Proffil
Rwy’n gweithio ar gyfeiriad strategol y Lab a’r gwaith o ddatblygu rhaglenni newydd, gan ganolbwyntio ar ymchwil yn benodol.
Cefndir
Gweithiais fel ystadegydd ac epidemiolegydd yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (LSHTM) am ddeuddeg mlynedd, gan weithio ar dreialon datblygiadau arloesol ym maes iechyd yn Ne Affrica, Zambia, Periw, India, Tsieina, ac ati. Bûm yn byw yn Johannesburg am saith mlynedd ac yn ddirprwy gyfarwyddwr Canolfan Werthuso LSHTM.
Prosiectau
Popeth!
Pan na fyddaf yn gweithio
Rrwy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored, felly mae byw yn ôl adref yng Nghymru yn wych! Rwy'n dal i ddweud wrthyf fy hun fy mod am ailafael mewn gweithgareddau dringo creigiau. Rwy'n hoffi garddio... wel... gwylio Garderner’s World tra bydd fy ngwraig yn gwneud yr holl waith yn yr ardd mewn gwirionedd... Ac mae gennym gath o'r enw Frankie (sy’n fyr ar gyfer Frankenstein).