Proffil
Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
Prosiectau
Y Celfyddydau ac Iechyd
Dementia ac Amrywiaeth
Cefndir
Rwyf yn anthropolegwr meddygol sy’n arbenigo mewn gwella ansawdd cyfranogol mewn gofal iechyd. Rwyf wedi ymchwilio i brofiadau pobl mewn ysbytai gyda chyflyrau hirdymor (canser, dementia a chlefyd Huntington) gan ddefnyddio dulliau arsylwadol, cyfweliadau, holiaduron, grwpiau ffocws a dulliau gweledol. Rwyf wedi defnyddio dulliau creadigol mewn ymchwil canser a dementia ac wedi defnyddio lluniau a gynyrchwyd gan gleifion mewn addysg, er mwyn gwella gwasanaethau ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Rwyf hefyd yn hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac wedi arwain ar gynnwys grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli a rhoi llais i gleifion ym meysydd dylunio ymchwil ac addysg.
Y tu allan i’r gwaith
Rwy’n canu gyda Chôr Byd Oasis (côr integredig i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a thrigolion lleol) ac yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau celfyddyd lleol. Mae gennyf hefyd ddiddordeb mewn dulliau traddodiadol o ddefnyddio planhigion fel meddyginiaeth lysieuol, coginio treftadol, gwehydda, cynhyrchu seidr a fforio.