Prosiect Integreiddio Cludiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru <mailto:https://www.ambulance.wales.nhs.uk/> a'r tri sefydliad lleol sy'n ymwneud â'r prosiect hwn, yn gweithredu cludiant am ddim i gleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, gan gynnwys cludiant Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ar draws ardal eang yng Ngogledd Cymru. Efallai y bydd y rheini sy'n teithio yn mynd i apwyntiadau ysbyty, yn symud rhwng cyfleusterau iechyd neu yn y broses o gael eu rhyddhau. Mae anghenion eu teithwyr yn amrywio'n fawr; efallai na fydd angen unrhyw ofal na chymorth ar rai wrth eu cludo, tra bydd eraill angen ymyriadau clinigol wrth deithio. Efallai y bydd angen cerbydau hygyrch ar eraill er mwyn teithio.

Dyfarnwyd grant gwerth: £15,000

Cwblhawyd y cam: Ymchwil a Datblygu

Gofal Canser Tenovus