29th September 2023
Yn ei llyfr newydd, Nuts & Bolts, mae Roma Agrawal yn nodi bod y pwmp bronnau trydan wedi’i ddyfeisio’n llawer hwyrach nag y gallem fod wedi meddwl: y 90au. Ei hesboniad am yr oedi yw bod peirianneg wedi cael ei dominyddu ers tro gan ddynion. Wrth i’r proffesiwn agor yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae fersiynau a ddyluniwyd gan fenywod wedi dod i’r golwg – ac wedi blaenoriaethu nodweddion y gallai rhieni sy’n rhoi llaeth eu ffafrio, megis tawelwch. Mae’n stori arall sy’n dangos, mewn sawl ffordd, fod pwy sy’n cael arloesi yn pennu pwy sy’n cael manteision arloesi.
Ond nid ym maes datblygu cynnyrch arloesol yn unig y mae hyn yn digwydd. Mae’n digwydd mewn gwasanaethau hefyd, ac efallai’n bwysicaf oll mewn gwasanaethau cyhoeddus. Un o’r cwestiynau rydym yn ei ofyn yn barhaus i sefydliadau yn Y Lab, p’un a ydynt yn gweithio ym maes tai, gofal neu rywle arall yn y gwasanaethau cyhoeddus, yw: ‘A yw eich syniad newydd yn ystyried anghenion a dymuniadau’r bobl sy’n mynd i fod yn ei ddefnyddio?’
Pan ddarllenais astudiaeth yn dangos bod rhwystrau yn y ffordd y mae gweision sifil arloesol yn arloesi, cysylltais â Nesta ynglŷn â’u grantiau.1 Roeddent wedi bod yn cefnogi arloeswyr gwasanaethau cyhoeddus, fel y gweision sifil hynny, gydag arian parod a chyngor ers degawd neu fwy. Yn ôl pob golwg, gallai eu cymorth fod yn lifer pwysig ar gyfer agor arloesedd i ystod ehangach o bobl – neu, heb sylw gofalus, ei gau yn anfwriadol.
Roedd ganddynt ddiddordeb mewn darganfod a oedd rhagfarn ar sail rhywedd yn y ffordd roeddent yn rhoi grantiau, felly dyna oedd sail gychwynnol yr astudiaeth a gwblhawyd gennyf ar eu cyfer. Roedd ganddynt ddiddordeb hefyd mewn ble yn y DU yr aeth eu harian. O 1998, derbyniodd Nesta tua £360m gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau. Gan fod chwaraewyr y Loteri yn dueddol o fod yn dlotach, roedd sensitifrwydd amdani’n sianelu’r arian i Lundain ffyniannus.2 Er y byddai hyn yn annheg, gallai hefyd greu datblygiadau arloesol gwaeth: efallai na fyddai gwasanaeth cyhoeddus a ddyluniwyd ym mhrifddinas y DU yn gwneud synnwyr mewn ardaloedd gwledig, y gwledydd datganoledig na hyd yn oed rhanbarthau Lloegr. Felly, ehangais gwmpas yr astudiaeth i gynnwys daearyddiaeth yn ogystal â rhywedd.
Roedd y data a rannodd Nesta â mi yn cynnwys tua £10m mewn grantiau a roddodd rhwng 2016 a 2020. Mae hynny’n cynrychioli ychydig o dan draean o’r arian a roddodd dros y cyfnod hwnnw. Hoffwn dynnu sylw at ddau ganfyddiad: yn gyntaf, yn ôl pob golwg, mae ymgeiswyr o Lundain wedi cael eu ffafrio, gan eu bod yn llawer mwy tebygol o gael cyllid nag ymgeiswyr o fannau eraill yn Lloegr. Roeddent mor amlwg fel eu bod yn pwyso ar y nifer fach o ymgeiswyr o rannau eraill o’r DU. Ni enillodd ymgeiswyr yng Nghymru un grant o’r deuddeg cronfa ariannu y gwelais eu data.3 Cafodd Gogledd Iwerddon un neu ddau (yn dibynnu ar ba ran o ddata Nesta rydym yn edrych arno).
Yr ail ganfyddiad yw bod rhywedd wedi gwneud gwahaniaeth, ond nid lle y gallem fod wedi ofni. Ni chanfûm fod paneli dyfarnu grantiau â rhagfarn o ran rhywedd yn seiliedig ar y data a oedd gennyf. Yr hyn a welais oedd rhywedd yn dod i rym yn y ffordd roedd rhaglenni grant yn cael eu strwythuro. Er enghraifft, sefydlwyd un gronfa i wella technoleg a ddefnyddir mewn ysgolion. Fodd bynnag, rhoddwyd yr arian yn uniongyrchol i gwmnïau technoleg, sydd â gweithlu gwrywaidd yn bennaf, gan osgoi’r athrawon benywaidd yn bennaf a fyddai’n defnyddio’r datblygiadau arloesol. Nid yw hyn i ddweud bod menywod wedi’u heithrio o’r broses, ond roedd y strwythur hwn yn golygu nad nhw oedd wrth y llyw ychwaith.
Rydw i wedi gweithio’n agos gyda Nesta ers blynyddoedd ac maen nhw bob amser yn dweud wrth eu derbynwyr grantiau am bwysigrwydd gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau.4 Ond, yn ôl pob golwg, roedd fel nad oeddent yn deall y ffordd y maent wedi meddwl am eu rhaglenni grant. Mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn egwyddor y gallwn gytuno arni, ond mae’n ymddangos bod Nesta wedi’i chael hi’n anoddach cefnogi hyn yn ymarferol.
Byddwn yn cynnig y cyngor canlynol i unrhyw sefydliad sy’n meddwl am gronfa arloesedd. Dewch o hyd i ffyrdd o roi’r rheolaeth i’r bobl sy’n bwysig. Mae hynny, mae’n debyg, yn golygu bod cymorth ariannol yn mynd yn uniongyrchol i staff rheng flaen a defnyddwyr gwasanaethau, yn hytrach na rheolwyr a chyfryngwyr mewn sefydliadau canolog. Nid yw hynny’n golygu nad oes gan yr olaf ddim i’w gyfrannu, ond gadewch iddynt gael eu gwahodd i’r bwrdd gan y defnyddwyr gwasanaeth, nid y ffordd arall. Pe bai Nesta yn dechrau rhoi grantiau eto, byddwn yn argymell eu bod yn neilltuo cyllid ar gyfer gwledydd y DU, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.
I sefydliadau sy’n adolygu eu dyfarniadau grant: edrychwch ar y data cyffredinol sydd gennych. Edrychwch a yw’r panel yn gwneud penderfyniadau mewn modd rhagfarnllyd yn ogystal ar yr holl bibellau, o ffocws strategol y gronfa hyd at ei hyrwyddo a’i chyflawni. Byddwn wedi methu canfyddiadau diddorol am rywedd a daearyddiaeth ymgeiswyr a derbynwyr grantiau pe na bawn wedi gwneud hyn. Os nad oes gennych ddata da, mae grŵp o roddwyr grantiau yn datblygu safonau data ar gyfer tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddyfarnu grantiau y gallwch chi ddilyn eu gwaith.
Gellir lawrlwytho’r adroddiad llawn yma.
Mae Y Lab yn ddiolchgar am gymorth ariannol Nesta; heb hynny ni ellid bod wedi cynnal y prosiect ymchwil hwn.
1 van Acker, W. et al. (2018) Illuminating the Gender Divide in Public Sector Innovation: Evidence From the Australian Public Service. Public Personnel Management. 47:2. Tt 175-194.
2 Oakley, K. et al. (2014) The National Trust for Talent? NESTA and New Labour’s Cultural Policy. British Politics. 9:3. Tt. 297-317.
3 Cynhaliodd Nesta un rhaglen ariannu, gydag Y Lab, yn y cyfnod hwn, a ddosbarthodd arian Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl i Gymru, ond ni rannwyd y data hwn fel rhan o’r astudiaeth hon.
4 Roedd yn drist eu gweld yn symud cyfeiriad oddi wrth y math hwn o gyllid yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y gall ei wneud ochr yn ochr â chymorth staff medrus.