ei isdeitlo yn y Gymraeg, o 2'50 ar ôl fideo rhagarweiniol yr Ysgol Haf.

https://www.youtube.com/watch?v=0zNUU7l_Jtc