Proffil
I am a Research Associate at Y Lab.
Background
Rwy'n hoffi disgrifio fy ymarfer fel ‘anthropoleg sy'n seiliedig ar ddylunio’, gan gyfuno egwyddorion dylunio cyfranogol â mewnwelediadau dwfn i bobl, diwylliant a chyd-destun. Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o gyd-destunau rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol yn cefnogi ymarferwyr, pobl â phrofiad bywyd, a gweision cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o fy mhrofiad methodolegol yn seiliedig ar gyd-greu ochr yn ochr ag oedolion sydd ag anableddau deallusol a phobl ddigartref.
Ar hyn o bryd, mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys amlinellu problemau, datblygiadau arloesol mewn llywodraethu, a defnyddio dulliau cyfranogol i hwyluso camau ystyrlon tuag at newid systemau. Rwyf wedi cynnal astudiaethau ymchwil annibynnol yn Sbaen, Chile ac Awstralia, ac rwy’n hapus i rannu cyflwyniadau arnynt. Roeddwn yn canolbwyntio ar gydlunio ar gyfer polisi cyhoeddus a llunio astudiaethau ymchwil cynhwysol er mwyn deall stigma a gwahaniaethu.
Prosiectau
Rwy'n cefnogi ac rwyf wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau bach yn y Lab
- Cydgynhyrchu Datblygiad Cynaliadwy drwy Reol y Gyfraith: Astudiaeth Achos Lesotho
- Lledaenu Arferion Da/Arloesedd yng Nghymru lle rwy'n cefnogi un o swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud gwaith ymchwil i'r pwnc.
- Ymgorffori meddylfryd amlinellu problemau yn y sector cyhoeddus drwy ddatblygu gêm fwrdd a chyfleoedd i feithrin gallu.
- Barts Shielders: Cyd-gynhyrchu Arloesedd yn ystod Pandemig COVID-19 Gwrandewch ar ein hadroddiad sain i ddysgu am rym cymorth gan gymheiriaid a ffyrdd cyfranogol o weithio.
- Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus: arbrawf rhithwir ar sut i ddod â phobl sy’n creu newid at ei gilydd i ddysgu, rhannu a thyfu gyda'i gilydd (Mawrth 2020). Gwrandewch ar y gyfres podlediad sy'n tynnu sylw at rai o'n harloeswyr.
Yn y gorffennol, rwyf wedi arwain cyfarfod Liberating Structures Caerdydd
- Dysgwch am gyfarfodydd sydd ar ddod yma
- Rwy'n Aelod o lwyfan Apolitical.co ac yn cyfrannu ato.
- Gallwch ddarllen fy erthygl ddiweddaraf yn mynegi barn ar gyfer Apolitical yma sy'n pwysleisio pwysigrwydd meddylfryd mewn gwaith arloesi.
Erthyglau eraill ar Apolitical:
- Fy ngwaith gyda Liberating Structures yma
- Fy nghyfraniad i'r Canllaw i Weision Cyhoeddus ar Gynnal Cyfarfodydd Gwell yma
- Darn ar chwilfrydedd, diwylliant, a chau'r bwlch dyheadau yma
A phrosiectau eraill sydd ar y gweill... os yw hyn yn ennyn eich diddordeb, cysylltwch â ni!
Y tu allan i'r gwaith
Rwyf wrth fy modd yn gweld lleoedd newydd ac yn cael profiadau newydd, boed hynny drwy ddarllen llyfr, mynd i sioe/arddangosfa, dianc i le newydd, crwydro mewn ardal newydd, neu flasu bwyd na chefais erioed mo’r cyfle i’w fwyta yn ystod fy magwraeth yn Tecsas, UDA.