Mae’r adroddiad hwn yn amlygu astudiaethau achos o arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n dwyn ynghyd heriau a rhwystrau cyffredin y mae arloeswyr ar draws y sector cyhoeddus yn eu hwynebu.
Astudiaethau Achos Arloesi mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn 2016, cynhaliwyd prosiect ymchwil gennym i ddod o hyd i enghreifftiau o arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Gwnaethom gyfweld â deg ar hugain o bobl o amrywiaeth eang o brosiectau ar draws gwahanol sectorau, mewn gwahanol feysydd, ac yn wynebu amrywiaeth o heriau.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu rhai o’r canfyddiadau; rhwystrau a galluogwyr cyffredin, rhwystredigaethau a rennir. Mae hefyd yn cyflwyno astudiaethau achos o rai o’r prosiectau a gafodd eu cyfweld.