Efallai ein bod ni’n arloeswyr, yn ddyfeiswyr, yn arbrofwyr, yn bobl greadigol, yn creu newid, yn arweinwyr, ac yn gwneud penderfyniadau, ond, rydym yr hyn ydym drwy a gan eraill. Mae angen ein gilydd arnom ni.
Nid rhywbeth newydd yw hyn, ond yn hytrach rhywbeth y mae llawer o bobl ar draws y byd yn ei dderbyn ers canrifoedd. Mae wrth wraidd fy ngwreiddiau yn Cuba a Sbaen, ac yn parhau i gyfeirio llawer o ddiwylliannau ar draws y byd. Er enghraifft, mae athroniaeth Ubuntu sy’n treiddio drwy lawer o ddiwylliant De Affrica yn cael ei chyfieithu’n aml fel y gred “Rwyf i oherwydd ein bod ni”; gan weld ‘pobl nid fel unigolion ond yn rhan o we annherfynol o gymhleth o fodau dynol eraill’.
Nawr, os ydych chi eisiau i mi seilio hyn yn iaith arloesi’r llywodraeth yn hytrach nag mewn athroniaeth, gwelodd ymchwil Steven Johnson ar gyfer O Ble Daw Syniadau Da:
Mae’n naturiol i syniadau da sefyll ar ysgwyddau’r cewri a ddaeth o’u blaenau nhw, sy’n golygu i ryw raddau, mai digwyddiad rhwydweithio yw pob peth newydd pwysig yn y bôn (tudalen 221).
Neu gwrandewch ar y podlediad hwn ar sut mae’r syniad o ddyfeiswyr a bod Gwobr Nobel yn mynd i unigolion yn gamarweiniol.
Mewn gwirionedd mae newid yn unig, mae newid yn anodd, mae newid yn anghyfforddus, ond mae newid yn ffaith bywyd a all fod yn haws os ydyn ni’n adeiladu cymunedau a rhwydweithiau sy’n cefnogi ei gilydd. Does dim angen i rwydweithiau fod â ffiniau. Dyna pam rydym yn galw arnoch chi i ymuno â ni yng Nghaerdydd ar 23 Mawrth ar gyfer digwyddiad rydym yn ei gynnal o’r enw Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus: dulliau cyflwyno newid a sut i’w defnyddio.
Gallwn ni ddysgu oddi wrth eraill a’u dulliau bob amser, er bod ein cyd-destun yn wahanol. I’r diben hwn, bwriad 23 Mawrth yw cyfnewid syniadau’n ystyrlon. Mae’n ymwneud â cheisio gwneud pethau’n wahanol fel nad yw’r meicroffon yn aros yn nwylo ein prif areithwyr a’n hwyluswyr yn unig, ond ei fod yn cael ei ddosbarthu ymysg y ffurfiau amrywiol ar arbenigedd yn yr ystafell. Bydd y digwyddiad yn cael pobl, sefydliadau, cyllidwyr a dyheadau i siarad â’i gilydd, gan gredu’n gryf ein bod ni i gyd yn ymdrechu i wneud yn well dros y lleoedd a’r cymunedau lle rydym yn gweithio.
Pan ddechreuon ni’r daith hon ryw flwyddyn yn ôl, rhoddon ni her i’n hunain i lunio diwrnod a fyddai’n apelio at academyddion, ymarferwyr, a’r cyhoedd yn ogystal ag at eu sectorau. Hawdd, ynte?
Cyn llunio’r digwyddiad a gwahodd siaradwyr, buon ni’n gwrando ac yn datblygu cenhadaeth ac egwyddorion craidd ar gyfer y diwrnod:
Yn y bôn, ein cenhadaeth yw defnyddio Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig lle cefnogol i weithwyr cyhoeddus gael rhannu dulliau newydd, sgyrsiau a chysylltiadau sy’n ysbrydoli gweithredu a newid cadarnhaol.
Yn ystod ein sgyrsiau cyn llunio’r diwrnod, clywon ni gan bobl sy’n gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus neu ynddyn nhw, pobl yr oedd arnynt angen gobaith a lle bwriadol er mwyn ymarfer, cysylltu, a chefnogaeth.
A beth yw pwynt cenhadaeth heb egwyddorion i’n llywio? Mae egwyddorion yn werthoedd craidd sy’n helpu i lywio ac i gadw ein bwriadau ar y trywydd iawn, a’n rhai ni oedd:
- Mynd ati’n ymwybodol i lunio digwyddiad sy’n gynhwysol o ran arddulliau cyfathrebu, lefelau profiad a dulliau gwahanol er mwyn ymagweddu at y gwaith anodd rydym i gyd yn ei wneud.
- Gofalu’n dda am ein cyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad er mwyn cefnogi’r gwaith o greu cysylltiadau ystyrlon, ysbryd dysgu ac arbrofi, a theimladau grymuso.
- Ymgorffori a gwireddu’r gred y gall syniadau da ddod o unrhyw le.
- Bod â rhagfarn tuag at gamau gweithredu ystyrlon.
Felly, rydym yn gofyn i chi ein dal ni i gyfrif. Ond yn fwy na dim, dewch gyda meddwl agored a dyhead i ehangu eich syniadau o ran yr hyn sy’n bosibl. Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gweddnewid ysbrydoledig gan brif areithwyr sydd wedi harneisio grym y “gymuned” i newid eu lleoedd er gwell. Sesiynau wedi’u hwyluso lle byddwch chi’n dysgu am syniadau cymwysedig, newydd, cyffrous ym maes gwasanaethau cyhoeddus a sut gallan nhw lywio eich gwaith yn y bore, ac yn y prynhawn, bydd sesiynau’n canolbwyntio ar roi adnoddau newydd i chi er mwyn ymagweddu’n wahanol at eich gwaith a gweithio mewn ffordd gydweithredol, traws-sector.
Hefyd bydd cyllidwyr gyda ni dros yr awr ginio a thrwy gydol y dydd, fel y gallwch chi ystyried pa gamau nesaf a llwybrau a allai fod orau i’ch dyheadau. Fyddan nhw ddim i gyd yn dod o’r byd academaidd, yn hytrach, rydym wedi gofyn iddynt ddod i siarad am sut maen nhw’n galluogi partneriaethau traws-sector.
Ein gobaith yw y bydd y darn hwn yn eich gwneud mor gyffrous ag rydym ni am yr hyn a allai ddatblygu. Da chi, ymunwch â ni neu anfonwch rywun yn eich sefydliad a allai, yn eich barn chi, gael ei ysbrydoli gan y rhai sydd yn yr ystafell, a helpwch ni i ymgorffori a gwireddu ethos Ubuntu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen hyn arnom ni, ac ar y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Chwilfrydig?
Bydd sesiynau’r bore wedi’u hwyluso gan:
- The Centre for Public Impact a'r Social Care Institute for Excellence - ar eu Glasbrint ar gyfer gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar roi pwyslais ar werthoedd
- Platfform - Cymru’n seiliedig ar newid systemau fel mater o drefn
- Dr Toby Lowe - ar gymhlethdod, rheoli cyhoeddus a stiwardio systemau i gael systemau mwy iach gyda chanlyniadau cymdeithasol cadarnhaol
Bydd sesiynau’r prynhawn wedi’u hwyluso gan:
- Nesta's Innovation Skills tgydag arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol
- Y Lab ar Fframio Problemau i gael datrys problemau cyhoeddus gwell, sy’n fwy ymwybodol o gymhlethdodau
- Policy Lab -
- ‘intra-preneur’ blaengar sydd â phortffolio o brosiectau i’ch ysbrydoli