Egin a Phorthi HARP
Canllawiau Cyfathrebu i Brosiectau
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth yn ogystal ag awgrymiadau i'w cofio wrth siarad am eich rhan yn rhaglen HARP.
Rhaid i chi gysylltu â ni;
- Os oes unrhyw wasg neu gyfryngau yn cysylltu â chi ynghylch eich prosiect HARP
- Os cewch eich enwebu am wobr
- Os ydych chi'n cynllunio ymgyrch neu gyhoeddiad am eich prosiect HARP (h.y. ar y cyfryngau cymdeithasol, drwy gylchlythyr)
Anfonwch unrhyw ddeunydd cyfathrebu sy'n cyfeirio at eich ymwneud â'r rhaglen i Y Lab, gydag o leiaf ddiwrnod o rybudd cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag Alice Turner, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu Y Lab ar [email protected].
Wrth gyfeirio at eich rhan yn y rhaglen, defnyddiwch y disgrifiad hwn o HARP:
Mae'r prosiect hwn yn bosibl drwy gefnogaeth rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil Pobl (HARP), a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta).
Cyfryngau cymdeithasol
Os hoffech chi ychwanegu dolen i hyrwyddo'ch rhan yn y rhaglen ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, soniwch amdanom ni neu tagiwch ni gan ddefnyddio'r manylion isod:
Dolen Twitter Y Lab : @ylabwales
Gwefan: https://ylab.wales/cy/node/77
Dolen Twitter Cyngor Celfyddydau Cymru: @Celf_Cymru (Cymraeg) / @Arts_Wales_ (English)
Y Gymraeg
Prosiectau Egin
Siaradwch ag Y Lab am sut rydych chi'n bwriadu cyfathrebu am eich gweithgareddau. Gallwn eich helpu i wneud hyn yn ddwyieithog.
Prosiectau Porthi
Rydym ni'n eich annog i gyfathrebu gyda'r cyhoedd am eich prosiect yn Gymraeg a Saesneg, gan roi'r un sylw i'r ddwy iaith. Rydym ni'n hapus i'ch cynorthwyo gyda'r broses hon ac anogwn chi i siarad gyda ni.
Y prosiect/sefydliad sy'n derbyn y cyllid sy’n gyfrifol am gyfieithu a chadw at y canllawiau hyn. Gweler canllaw Cyngor Celfyddydau Cymru ar hyn: https://arts.wales/cy/adnoddau/gweithredun-ddwyieithog/gweithion-ddwyieithog-sefydliadau
Pethau i'w cofio:
- Deall a oes angen i'r darn cyfathrebu hwn fod yn ddwyieithog
- Cysylltu ag Y Lab i'w hysbysu am gyfathrebu sydd ar ddod
- Defnyddio'r logos cywir
- Tagio @Celf_Cymru/@arts_wales ac @ylabwales ar y cyfryngau cymdeithasol
Logos
Pa logos sydd angen i mi eu defnyddio?
Bydd y ddogfen hon yn helpu i egluro pa logos i'w defnyddio.
Cyllid Loteri CCC: ceir arweiniad yma (tudalennau 6-8): Cydnabod eich cyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.indd
Gwybodaeth allweddol
HARP (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl)
Fersiwn Fer
Mae HARP yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta) i ystyried sut y gallwn ni gynhyrchu, tyfu a dysgu am ddatblygiadau arloesol creadigol ac effeithiol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru.
Fersiwn Hir
Mae HARP - Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl - yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta) i ystyried sut y gallwn ni gynhyrchu, tyfu a dysgu am ddatblygiadau arloesol creadigol ac effeithiol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru.
Fe wyddom y gall effaith y celfyddydau ar ein hiechyd a'n lles fod yn fuddiol iawn. Fe wyddom hefyd, fodd bynnag, y gall llunio ac ymgorffori gweithgareddau creadigol er iechyd a lles fod yn broses gymhleth ac ansicr, yn arbennig yn ystod pandemig Covid-19 a thu hwnt. Mae HARP yn ceisio dysgu rhagor am sut y gallwn ni ymateb i'r cyfleoedd a’r heriau hyn yng Nghymru trwy gyfuniad o gynnig grantiau, meithrin rhwydweithiau, hyfforddi ac ymchwil er lles arloeswyr iechyd a’r celfyddydau. Rydyn ni’n gwneud hyn gyda chymorth tîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta, Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru.
Amdanom ni
Y Lab
Sefydlwyd Y Lab yn 2015 fel Labordy Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru. Mae'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta ac yn cyfuno ymchwil a gwybodaeth academaidd gydag arbenigedd arloesi i ddatblygu capasiti ar gyfer arloesi, deall sut a pham fod arloesi'n digwydd a chefnogi syniadau newydd sy'n gwella gwasanaethau i bobl yng Nghymru a thu hwnt.
Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC)
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn helpu pobl i greu, cyflwyno ac arddangos y celfyddydau. Maen nhw'n gweithio gydag artistiaid a sefydliadau i gyrraedd cymaint o bobl ag y gallant. Ac maen nhw'n ymchwilio i'r ffyrdd y gallant ddiogelu a chynnal gweithgareddau creadigol yng Nghymru.
Nesta
Sefydliad arloesedd byd-eang yw Nesta. Mae'n cefnogi syniadau newydd i fynd i’r afael â heriau mawr ein hoes, gan fanteisio ar ei wybodaeth, rhwydweithiau, arian, a sgiliau. Mae Nesta’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys llywodraethau, busnesau, ac elusennau. Mae’n elusen yn y DU sy’n gweithio ym mhedwar ban byd, gyda chefnogaeth gwaddol ariannol.
Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol Grŵp Russell uchelgeisiol ac arloesol, sydd â gweledigaeth feiddgar a strategol. Daeth ei gwaith ymchwil rhagorol yn 5ed am ansawdd ac yn ail am effaith ymysg prifysgolion y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.
Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta
Mae Canlyniadau Pŵer Pobl yn gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion, sefydliadau a systemau i ryddhau pŵer y bobl sydd agosaf at faterion.
Rydym yn ymgymryd â rhai o heriau mwyaf ein hoes ac yn wynebu'r dyfodol gyda chwilfrydedd a hyder. Rydym yn dod ag egni ac optimistiaeth, ac yn croesawu methiannau fel cyfleoedd i ddysgu. Rydym yn gydweithredwyr, yn benseiri newid ac yn ddatblygwyr arloesi bob dydd.
Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN)
Rhwydwaith o gydweithwyr sy'n ehangu'n gyflym ac sy'n cyflawni gwaith celf ac iechyd yng Nghymru yw Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN). Mae'r Rhwydwaith yn cynrychioli aelodau o sectorau'r celfyddydau, iechyd ac AU ac mae'n cynnwys ymarferwyr sy'n gweithio ar draws yr ystod lawn o ymarfer ffurfiau celf mewn iechyd, y celfyddydau a lleoliadau cymunedol eraill.