Pam mae amrywiaeth yn bwysig ym maes gofal dementia?
Prin iawn yw'r hyn rydym yn ei wybod am brofiadau o dementia a'r heriau ychwanegol sy'n wynebu cymunedau sydd â sawl hunaniaeth sy'n gysylltiedig â chefndir ethnig, rhywioldeb, anabledd a dosbarth.
Gwybodaeth am y prosiect
Mae'r prosiect ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ddeall y gwahanol ffyrdd y mae dementia yn cael ei brofi gan gymunedau amrywiol ledled Cymru. Ei nod yw cyfrannu at gynyddu cyfranogiad a gwella gwasanaethau dementia i'r cymunedau hynny.
Gall stigma ar draws nam gwybyddol, dementia ac anabledd corfforol gyd-ddigwydd a gallant ryngweithio â mathau eraill o stigma sy'n gysylltiedig â hunaniaethau cymdeithasol gan gynnwys hil, rhywedd a rhywioldeb.
Mae pobl sy'n byw gyda dementia’n profi stigma’n arw a chymunedau lleiafrifol yn enwedig. Mae hyn oherwydd gall greu rhwystrau ychwanegol rhag cael mynediad at gymorth cymdeithasol a strwythurol angenrheidiol, a all ddwysáu eu profiadau o eithrio ac anweledigrwydd.
Ein nodau
Nod y prosiect hwn yw mynd i'r afael â'r bwlch sylweddol hwn wrth ddeall anghenion cymunedau amrywiol o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yng Nghymru, ac ymgysylltu â nhw.
Er mwyn cyflawni'r nod hwn, bydd y prosiect yn cyflawni’r amcanion canlynol:
- Ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb a thrafodaethau ar-lein
- Rhannu a chyfleu canfyddiadau trwy ddulliau creadigol yn ôl i'r cymunedau sydd wedi ymgysylltu a darparwyr gofal iechyd perthnasol
- Datblygu pecyn cymorth cymhwysedd diwylliannol dementia i gefnogi cynhwysiant cymunedau amrywiol o bobl â dementia a gofalwyr mewn ymchwil
- Defnyddio'r canfyddiadau i gynhyrchu syniadau prosiect ymchwil newydd gyda'r sefydliadau sy'n cymryd rhan fel cyd-ymgeiswyr.