Yn 2019, gwnaethom gyhoeddi ein canllaw Cyllid Ad-daladwy ar gyfer Arloesi – ein nod oedd rhannu gwersi a ddysgwyd o redeg Arloesi er mwyn Arbed i helpu eraill mewn llywodraethau ledled y byd i wneud yr un peth.
Ers hynny, rydym wedi dysgu mwy yr ydym am ei ychwanegu i’r argymhellion hynny, ac felly rydym yn cyhoeddi’r Canllaw Arloesi er mwyn Arbed, canllaw ar sut i redeg rhaglen sy’n uno grantiau a benthyciadau a chymorth pwrpasol i alluogi arloesedd yn y gwasanaethau cyhoeddus.
About this guide
Ers 2017, mae Y Lab (sef partneriaeth rhwng Nesta a Phrifysgol Caerdydd) wedi bod yn ymwneud ag arbrawf ynglŷn â chyllido arloesedd gyda chyfuniad o gyllid ad-daladwy a chyllid nad yw’n ad-daladwy yng Nghymru. Mae’r gwaith, o’r enw Arloesi i Arbed, wedi cael ei wneud yn bragmatig ac ar y cyd, gan ddefnyddio ein profiad i wella ein cynnig a’n darpariaeth.
Bydd y canllaw mwy diweddar yn eich galluogi i ddylunio a rhedeg rhaglen megis Arloesi er mwyn Arbed.
Cynnwys
- Introduction
- Section 1: Understanding your finance options
- Section 2: Organisational readiness – can you run a programme?
- Section 3: Building your programme
- Section 4: Evidencing your programme’s impact
Cyflwyniad
Mewn taflen a gyhoeddwyd cyn yr etholiadau cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol newydd Cymru ym mis Mai 1999, ysgrifennodd cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies:
“Proses yw datganoli. Nid digwyddiad ydyw na thaith ac iddi gyrchfan benodol. Mae’r broses ddatganoli yn ein galluogi i wneud ein penderfyniadau ein hunain a phennu ein blaenoriaethau ein hunain. Dyma’r peth pwysig. Rydym yn profi ein cyfansoddiad trwy brofiad ac rydym yn gwneud hynny mewn ffordd bragmatig, nid mewn ffordd sy’n cael ei hysgogi gan ideoleg.”
Mae’r ymagwedd a ddisgrifir yma yn cyfleu ein profiad o ddatblygu a chynnal Arloesi i Arbed. Profwyd dyluniad ein rhaglen trwy brofiad ac mae’r cyhoeddiad hwn yn cyfleu’r hyn rydym wedi’i ddysgu ar gyfer eraill sy’n dymuno datblygu rhaglen debyg.
Pam mae cyllid cyfunol yn ddull da ar gyfer arloesi?
Mae cyllid cyfunol yn offeryn cynyddol ddefnyddiol y gall llywodraethau ei ddefnyddio i gefnogi arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus – gan ganiatáu i lywodraethau elwa o lwyddiant arloesedd ac, yn bwysig, ailfuddsoddi arian yn rheolaidd mewn arloesiadau newydd.
Trwy gymell arloesedd, gall llywodraethau ganfod a datblygu syniadau mwy mentrus a newydd i newid y ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, gan wella gwasanaethau a sicrhau arbedion i bwrs y wlad.
Er bod llawer o arloeswyr gwych yn y sector cyhoeddus, maen nhw’n aml yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag arloesi, gan gynnwys:
- Galwadau bythol gynyddol ar lywodraeth leol
- Yr amser y mae’n ei gymryd i wireddu newid
- Diffyg ymrwymiad/heriau wrth ddatblygu a chynnal partneriaethau
- Dod o hyd i’r syniadau iawn a phennu eu graddfa
- Amharodrwydd i dderbyn risg.
Felly, mae dod o hyd i ffyrdd newydd o gymell arloesedd trwy fathau newydd o gyllid a chymorth anariannol yn hollbwysig.
Mae’r canllaw hwn wedi’i lywio gan ein profiad o greu, darparu a datblygu rhaglen sy’n cynorthwyo sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector i gynhyrchu arbedion y gellir eu troi’n arian a gwella gwasanaethau trwy arloesi, gan ddefnyddio cyllid cyfunol (grantiau a benthyciadau) a chymorth anariannol.
Beth mae’r canllaw hwn yn ei gynnig?
Bwriedir y canllaw hwn i fod yn offeryn ymarferol sy’n llawn gwybodaeth, a fydd yn helpu gwasanaethau cyhoeddus –
llywodraethau lleol a chenedlaethol a byrddau iechyd yn bennaf – i ysgogi arloesedd o fewn cyd-destun heriol. Mae wedi’i lywio gan brofiad, a’r nod yw arwain timau trwy’r broses o gynllunio, datblygu a gweithredu rhaglen o gyllid cyfunol ar gyfer arloesi.
Mae’n amlinellu pam y gallech chi ddewis cymysgedd o gyllid ad-daladwy a chyllid nad yw’n ad-daladwy i hybu arloesedd, yn enwedig o fewn cyrff y llywodraeth. Hefyd, mae’n rhoi sylw i’n profiad o ddefnyddio’r dull hwn yng Nghymru fel astudiaeth achos, gan fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r risgiau y daethom ar eu traws, a sut y gwnaethom eu lliniaru.
Mae’r canllaw hwn, fel ein hymarfer, yn parhau i fod yn waith ar y gweill a bydd yn cael ei ddiwygio wrth i ni gwblhau iteriadau pellach o’n rhaglen yng Nghymru. Ni fwriedir iddo fod yn ganllaw cynhwysfawr ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus, ond mae’n ffordd o rannu ein gwybodaeth a’n profiadau o weithredu mewn lleoliad penodol o dan amodau lleol.
Os ydych chi’n teimlo bod rhywbeth ar goll, neu os oes gennych chi gwestiynau, neu os ydych chi eisiau siarad trwy eich fersiwn eich hun o’r gwaith hwn, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.
Adran 1 – Deall eich opsiynau cyllid
Mae llawer o offerynnau ariannol gwahanol ar gael i lywodraethau i gymell arloesedd, ond mae gwybod pa rai i’w defnyddio yn gallu bod yn ddyrys.
Mae Nesta wedi ysgrifennu canllaw eang ar ystod o offerynnau ariannol sydd ar gael i gefnogi arloesedd. Funding Innovation:
Canllaw ymarfer. Ond mae Tabl 1 yn cyflwyno rhai enghreifftiau o fecanweithiau sydd ar gael i lywodraethau i ysgogi arloesedd, ynghyd â rhai o’r heriau a’r manteision sy’n gysylltiedig â’u defnyddio. Yn rhy aml, mae cyllidwyr yn tueddu i gadw at un neu ddau ddull ar gyfer cyllido arloesedd (fel arfer, grantiau nad ydynt yn ad-daladwy) ac felly maent yn colli allan ar ddulliau eraill a allent fod yn fwy priodol.
Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig (DU) ehangach yn ei chael hi’n anodd ymdopi â galw cynyddol, gan greu mwy o reidrwydd i greu gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae llawer yn cydnabod bod arloesi yn hanfodol, ond mae ansicrwydd ynghylch sut i greu’r amodau systemig sydd eu hangen i gyd-fynd â graddfa a chyflymder y newid sy’n ofynnol.
Table 1: A table from Funding for Innovation published by Nesta in 2018 shows a range of funding mechanisms for innovation, including loans.
Beth yw Buddsoddi i Arbed?
Mae Buddsoddi i Arbed yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyllid benthyciad di-log, heb ei sicrhau (yn bennaf), i sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae angen i brosiectau ddangos yr angen am fuddsoddiad ymlaen llaw mewn prosiect sydd â’r potensial i sicrhau arbedion hirdymor y gellir eu troi’n arian a ddefnyddir i ad-dalu’r benthyciad cychwynnol. Ers 2009, mae wedi buddsoddi £174 miliwn mewn 181 prosiect.
Yn 2016, bu’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, fel yr oedd bryd hynny, yn cynnal adolygiad o Fuddsoddi i Arbed ac argymhellodd y dylid rhannu rhan o’r gronfa er mwyn cynnal treial a allai ysgogi ceisiadau mwy arloesol. Arweiniodd hyn at greu Arloesi i Arbed. Y gwahaniaeth hanfodol rhwng Buddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed yw’r cyfuniad o becynnau cyllid a chymorth sydd ar gael i’r garfan o brosiectau arloesi.
Beth yw Arloesi i Arbed?
Lansiwyd Arloesi i Arbed ym mis Chwefror 2017 gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn agored i bob sefydliad sector cyhoeddus a thrydydd sector sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn cyfuno cyllid grant i ymgymryd â cham Ymchwil a Datblygu, gan gynnwys creu prototeipiau a threialu syniadau’r sefydliadau, a dilynir hyn gan gyfle i wneud cais am fenthyciad di-log (ar delerau y gellir eu trafod) er mwyn gweithredu’r prosiect ar raddfa, yn ystod cam Gweithredu. Yn ystod y ddau gam, cynigir cefnogaeth anariannol bwrpasol i dimau prosiectau, a allai gynnwys modelu ariannol, mapio rhanddeiliaid a chymorth arbenigol gydag ymchwil a chasglu data. Canlyniadau bwriadedig y rhaglen yw darganfod a graddio syniadau sy’n gwella gwasanaethau ac yn cynhyrchu arbedion y gellir eu troi’n arian ar gyfer pwrs y wlad.
Pŵer cyllid cyfunol
Mae cyfuno mathau o gyllid yn gallu darparu cymhelliant pwerus i sefydliadau ymgymryd â phrosiectau arloesi, gan wrthbwyso eu risg eu hunain trwy gyllido ymchwil a datblygu cychwynnol, yn ogystal â darparu cefnogaeth ymarferol gan arbenigwyr sy’n cynyddu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer deall p’un ai y bydd y prosiect yn arwain at y canlyniadau a ddymunir.
Cyfuniad Arloesi i Arbed
Grant o £5k i £30k yn ogystal â chymorth anariannol (sy’n cyfateb i £5k i £15K ar gyfer pob prosiect) i gyllido 6 i 12 mis cychwynnol y cam ymchwil a datblygu.
Benthyciadau o £500k i £2 filiwn yn ogystal â chymorth anariannol am flwyddyn i gyllido’r cam cyflawni o 5 i 10 mlynedd.
Mae’r cymorth a ddarperir gan Arloesi i Arbed yn wahanol i’r hyn a ddarperir gan raglenni cyllido benthyciadau eraill sy’n bodoli ar gyfer arloesi. Rhoddir y cymorth i brosiectau arloesi ar gam cynharach, mae mwy o ffocws iddo ac mae’n ddwysach. Mae’n cymryd i ystyriaeth y ffaith bod ymgymryd â chyllid risg – sef benthyciadau di-log, yn yr achos hwn – yn cael ei ystyried yn fwy o rwystr rhag arloesi nag ymgymryd â chyllid grant, ac mae’n darparu symiau bach o gyllid nad ydynt yn ad-daladwy, wedi’u hategu â chymorth anariannol, i helpu sefydliadau i brofi a datblygu prototeipiau ar gyfer syniadau cyn eu gweithredu a’u graddio.
Hyd yn hyn, rydym wedi darganfod bod grantiau bach – heb fod yn fwy na £15,000 – yn ddigonol i annog ystod eang o sefydliadau i gyflwyno syniadau sydd angen eu profi, gan eu cefnogi â’u hadnoddau eu hunain. Roedd sefydliadau a wnaeth gais i ymuno â charfan gyntaf Arloesi i Arbed wedi ymrwymo gwerth 53c ychwanegol o gymorth mewn ffyrdd eraill am bob £1 o’r cyllid grant y gofynnwyd amdano.
Fodd bynnag, mae ein profiad yn awgrymu nad yw grantiau bach o reidrwydd yn annog uchelgais fawr. Yn yr ail fersiwn, cynyddom y terfyn uchaf ar gyfer prosiectau i £30,000. Fe’n calonogwyd i weld ansawdd y ceisiadau a’r benthyciadau a wnaed yn cynyddu gyda chynnydd bach yn y cyllid grant ychwanegol.
Hefyd, mae’n ddiddorol edrych ar werth benthyciadau y gofynnir amdanynt yn sgil grantiau ar raddfa gymharol fach. Darparom werth £270,000 o grantiau ar draws dwy garfan. Rhoddwyd benthyciadau i bedwar prosiect, gan roi i ni enillion rhagamcanol ar fuddsoddiad dros gyfnod o bum mlynedd o £13.27 am bob £1 o arian grant a fuddsoddwyd.
Byddem wedi aros yn fach a gweithredu’r newidiadau bach hyn roeddem yn gyffyrddus â nhw. Ond oherwydd roedd gennym eucefnogaeth a’u bod wedi’n helpu ni i brofi bod hyn y bosibl, y gallai hyn weithio, roedd gennym lawer mwy o hyder yn y peth. Felly, roedd gennym yr hyder i feddwl yn fawr, ac mae hynny’n rhywbeth na fyddem erioed wedi’i wneud heb Arloesi i Arbed.
Jill Jones, Cyngor Sir y Fflint
Adran 2 – Parodrwydd sefydliadol: A ydych chi’n gallu cynnal rhaglen?
Cyn dechrau’r broses o ddylunio’r rhaglen, rydym yn argymell ceisio penderfynu pa mor gryf yw’r awydd a’r arferion ar gyfer arloesi effeithiol o fewn eich sefydliad.
Ceir rhai cwestiynau allweddol i’w trafod fel rhan o’r sgwrs hon a fydd yn eich helpu wrth i chi symud ymlaen.
Cwestiynau i’w trafod
- Pa adnoddau sydd gennych chi ar gyfer rhaglen o gyllid cyfunol/cyllid seiliedig ar risg?
- A oes gennych chi bartneriaethau a pherthnasoedd ar waith i sicrhau bod y rhaglen yn gallu cyrraedd y mathau priodol o bobl?
- Beth yw’r awydd am syniadau newydd sydd â mwy o risg yn perthyn iddynt o fewn eich sefydliad – faint o fethiant mae eich sefydliad yn gallu’i oddef?
Beth yw prif flaenoriaeth y rhaglen? Mae cynnal ymchwil a datblygu, gweithredu prosiectau ar raddfa, a gwneud benthyciadau, oll yn gofyn am fathau gwahanol o ffocws – a ydych chi wedi gosod disgwyliadau clir i staff y rhaglen a thimau prosiectau eu dilyn?
Adnoddau
Dylai meddwl am y ffordd y bydd adnoddau’n cael eu darparu ar gyfer y rhaglen newydd fod yn weithgarwch parhaus trwy gydol y broses o ddylunio eich rhaglen. A oes gennych chi’r tîm cywir gyda chymysgedd briodol o sgiliau, rhwydweithiau, amser ac awydd ar gyfer y prosiect? A ydych chi’n gallu segmentu digon o arian a’i neilltuo ochr ar gyfer y rhaglen?
NI ddylai’r cwestiynau hyn fod yn brif ysgogwyr wrth ddylunio eich rhaglen – mae gadael iddynt arwain yn gallu llesteirio eich uchelgais – ond dylent fod yn ystyriaeth gyson er mwyn sicrhau bod modd cyflawni’r yr hyn rydych chi’n ei ddylunio.
Y tîm Arloesi i Arbed
Caiff Arloesi i Arbed ei redeg gan Y Lab (sef partneriaeth rhwng Nesta a Phrifysgol Caerdydd). Mae’r rhaglen yn cyflogi rheolwr rhaglen amser llawn a rheolwr rhaglen cynorthwyol. Mae hyn yn cyfateb i:
- 0.5 FTE Cydymaith Ymchwil x 2
- 0.5 FTE Cymrawd Ymchwil
- 0.5 FTE Uwch-gymrawd Ymchwil
- 1 Rheolwr Rhaglen
- 1 Rheolwr Rhaglen Cynorthwyol
- 0.25 FTE Rheolwr Cyfathrebu
Mae’r rhaglen yn gydweithrediad â Llywodraeth Cymru ac mae Pennaeth Buddsoddi i Arbed yn chwarae rhan weithredol ac ymgysylltiol yn y rhaglen, gan gefnogi pob agwedd ar y gwaith. Hefyd, rydym yn gweithio ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – sef corff sy’n cynrychioli’r trydydd sector yng Nghymru.
Perthnasoedd
Wrth i chi ddechrau’r broses o ddylunio eich rhaglen, dylech chi dreulio amser yn meddwl am eich rhanddeiliaid allweddol, yn fewnol ac yn allanol i’r broses. Pwy sy’n gallu’ch helpu i gyrraedd pobl â syniadau newydd? Sut gallwch chi ehangu’r gronfa o ymgeiswyr y tu hwnt i’r rhai arferol? Pa fath o bobl a lleoedd ydych chi’n ceisio eu cefnogi, a pha gamau ymwybodol gallwch chi eu cymryd i sicrhau ei bod yn wirioneddol hygyrch iddynt wneud cais? Pa fathau o gefnogaeth fydd eu hangen ar bobl wrth wneud cais (er enghraifft, wrth ysgrifennu cais, neu ddod o hyd i bartneriaid)? Pwy sy’n debygol o arafu eich proses, neu fod ag amheuon, neu rwystro’r rhaglen, a sut ydych chi’n sicrhau eu cefnogaeth yn y cyfnod cynnar?
Os ydych chi’n gobeithio cyrraedd cymuned ddiffiniedig, ceisiwch ddeall sut bydd eich rhaglen yn ymddangos o’u persbectif hwythau er mwyn sicrhau na roddir rhwystrau diangen yn eu ffordd (e.e. gall digwyddiadau dros nos eithrio pobl â chyfrifoldebau gofalu sefydlog y tu allan i’r gwaith).
Hefyd, mae’n werth cymryd yr amser i ddeall sut gall eich rhaglen ategu (neu gael ei chyfyngu gan) gynlluniau strategol, cynlluniau cyllid, llywodraethu, deddfwriaeth a chyfeiriad polisi ehangach y llywodraeth neu wasanaeth cyhoeddus. Er nad ydych chi eisiau i’r rhain bennu dyluniad eich rhaglen, mae’n werth sicrhau bod yr hyn rydych chi’n ei wneud yn ategu ac yn adeiladu ar bolisi ac arfer presennol.
Contractio Arloesi i Arbed
Cymerom flwyddyn i ddylunio a chontractio’r rhaglen Arloesi i Arbed. Gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn lleihau’r amserlen yn eich achos chi!
Yn arbennig, roedd y broses o gontractio yn rhy lafurus (o anghenraid). Roedd angen nifer o rowndiau o ddiwygiadau a chymeradwyo gan dri thîm cyfreithiol i sicrhau bod amcanion y rhaglen, mecanweithiau cyflawni a sicrwydd yn erbyn gwariant arian cyhoeddus yn addas – heb wyro oddi wrth uchelgais y rhaglen. Roedd cael perthnasoedd cryf, yn fewnol ac yn allanol, yn golygu ein bod yn gallu parhau i ganolbwyntio ar y weledigaeth ar gyfer Arloesi i Arbed dros gyfnod sylweddol o amser.
Risg
Mae meddwl am lefel y risg y gall eich sefydliad ei chymryd yn rhoi gwybod i chi p’un ai ydych chi mewn sefyllfa gref i greu rhaglen a gwneud penderfyniadau clir ynghylch:
- Y lefel o gyllid grant y gallech ei chynnig
- Y mathau o sefydliadau y gallech eu cyllido a’u parodrwydd i ymgymryd â phrosiect arloesi
- Pa mor drwyadl ydych chi eisiau i’r dystiolaeth bresennol fod ar gyfer canlyniadau’r prosiect
- Faint o newydd-deb gallech fod yn gyffyrddus ag ef.
Mae’n debygol na fydd popeth y byddwch yn ei gyllido yn gweithio – yn sicr, mae hynny’n wir yn achos Arloesi i Arbed.
Sut ydym yn siarad am ‘fethiant’
Un o amcanion allweddol Arloesi i Arbed yw llunio gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. I’r perwyl hwnnw, bernir bod prosiect ymchwil a datblygu nad yw’n dangos arbedion neu welliannau y gellir eu troi’n arian ar gyfer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth wedi methu os nad yw’r sawl sy’n rhedeg y prosiect yn gallu esbonio’r sefyllfa wrthym.
Wrth gipio gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, rydym yn sicrhau bod gan bob buddsoddiad (boed yn grant neu’n fenthyciad) lefel o werth i eraill, ochr yn ochr â’r gwerth ariannol y gallai ei gynhyrchu yn ôl i Lywodraeth Cymru.
Mae methiant, ac ofn methiant canfyddedig, yn fater sylweddol yn niwylliant gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyfleu blaenoriaethau a disgwyliadau rhaglenni yn glir yn helpu prosiectau a gefnogir i symud eu meddylfryd o adrodd llwyddiant ar bob cyfrif, i arbrofi. Mae rhywfaint ymchwil a wnaed ynghylch y carfannau Arloesi i Arbed a Buddsoddi i Arbed yn gwahaniaethu rhwng dau gyd-destun lle gall methiant ddigwydd – sef yn y maes arloesi neu newid, ac yn y maes gweithredu. Mae goblygiadau ‘methiant’ yn y meysydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwahanol iawn. Bydd pwysleisio bod ymchwil a datblygu yn ymwneud â chreu man rheoledig a ‘diogel’ ar gyfer methu trwy brofi ac arbrofi yn helpu eich carfan i addasu i ffordd wahanol o weithio.
Adran 3 – Creu eich rhaglen
Wedi i chi benderfynu beth sy’n bwysig i’ch rhaglen, mae’n bryd dechrau ar ddylunio a chreu.
Bydd pob rhaglen gyllid cyfunol ar gyfer arloesi yn edrych yn wahanol gan iddynt gael eu penderfynu yn ôl llawer o ffactorau sy’n unigryw i’r sefydliad.
Wrth ddatblygu rhaglen gymorth fesul cam, mae’n hanfodol cynllunio pob cam yn llawn – gan gymryd amser i nodi amcanion a chanlyniadau, y math o gefnogaeth y gellir ei gynnig, a faint o amser sydd ar gael i gwblhau pob cam. Yn ogystal â sicrhau eich bod yn gallu cyflawni eich rhaglen, bydd y lefel hon o gynllunio yn eich helpu i gyfleu eich cynnig yn effeithiol i ddarpar ymgeiswyr – sef cam hanfodol i sicrhau bod pobl yn gallu ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen a gwneud y gwaith gorau posibl.
Nod yr adran ganlynol yw helpu sefydliadau i ddatblygu camau cydrannol offeryn ariannol yn seiliedig ar fenthyciad i helpu i ysgogi arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Cwestiynau i’w trafod
- Faint o amser sydd gennych chi i redeg y rhaglen? A faint o amser sydd gennych chi i sefydlu’r rhaglen?
- Pa gymysgedd o sgiliau sydd eu hangen arnoch chi fel rhan o dîm y rhaglen? A oes gennych dîm pwrpasol, neu a fydd angen i chi nodi tîm o’r fath?
- Beth yw’r canlyniadau allweddol rydych chi’n edrych amdanynt gyda’ch rhaglen?
- Pa fath o gynllun gwerthuso sydd angen bod ar waith gennych a pha adborth fyddwch chi’n edrych amdano yn ystod y rhaglen?
- A ydych chi wedi nodi eich perthnasoedd allanol allweddol? Pwy sy’n cyllido’r rhaglen? Pwy fydd yn darparu cymorth hanfodol ar gyfer y prosiectau (e.e. modelu ariannol)?
Datblygu camau
Er mwyn cyflwyno rhaglen aml-gam yn effeithiol, mae’n hanfodol eich bod yn cynllunio digon o amser a chyllid ar gyfer pob rhan. Bydd pob cam yn rhoi canlyniadau gwahanol a gellir eu hystyried fel proses a asesir gam wrth gam, gan ddod â’r prosiectau mwyaf hyfyw drwodd i’r cam Gweithredu.
Creu camau ar gyfer Arloesi i Arbed
Penderfynom redeg Arloesi i Arbed ar draws tri cham, gan roi’r cyfle i ni ganolbwyntio’n ddwys ar:
- Greu piblinell o geisiadau o ansawdd uchel
- Cefnogi ymchwil a datblygu trwyadl ac iteraidd
- Gweithredu’n effeithiol syniadau sy’n gweithio.
Yn ogystal, mae gweithio fel hyn yn ein galluogi i greu carfanau a rhwydweithiau. Daw darpar ymgeiswyr a phartneriaid ynghyd yng ngham 1, mae’r timau ymchwil a datblygu yn adeiladu grŵp cymorth gan gymheiriaid yng ngham 2, ac mae prosiectau gweithredu yn gallu elwa ar gefnogaeth barhaus yng ngham 3.
Cam 1: Cymorth cyn gwneud cais
Beth yw eich amcanion a’ch canlyniadau?
Mae’r cam hwn yn rhoi cyfle i chi sicrhau bod yr ystod ehangaf o ddarpar ymgeiswyr yn gwybod am eich rhaglen ac yn teimlo bod ganddynt yr hyder a’r gallu i wneud cais. Mae’n amser da i drosoli cefnogaeth gan bartneriaid allweddol a nodi pobl a all weithredu fel ‘Hyrwyddwyr Arloesedd’ mewn meysydd neu leoliadau thematig penodol. Eich prif amcan yw datblygu piblinell o geisiadau o ansawdd uchel sy’n bodloni nodau ac uchelgeisiau eich galwad.
Sut gallwch chi ddenu’r nifer fwyaf o geisiadau o ansawdd uchel?
Dylai’r cymorth a gynigiwch fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o ehangder eich cynulleidfa darged. Heb hyn, ceir perygl o gyfyngu’r gronfa dalent ar ddamwain oherwydd pecyn cymorth anneniadol, digroeso neu anhygyrch.
Gwneud y rhaglen yn ddefnyddiol
Cofiwch mai dyma’r cam sydd â’r risg fwyaf i bobl sydd eisiau cymryd rhan yn eich rhaglen – maent yn buddsoddi eu hamser ac yn aml eu harian yn eich proses heb unrhyw sicrwydd ynghylch y canlyniad.
I’r perwyl hwnnw, meddyliwch sut y gallai bopeth rydych chi’n ei wneud a phopeth rydych chi’n gofyn iddyn nhw ei wneud fod yn ddefnyddiol i’r cyfranogwr, ni waeth beth fo’u llwyddiant wrth wneud cais ar gyfer eich rhaglen:
- Dylunio ffurflenni cais mewn ffordd sy’n caniatáu i wybodaeth gael ei hailddefnyddio mewn achosion busnes eraill
- Dylunio gweithdai fel y gellir defnyddio offer a dulliau newydd mewn senarios y tu allan i gais ar gyfer eich rhaglen
- Dylunio cynnwys y gweithdai i helpu datblygiad cais yn uniongyrchol
- Rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu a rhwydweithio ag eraill
- Gwirio ystyr geirfa eich rhaglen â’ch carfan darged. Mae sicrhau bod eich iaith a’ch tôn yn briodol yn bwysig dros ben o ran sicrhau bod y bobl rydych chi eisiau eu cefnogi yn deall yr hyn sydd ar gael a sut mae’n gweithio.
Beth gall y cymorth a gynigiwch ei gynnwys?
- Gweithdai a sesiynau sgiliau sy’n helpu i ddatblygu ceisiadau o ansawdd uchel.
- Digwyddiadau rhwydweithio i ddenu darpar ymgeiswyr a darparu gwybodaeth am y rhaglen mewn ffordd anffurfiol. Yn ogystal, gall hyn helpu â chydweithio a ffurfio timau o ymgeiswyr.
- Cyfarfodydd anffurfiol a ‘drws agored’ i ddarpar ymgeiswyr drafod syniadau.
Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i estyn allan at ddarpar ymgeiswyr y tu allan i’r rhwydweithiau ynghylch y rhaglen, yn ogystal ag unrhyw gysylltiadau personol. Targedu deunydd yn y wasg at gyhoeddiadau priodol.
Faint o amser ddylai gymryd?
Mae neilltuo cymaint o amser â phosibl i’r cam hwn yn hanfodol, cyn belled nad yw’r momentwm yn cael ei golli gyda darpar ymgeiswyr. Oherwydd natur arbrofol y rhaglen, buddsoddom yn helaeth yn y cam hwn er mwyn dod o hyd i ymgeiswyr da.
Mae sefydlu a darparu cyfres o weithdai neu ddigwyddiadau rhwydweithio, yn enwedig os ydych chi’n gweithredu dros ardal ddaearyddol fawr, yn gallu cymryd ychydig fisoedd o leiaf, ac mae’n debygol y ceir cyswllt dilynol â phrosiectau i ddatblygu eu syniad ar gyfer y cam gwneud cais. Mae’r amser hwn yn hanfodol hefyd wrth sefydlu’r cam ymchwil a datblygu, ac mae’n amser da i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer pethau fel digwyddiadau ar gyfer carfanau, a gweithdai sefydlu prosiectau. Argymhellir treulio rhwng tri mis a chwe mis yn cyflawni’r cam hwn. I gymharu, y safon o fewn diwydiant yw treulio chwe wythnos ar gyfartaledd yn darparu cymorth cyn gwneud cais.
Dewis carfan
Wrth i chi ddylunio eich rhaglen, byddwch yn glir ynghylch eich blaenoriaethau o ran meini prawf dethol. Y tu hwnt i brif amcan eich rhaglen, beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni wrth greu eich carfan? A ydych chi’n edrych am garfan sy’n ddaearyddol gynrychiadol, yn amrywiol, yn gydweithredol neu o sector penodol?
Yn aml, nid yw cynnig cymorth yn ddigonol ynddo’i hun. Gwnewch yn siŵr bod camau pendant yn cael eu cymryd i gyrraedd cymunedau ymylol â’ch cynnig. Gwiriwch fod yr iaith a ddefnyddiwch yn ddealladwy i’r bobl rydych chi eisiau eu cynorthwyo. Profwch eich prosesau i sicrhau eu bod yn glir ac yn hawdd eu deall, a chymerwch gamau ymwybodol i sicrhau nad yw prosesau sy’n wynebu’r cyhoedd (y broses ymgeisio a chyfweliadau) yn anfanteisio nac yn ffafrio mathau penodol o bobl. Rydym yn gweld bod carfannau’n elwa ar gynnwys amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau bywyd.
Mae perthnasoedd da yn hanfodol trwy gydol darpariaeth rhaglen o gyllid cyfunol.
Lle mae dau neu fwy o sefydliadau yn gweithio ar brosiect o dan y rhaglen, mae’n bwysig bod cytundebau partneriaeth ar waith ac yn cael eu cyflwyno fel rhan o unrhyw gynnig. Dylai’r cytundebau partneriaeth hyn ddiffinio’n glir y rolau y bydd pob parti yn eu cymryd, cytundebau rhannu data, a chysylltiadau ariannol. Bydd gosod y disgwyliadau hyn ar lefel rhaglen o’r cychwyn cyntaf yn helpu i sicrhau bod y prosiectau dan sylw mewn sefyllfa dda i lwyddo.
Yn yr un modd, mae perthnasoedd â noddwyr prosiectau yn hanfodol i lwyddiant y prosiectau arloesi a gefnogir gan y rhaglen. Mae hwn yn faes sy’n haeddu ymchwilio trylwyr ar y cam ymgeisio cychwynnol, trwy ofyn am fanylion penodol ar sut y bydd yr uwch arweinyddiaeth yn cefnogi’r prosiect arloesi.
Cam 2: Ymchwil a datblygu
Beth yw eich amcanion a’ch canlyniadau?
Mae’r cam hwn yn galluogi prosiectau i ddatblygu, profi, iteru a threialu eu syniad. Mae dau gwestiwn ymchwil sylfaenol y bydd pob prosiect yn ceisio eu hateb, sy’n ymdrin â nodau’r rhaglen:
- A fydd y syniad newydd yn gwella’r gwasanaeth i’r bobl sy’n ei ddefnyddio?
- A fydd y syniad newydd yn cynhyrchu arbedion y gellir eu troi’n arian ar gyfer y sefydliad/sefydliadau dan sylw?
Hefyd, bydd angen i brosiectau fod â set o gwestiynau ymchwil sy’n benodol i’w nodau, ac mae’n syniad da gosod y rhain at ei gilydd ar y cychwyn cyntaf. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw ddata y mae angen eu casglu i helpu i ysgrifennu achos busnes yn cael eu hystyried o’r dechrau. Mae cefnogi prosiectau i ddeall y broses ymchwil a datblygu, a deall yr hyn sy’n gwneud set dda o gwestiynau ymchwil, yn nodwedd allweddol o Arloesi i Arbed. Mae’n hanfodol bod eich tîm rhaglen yn gallu cefnogi prosiectau yn yr un modd.
Rwy’n meddwl mai un o’r pethau, i mi, yw cael y tîm ymchwil yn holi cwestiynau i ni ac yn ein herio hi. Rwy’n meddwl eu bod nhw wedi deall ein busnes yn dda iawn ac yn gyflym iawn, ac yn achos rhai o’r pethau roeddent yn holi, roeddem yn edrych at ein gilydd ac yn dweud, ‘Nid oeddem wedi meddwl am hynny’. Felly, yn hytrach na dim ond ni’n dau, yn bustachu ymlaen ac yn gwneud hyn, roedd cael yr heriau hynny yn ddefnyddiol iawn.
Prosiect Arloesi i Arbed
Ar ddiwedd y broses, dylai prosiectau fod mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad ymchwil, a datblygu a chyflwyno achos busnes sy’n dangos bod eu prosiect yn debygol o wella gwasanaethau a chynhyrchu arbedion y gellir eu troi’n arian.
Pa gymorth ddylech chi ei gynnig?
- Grant nad yw’n ad-daladwy i alluogi’r sefydliad i gynnal eu hymchwil a datblygu i brofi p’un ai yw eu syniad yn ariannol hyfyw ac yn effeithiol yn y tymor hir.
- Pecyn cefnogaeth ar gyfer cynnal ymchwil a datblygu, gan gynnwys arbenigedd ar ddulliau ymchwil (megis grwpiau ffocws a dadansoddi data rheolaidd), dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, treialu a chreu prototeip. Mae’r gefnogaeth a roddir yn cynnwys rhoi cyngor i rai prosiectau ar y gwaith maent yn ei wneud, yn ogystal â chynnal y gwaith ar ran rhai o’r prosiectau. Mae angen ystyried yr angen am gymeradwyaeth foesegol a gweithdrefnau cydsynio wrth gynnal ymchwil gyda defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys dadansoddi eu data personol. Rydym yn argymell dechrau gyda gweithdy sefydlu i osod cwestiynau ymchwil, nodi rhanddeiliaid allweddol a dechrau drafftio cynllun prosiect.
- Cymorth anariannol arall sy’n ymateb i fylchau yng ngallu, gwybodaeth neu arbenigedd y sefydliadau. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
-Dulliau ymchwil a chasglu a dadansoddi data
-Modelu arbedion a pharatoi achosion busnes
-Newid sefydliadol a pharatoi ar gyfer newid gyda syniadau newydd
-Datblygu Arweinyddiaeth
-Cymorth o ran marchnata a chyfathrebu – datblygu naratif ar gyfer y prosiect
-Llywodraethu a datblygu busnes – yn arbennig os oes perthnasoedd newydd wedi’u ffurfio.
Efallai na fydd yn bosibl cyflwyno’r math hwn o gefnogaeth yn fewnol, felly mae’n hanfodol cael cyllideb ar gyfer cymorth anariannol er mwyn comisiynu arbenigwyr pan fo angen.
Rhaglen o ddigwyddiadau sy’n dod â grwpiau o brosiectau ynghyd i ddatblygu carfan, gan alluogi rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid a nodi meysydd lle gallai cydweithredu fod yn ddefnyddiol. Mae’r digwyddiadau hyn hefyd yn sicrhau cyswllt wyneb i wyneb rheolaidd rhwng prosiectau a thîm y rhaglen, gan ddatblygu perthnasoedd a gwybodaeth, ac yn y pen draw, darparu lefel well o gefnogaeth. Yn ogystal, gall y digwyddiadau hyn fod yn gyfle da i’r garfan ddysgu sgiliau newydd sy’n ymwneud ag arloesi a allai helpu i wthio eu prosiectau ymlaen. Gallai hyn gynnwys pynciau fel datblygu sgiliau cyfleu syniadau neu ddysgu am ddulliau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Faint o amser ddylai gymryd?
Gwnewch hyn mor gyflym ag y gallwch er mwyn cynhyrchu a chynnal momentwm, ond cofiwch y gall gymryd mwy o amser na’r disgwyl i sefydlu prosiect ymchwil a datblygu, a gallai ystyriaethau tymhorol, er enghraifft, effeithio ar rai syniadau (yn enwedig mewn prosiectau sy’n ymwneud ag iechyd ). Y peth gorau yw bod mor hyblyg ag y gallwch chi o fewn eich amserlenni sefydledig. Dylai cyfnod o 9 i 12 mis fod yn ddigonol.
Mae’r broses o gynnal ymchwil a datblygu wedi golygu ein bod ni wedi gorfod ystyried y syniad yn fanwl. Byddem,yn flaenorol, wedi gwneud hyn o fewn y gwasanaeth maethu o fewn tîm bach iawn, gyda safbwyntiau a syniadau ynghylch y ffordd gywir ymlaen, yn ein barn ni. Roedden nhw wir yn ein hannog ni i siarad â phob un rhanddeiliad.
Roedden nhw wedi’n galluogi ni i gael mynediad i arbenigwyr, mewn gwirionedd, a oedd yn gallu gosod ein geiriau mewn taenlen, a’n helpu i fireinio ffyrdd o wneud arbedion ar gostau. Felly, roedd hynny’n ddefnyddiol iawn, yn enwedig pan rydych chi’n ceisio cael awdurdod lleol i fuddsoddi.
Jill Jones, Cyngor Sir Fflint
Cam 3: Gweithredu
Yn y cam hwn, cynigir cyllid sy’n seiliedig ar risg (benthyciad) i brosiectau i weithredu eu syniad a, lle bo hynny’n briodol, ei raddio’n fewnol neu drwy gynnig y syniad i sefydliadau tebyg eraill
Pa gymorth ddylech chi ei gynnig?
- Cyllid benthyciad. Yn y cam hwn, cynigir benthyciadau di-log, heb ei sicrhau, i brosiectau. Nid oes terfyn uchaf nac isaf i’r swm y gellir gofyn amdano ac nid oes amserlen benodol ar gyfer ad-dalu. Bernir y ddau yn ôl y meini prawf canlynol:
-Y swm sydd ei angen i gyllido gweithredu
-Y gyfradd y gellir sicrhau arbedion – ar ba lefel a thros ba gyfnod o amser.
- Cymorth o ran graddio’r prosiect Wrth gynnig cyfnod o gymorth anariannol ochr yn ochr â chyllid benthyciad, rydych chi’n helpu i sicrhau bod gan sefydliadau’r sgiliau angenrheidiol i weithredu eu prosiect yn effeithiol. Yn yr un modd â’r cam ymchwil a datblygu, gallai hyn gynnwys cymorth â modelu ariannol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a datblygu cynllun gwerthuso, ond hefyd gall ganolbwyntio ar newid sefydliadol i arfogi prosiectau i oresgyn rhwystrau posibl wrth raddio eu syniad.
Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth ar gyfer ymchwil a datblygu ym mlwyddyn gyntaf y cam Gweithredu, er mwyn parhau i lunio tystiolaeth yn ystod y cyfnod graddio cychwynnol. Gwers allweddol o’r ddwy fersiwn o Arloesi i Arbed sy’n cael eu rhedeg gan Y Lab yw y gall contractio benthyciadau, am amrywiol resymau, gymryd cryn dipyn o amser, a dylech chi fod yn glir yn eich cynllunio a’ch amserlenni ynghylch p’un ai yw eich cefnogaeth ar gyfer gweithredu yn rhedeg o’r cyfnod y cyflwynir contract, neu o’r cyfnod ar ôl cymeradwyo contract.
Mae’r argyfwng COVID-19 wedi golygu y bu’n rhaid ail-ddylunio gwasanaethau, ac roedd yn hanfodol ein bod yn gallu cefnogi ein prosiectau yn hyn o beth. Ar ôl i sioc y cyfyngiadau symud leihau, roedd prosiectau angen cymorth i addasu ar gyfer ffyrdd o weithio o bell, neu gael cyfnod i ailystyried amserlenni ac unrhyw oblygiadau ariannol ar gyfer eu gwaith. Trefnwyd cefnogaeth anariannol ychwanegol, ac roedd cyswllt agos yn sicrhau bod y prosiectau’n teimlo bod ganddynt gefnogaeth wrth iddynt ddyfeisio ffyrdd newydd o weithio.
Astudiaeth Achos: Cymorth COVID-19 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint
Pan darwyd y DU gan y coronafeirws yn gynnar yn 2020, roedd Cyngor Sir y Fflint ar gam cynnar o weithredu dull Mockingbird o ddarparu gofal maeth ar draws y fwrdeistref sirol, gyda chyllid o £1.15 miliwn.
Mae rhaglen Mockingbird yn creu ‘teulu estynedig’, a elwir yn glwstwr, o 6 i 10 teulu maethu sy’n derbyn cefnogaeth gan ofalwr maeth profiadol. Dangosir bod rhaglen yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau maethu ac yn cryfhau’r berthynas rhwng gofalwyr, plant a phobl ifanc, gwasanaethau maethu a theuluoedd biolegol. Mae model y teulu estynedig yn galluogi cysgu draw a seibiau byr, cefnogaeth gan gymheiriaid, cydgynllunio a hyfforddiant rheolaidd, a gweithgareddau cymdeithasol rhwng y teuluoedd. Sefydlwyd y clwstwr cyntaf ym mis Chwefror 2020 gydag un arall i ddilyn erbyn diwedd y flwyddyn.
Oherwydd y cyfyngiadau symud, ataliwyd yr holl weithgarwch i gychwyn, wrth i’r awdurdod lleol a’r teuluoedd dan sylw gymryd amser i ddeall eu hamgylchiadau newydd. Bu’n rhaid i dîm maethu’r awdurdod lleol ddod o hyd i ffyrdd o barhau i ddarparu eu gwasanaethau, a newidiwyd ffocws y gwaith ar y prosiect Mockingbird i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu o bell. Yn bennaf, roedd hyn yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd o alluogi cyswllt safonol ac anffurfiol rhwng y teuluoedd dan sylw, a rhwng yr awdurdod lleol a theuluoedd, a dod o hyd i ddatrysiadau digidol ar gyfer cyflawni gwaith recriwtio ar gyfer y clwstwr nesaf.
Darparwyd cefnogaeth anariannol i Gyngor Sir y Fflint gan Arloesi i Arbed, i’w helpu i nodi a datblygu ffyrdd newydd o gyflawni eu gwaith, a chael cymeradwyaeth ar gyfer newid i gyflenwi digidol. Roedd hyn yn cynnwys mapio’r gwasanaeth, ymchwil, profi a briffio. Ar yr un pryd, llwyddodd Cyngor Sir y Fflint i sicrhau cefnogaeth benodol, a ddarparwyd gan Catalyst i dderbynwyr grantiau cymwys gan Nesta, ar gyfer newid i ffyrdd digidol o weithio mewn ymateb i’r argyfwng COVID-19. Bellach, maen nhw’n gweithio fel rhan o ‘Dîm Digidol’ – sef carfan o sefydliadau plant ac ieuenctid sy’n rhannu angen penodol i ddarparu hyfforddiant ac ymgysylltu ar-lein i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc.
Faint o amser ddylai gymryd?
Pan rydych chi’n rhoi benthyciadau, mae’n debyg y byddan nhw ar gynllun ad-dalu pwrpasol, a allai fod flynyddoedd ar wahân ar gyfer prosiectau gwahanol. Gallai’r cam ymchwil a datblygu gynnwys ymarfer ad-dalu er mwyn deall y cyfnod y mae arbedion yn debygol o gael eu gwireddu fel y gellir strwythuro cynigion benthyciad yn unol â hynny. Mae comisiynu sefydliad allanol i helpu prosiectau gyda’u modelu ariannol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y rhaglen.
Benthyciadau Arloesi i Arbed
Faint o arian ddylid ei neilltuo ar gyfer cronfa fenthyciadau? Mae Arloesi i Arbed wedi denu 70 o geisiadau am gyllid ymchwil a datblygu dros ddwy rownd y rhaglen, ond dim ond 15 prosiect a ddewiswyd ar gyfer y cam hwn oherwydd cyfradd gadael uchel. Mae cyfanswm o bedwar prosiect wedi’u cymeradwyo ar gyfer cyllid benthyciad sy’n werth buddsoddiad o £2.8 miliwn dros gyfnodau ad-dalu gwahanol.
Y cais lleiaf a gymeradwywyd am gyllid oedd £400,000, a’r mwyaf oedd £1 miliwn
Gwella gwasanaethau
At ddibenion Arloesi i Arbed, rydym yn defnyddio’r diffiniad canlynol o’r term arloesi:
“Yn syml, mae arloesi yn y sector cyhoeddus yn ymwneud â chreu, datblygu a gweithredu syniadau ymarferol sy’n sicrhau budd cyhoeddus. Rhaid i’r syniadau hyn fod yn rhannol newydd o leiaf (yn hytrach na gwelliannau); mae’n rhaid eu mabwysiadu a’u gweithredu (yn hytrach nag aros fel syniadau’n unig); ac mae’n rhaid iddynt fod yn ddefnyddiol. Yn ôl y diffiniad hwn, mae arloesi’n gorgyffwrdd â chreadigrwydd ac entrepreneuriaeth, ond mae’n wahanol iddynt.” (Nesta, Innovation in the Public Sector, 2014)
Mae gofyniad ‘budd cyhoeddus’ y rhaglen yn nodwedd o Arloesi i Arbed sydd yr un mor bwysig â’r arbedion y gellir eu troi’n arian. Rhaid i arloesedd cynnyrch neu wasanaeth prosiect fod â’r potensial i sicrhau budd cyhoeddus yng Nghymru.
Er nad oes diffiniad penodol ynghlwm wrth y rhaglen ar gyfer ‘budd cyhoeddus’, mae’r offer a’r adnoddau a ddefnyddir gan Arloesi i Arbed yn annog prosiectau i fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth wrth ddylunio, datblygu, darparu a gwerthuso eu gwaith.
Mae mabwysiadu dulliau o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr/y gwasanaeth yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod y defnyddwyr yn ganolog i’r arloesi. Yn ystod un o’r digwyddiadau carfan cychwynnol, buom yn hwyluso rhannu sgiliau gan gyflwyno offer i’r cyfranogwyr i helpu i gynyddu ymgysylltiad defnyddwyr trwy gydol y broses ymchwil a datblygu. Mae teithiau defnyddwyr, datblygiad personol a mapio rhanddeiliaid yn annog prosiectau i roi anghenion a blaenoriaethau’r cyhoedd uwchlaw eu hanghenion eu hunain.
Man lleiaf, rydym yn disgwyl na ddylai prosiectau waethygu’r gwasanaeth i’r bobl sy’n ei ddefnyddio, boed yn staff y sefydliad sy’n gweithredu syniad newydd, neu aelodau’r cyhoedd. Gellir mesur hyn trwy ofyn am adborth gan ddefnyddwyr yn rheolaidd yn ystod y cam ymchwil a datblygu, cael adborth ar syniadau, a chasglu data boddhad defnyddwyr trwy arolygon a chyfweliadau yn ystod y cam gweithredu.
Yr effaith ar ad-dalu o ran arbedion y gellir eu troi’n arian ac arbedion na ellir eu troi’n arian
Buom yn ystyried nifer o senarios wrth feddwl am y ffordd orau o strwythuro cyllid risg ar gyfer prosiectau, yn seiliedig ar y mathau o arbedion y maent yn debygol o’u gwneud.
Senario 1: Mae arbedion y gellir eu troi’n arian yn cyfateb i werth y benthyciad, neu’n fwy na hynny, o fewn un sefydliad.
Mae’r model benthyciad safonol yn parhau i fod yn berthnasol, ar yr amod bod tystiolaeth resymol y gellir ad-dalu’r benthyciad yn brydlon ac y bydd hynny’n digwydd.
Senario 2: Mae arbedion y gellir eu troi’n arian yn cyfateb i werth y benthyciad, neu’n fwy na hynny, ond wedi’u rhannu ar draws nifer o sefydliadau darparu gwasanaethau o fewn un prosiect.
Mae’r model benthyciad safonol yn parhau i fod yn berthnasol, ond mae’n bosibl y byddem yn annog defnyddio Cyfrwng at Ddibenion Arbennig i gyflawni’r arbedion, gyda phob aelod yn cyfrannu at yr ad-daliadau yn gymesur â’r arbedion y gellir eu troi’n arian a wneir ym mhob un o’r sefydliadau. Nid fu unrhyw achosion o’r senario hwn ymhlith carfan Arloesi i Arbed.
Senario 3: Mae arbedion y gellir eu troi’n arian yn llai na gwerth y benthyciad, ond mae arbedion na ellir eu troi’n arian yn sylweddol a byddant yn darparu gwerth ychwanegol sylweddol, naill ai o fewn un sefydliad neu wedi’u rhannu ar draws nifer o sefydliadau.
Mae hyn yn fwy cymhleth, a heb ei brofi i raddau helaeth gan Arloesi i Arbed. Yn y senario hwn, ni fydd arbedion sylweddol y gellir eu defnyddio i ad-dalu’r benthyciad, ond gallai’r gwerth y mae prosiect yn ei gynhyrchu olygu nad yw’n gwneud fawr o synnwyr i beidio â’i gefnogi. Yn yr achos hwn, bydd angen i ni wneud penderfyniad ynghylch y swm sy’n cael ei ad-dalu a gan bwy.
Yn yr achos hwn, mae angen i ni ystyried sut mae’r prosiectau hyn yn ad-dalu cyllid benthyciad trwy’r rhaglen Arloesi i Arbed, gan na ellir gwneud ad-daliadau o arbedion y gellir eu troi’n arian, a ph’un ai y byddent yn gallu gwneud hynny. Hefyd, mae angen i ni ystyried y ffaith y gallai prosiectau arloesol fod yn fwy tebygol o gynhyrchu arbedion na ellir eu troi’n arian (neu gymysgedd o’r ddau), yn hytrach nag arbedion y gellir eu troi’n arian, yn y tymor byr o leiaf. Gallai strwythurau ariannol posibl ar gyfer prosiectau fel hyn gynnwys:
- Ceisio cefnogaeth ychwanegol gan drydydd parti, nad oes rhaid ei had-dalu, fel grant
- Dileu’r benthyciad ar sail ‘talu yn ôl canlyniadau’ – wrth i’r prosiect gyflawni arbedion na ellir eu troi’n arian sydd o fudd uniongyrchol i’r sefydliad cyllido ar lefel polisi, mae swm y benthyciad yn lleihau.
- Ei gwneud yn ofynnol i’r prosiect ad-dalu’r benthyciad o ffynonellau eraill, naill ai ei gronfeydd wrth gefn neu drwy symud cyllid o faes arall.
Rheoli a modelu risg
Ceir risg i ryw raddau ym mhob un o’r senarios a amlinellir uchod. Yn yr achos cyntaf, gellir lliniaru risgiau wrth ddefnyddio cam ymchwil a datblygu â chymorth, gan sicrhau profi a gwerthuso cyn ymgymryd â chyllid risg. Fodd bynnag, dylem gydnabod y bydd rhywfaint o risg yn parhau, a dylechchi fodelu yn unol â hynny gan y bydd yn effeithio ar y prosiectau rydych chi’n dewis eu datblygu.
Un risg nas rhagwelwyd, a oedd yn senario realistig ar un cam yn rhaglen Arloesi i Arbed, oedd y syniad o gael cais am fenthyciad sylweddol, gyda llif ad-dalu a allai fod wedi ansefydlogi’r gronfa (h.y. ni fyddai’n dechrau ad-dalu am nifer o flynyddoedd, gan adael y gronfa sydd ar gael ar gyfer buddsoddiadau newydd wedi’i disbyddu). Yn y senario hwn, cynigiwyd rhannu’r swm a dynnir i lawr, i sicrhau gweithrediad graddol a phwyllog, gan osgoi disbyddu’r brif gronfa fenthyciadau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn angenrheidiol yn y pen draw.
Gwersi allweddol
Mae grantiau bach (£15k i £30k) ynghyd â chymorth anariannol pwrpasol yn gallu ysgogi sefydliadau i ddatblygu a rhedeg prosiect ymchwil a datblygu i brofi syniad newydd, ar y cyd â chyllid benthyciad arfaethedig yn ddiweddarach. Rydym wedi gweld bod y model yn gweithio’n dda ar gyfer prosiectau gweithredu hyd at werth oddeutu £1 miliwn.
Mae cael partneriaethau gwirioneddol ar waith yn elfen allweddol ar gyfer llwyddiant y rhaglen hon. Roedd y rhai a oedd wedi gorddatgan eu perthnasoedd allweddol neu a aeth ati i gynnal ymchwil a datblygu heb y perthnasoedd priodol ar waith (e.e. gydag awdurdodau lleol) heb allu gwneud cymaint o ymchwil a datblygu ag a gynlluniwyd.
Mae cyllid ar gyfer cefnogaeth anariannol, y gallu i gynorthwyo, a’r amser i fod yno ar gyfer prosiectau, yn hanfodol. Mae hyn yn dechrau yn ystod y cam codi ymwybyddiaeth i sefydlu’r gronfa fel dull dynamig o arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Roedd yr elfen hon o gefnogaeth yn helpu prosiectau i ddeall nad yw Y Lab yn chwilio am berthynas draddodiadol rhwng cyllidwr a derbynnydd grant, ond yn hytrach partneriaeth i arbrofi â syniadau a’u cefnogi i weld a ydyn nhw’n gweithio. Mae’r math o gefnogaeth a gynigir yn hanfodol i lwyddiant, o ran ochr hon y rhaglen. Gwelsom fod mathau o gymorth sy’n seiliedig ar hyfforddi yn alinio’n dda, ac yn helpu i fodloni anghenion prosiectau o ran cymorth emosiynol.
Adran 4 – Tystiolaeth o effaith eich rhaglen
Mae tystiolaeth o ansawdd da a gwerth y dystiolaeth honno wrth lywio penderfyniadau polisi yn gynyddol bwysig i lywodraethau ledled y byd.
Mae sefydliadau fel y Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol yn hyrwyddo’r defnydd o dystiolaeth drylwyr er mwyn cyflawni nifer o ganlyniad, a restrir yn Ffigwr 1:
Yn Y, Lab gofynnwn i ymgeiswyr i’n cronfa asesu eu sefyllfa o ran Safonau Tystiolaeth Nesta, ac ymrwymo, os ydynt yn sicrhau cyllid grant neu gyllid ad-daladwy, y byddant yn gweithio i wella lefel eu tystiolaeth o effaith dros gyfnod amser.
Safonau tystiolaeth
Mae safonau tystiolaeth yn werthfawr mewn rhaglen arloesi sy’n seiliedig ar gyllid cyfunol. Gallant helpu i arwain amcanion a gweithgareddau prosiect ymchwil a datblygu – gan osod ffiniau a thybiaethau clir ynghylch yr hyn a fydd yn cael ei wneud a’r hyn na fydd yn cael ei wneud.
Gallant fod o gymorth hefyd wrth ddeall awydd rhanddeiliaid i gymryd risg o ran buddsoddi. Er enghraifft, rydym yn gosod ein meincnod ar gyfer risg ar safon lefel 2 o dystiolaeth ar gyfer gwneud y mwyafrif o fuddsoddiadau. Rydym o’r farn, yn y rhan fwyaf o achosion, y dylai hyn fod yn ddigonol i ni wneud rhyw fath o fuddsoddiad ar sail risg mewn prosiect.
Fodd bynnag, gall yr awydd am risg o fewn y sefydliad sy’n gwneud y gwaith fod yn sylweddol is, gan ofyn am gyflawni safon uwch o dystiolaeth cyn buddsoddi. Gan ddefnyddio’r safonau tystiolaeth, gallwn fapio a deall y gwahaniaethau hyn, a gweithio ar ddulliau i’w goresgyn – naill ai trwy waith eiriolaeth, modelau buddsoddi newydd, neu ddod o hyd i gyllid ymchwil ychwanegol i wella’r sylfaen dystiolaeth cyn ymgymryd â chyllid risg.
Dulliau monitro a gwerthuso
Rwyf wedi dysgu gwers bod data yn wirioneddol allweddol ac os oes gennych chi ddata ac os oes gennych chi dystiolaeth galed i gefnogi’r arloesedd newydd hwn, gall hynny helpu i herio’r sawl sy’n gwrthwynebu newid, y rhwystrau rhag newid.
Prosiect Arloes i Arbed
Mae’r cyfle i ddeall yn well y mathau o arloesi a gyllidir yn gyhoeddus y mae rhaglenni’n eu cefnogi (a’r rhai nad ydynt yn eu cefnogi) yn faes ymchwil pwysig i’w ddilyn.
Ar hyn o bryd, daw mwyafrif yr ymchwil yn y maes o Unol Daleithiau America, lle mae’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol (a’r berthynas rhyngddynt) yn wahanol iawn. Mae’r cyfle ymchwil hirdymor sydd ar gael yma yn darparu lle i archwilio effaith eich rhaglen yn ei chyd-destun ei hun. Er enghraifft, a yw gwlad sydd â gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u hintegreiddio’n agosach yn galluogi rhai mathau o brosiectau i ddod i’r amlwg a hwyluso lledaenu syniadau’n fwy effeithiol i’w gwneud yn arferion? Neu a yw cyrff annibynnol yn fwy tebygol o edrych y tu allan i’w sector cyflenwi uniongyrchol er mwyn cael gwybodaeth a phrofiad sy’n trosglwyddo i’w gwasanaeth?
Mae cysylltiad y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, a’r effaith bosibl arnynt, yn rhan ganolog o’r rhaglen hon ac mae hyn hefyd yn llywio’r holl ymchwil a wneir i’w gwerthuso.
Sut ydym ni’n gwerthuso Arloesi i Arbed?
Un o nodau allweddol partneriaeth Y Lab sy’n darparu Arloesi i Arbed yw deall sut a pham mae arloesedd yn digwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae gwerthuso Arloesi i Arbed yn rhoi cyfle unigryw i ni ddilyn datblygiad rhai o’r syniadau newydd gorau sy’n deillio o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac archwilio sut mae cronfeydd arloesi yn gweithredu ac yn cefnogi syniadau newydd, ac i bwy, a sut.
Mae gwerthuso rhaglenni yn berthnasol i bob un o dri cham Arloesi i Arbed. Yn gyntaf, wrth i’r rhaglen gael cyhoeddusrwydd ac mae ymgysylltiad yn dechrau, yn ail wrth i dimau gael eu cefnogi i ymchwilio a datblygu eu syniadau, ac yn olaf wrth i brosiectau llwyddiannus gael eu gweithredu a’u gwerthuso.
Mae angen mathau gwahanol o werthuso ar adegau gwahanol yn y rhaglen, a dylid eu defnyddio gyda’i gilydd. Mae Arloesi i Arbed wedi defnyddio cyfuniad o werthuso ‘monitro’ a gwerthuso ‘prosesau’ yn bennaf.
Mae gwerthuso monitro yn rhoi adborth i chi ar eich digwyddiadau a mewnbynnau eraill, gan alluogi gwneud addasiadau os oes angen, a rhoi cipluniau o’r broses a all fod yn ddefnyddiol wrth fapio cynnydd.
Mae gwerthuso prosesau, ar y llaw arall, yn olrhain ar draws y rhaglen gyfan, gan benderfynu p’un ai y gweithredwyd cynlluniau, unrhyw fecanweithiau o ran effaith, a dylanwad y cyd-destunau ehangach. Ceir amcanion o ran yr hyn y mae’r rhaglen wedi’i hanelu at ei gyflawni, a gellir mesur y rhain gan ddefnyddio’r offerynnau amrywiol sydd ar gael.
Mae cynllunio a chasglu data ar effeithiolrwydd eich rhaglen yn gallu darparu tystiolaeth werthfawr ar gyfer effaith, a phenderfynu a oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau er mwyn cael y canlyniadau a ddymunwch.
Mae’r dulliau y gellir eu defnyddio i wneud hyn yn cynnwys:
- Arolygon
- Grwpiau ffocws
- Cyfweliadau
- Cyfnodolion.
Mae’n syniad da i feddwl am eich rhaglen fel un sy’n cynnwys mathau gwahanol o weithgareddau (e.e. mewnbynnau, deialogau, prosiectau, cynllunio) gyda graddfeydd amser gwahanol (yn dibynnu ar Theori Newid eich rhaglen). Rhaid addasu ffurfiau gwerthuso i wneud y mwyaf o’ch gallu i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth.
Gwerthuso Arloesi i Arbed
Gan fod y rhaglen yn ffurf ar arloesi hefyd – ac i ryw raddau’n arbrofol yn ogystal – mae gwerthuso Arloesi i Arbed wedi bod yn broses ddysgu ynddo’i hun.
Mae’r heriau sydd wedi codi fel rhan o werthusiad y rhaglen yn ymwneud yn bennaf â:
- Natur iteraidd dyluniad a chyflwyniad y rhaglen Arloesi i Arbed – creodd hyn yr angen am strategaeth werthuso hyblyg ac ymatebol.
- Anawsterau wrth olrhain ‘effaith’ tymor hwy’r rhaglen Arloesi i Arbed y tu hwnt i’r cyfnod y cyllidir gwerthuso’r rhaglen.
Mae materion gwerthuso allweddol i’w hystyried gan unrhyw un sy’n datblygu rhaglen debyg yn cynnwys:
- Strategaeth werthuso glir sy’n ymatebol i iteriadau rhaglenni. Dylai’r strategaeth hon gynnwys dangosyddion clir ar gyfer:
- Y math(au) o werthuso sy’n cael ei gynnal/eu cynnal (h.y. monitro, prosesau, neu werthuso effaith)
- Pwy fydd yn cynnal y gwerthusiad (tîm mewnol neu allanol)
- Yr hyn rydych chi’n ceisio ei werthuso (e.e. effeithiau ar gyfranogwyr, timau, sefydliadau, syniadau)
- Pam, pryd a sut y bydd data’n cael eu casglu a’u defnyddio i lywio’r gwerthusiad (datblygu rhesymeg ac amserlen ar gyfer casglu a dadansoddi data)
- Sut i ymateb i iteriadau ychwanegol.
- Sut gallech chi sicrhau cymaroldeb y data a gesglir ar draws iteriadau gwahanol y rhaglen?
- A oes unrhyw offerynnau/offer ‘dilysedig’ y gallwch chi eu defnyddio i asesu’r ‘parodrwydd’ ar gyfer arloesedd, neu arloesedd prosiectau a sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen?
- Pa mor bwysig yw deall effeithiau tymor hwy prosiectau ar ôl i berthynas y rhaglen â phrosiectau ddod i ben?
Rwy’n credu ei fod wedi rhoi hyder i mi ddweud, mewn gwirionedd gallwn wneud rhywbeth mawr ac mae gennym y potensial i fod y bobl gyntaf i wneud hyn a gallwn fod yr arweinwyr a’r arloeswyr. Efallai mai dim ond [enw lle] bach ydym ni, ond gallwn wneud hyn a gallwn ni fod y gorau.