21 Mehefin 2019
Mae ymchwil yn dangos bod rhywedd yn dylanwadu ar ganlyniad ceisiadau am gyllid arloesi. Sut gallwn ddeall hyn yn well, a phrofi ffyrdd o warchod rhag rhagfarn ddiarwybod?
Gall unrhyw un sydd wedi pwyso a mesur ceisiadau ddeall pa mor hawdd yw cael eich parlysu gan aruthredd y cyfrifoldeb o roi grantiau ar gyfer arloesi yn y sector cyhoeddus.
Nid oes neb am fod yn gyfrifol am ddod rhwng y syniad hwnnw a’r bobl y mae wir ei angen arnynt.
Rydym yn gwybod o ymchwil i gyllid grantiau academaidd y gall hyd yn oed y bobl sy’n credu eu bod yn gwneud dewisiadau diduedd gael eu dylanwadu’n ddiarwybod gan ffactorau amherthnasol megis rhywedd ymgeiswyr. Mae’r Athro Iris Bohnet, o Ysgol Fusnes Harvard, wedi ysgrifennu am y broses gyfweld draddodiadol, a sut y gall gael gwared ar y gorau yn hawdd, yn hytrach na’ch helpu i ddod o hyd iddynt.
Mae sefydliadau megis Applied yn ceisio mynd i’r afael â hyn yn ystod y broses benodi drwy ddarparu platfformau sy’n helpu i greu swydd-ddisgrifiadau mwy cynhwysol, cyflwyno systemau sgorio sy’n rhydd o duedd a chael gwared ag iaith ryweddol mewn ceisiadau.
Wrth inni feddwl am y peth, daethom yn ôl at yr un cwestiwn droeon, sef: a yw dewis ymgeisydd am swydd yn debyg i ddewis prosiect arloesi?
Rydym yn chwilio am bobl gyffrous â syniadau nad ydym erioed wedi eu clywed o’r blaen – sut rydych chi’n ysgrifennu manyleb person ar gyfer hynny?
O ran llogi, mae chwe argymhelliad penodol ar gyfer cynllunio prosesau cyfweld sy’n annog penderfyniadau systematig ac ystyriol. Gwnaethom ystyried y rhain, a cheisio eu cymhwyso i’n proses ddethol ein hunain.
O’r chwe cham gweithredu a argymhellir, mabwysiadwyd pedwar gennym fel rhan o’n proses ddethol. Y rhain oedd:
- Gofynnir yr un cwestiynau strwythuredig i bawb
- Mae prosiectau’n cael eu holi’n uniongyrchol gan un aelod o’r panel ar y tro
- Sgorio atebion cyn symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf, fel nad yw sgorau’n dylanwadu ar ei gilydd
- Canolbwyntio ar y sgiliau y bydd eu hangen arnynt fel rhan o’r rhaglen
Y tro hwn, roedd cyfran y timau â mwyafrif benywaidd a gafodd eu hariannu yn llawer agosach i gyfran y timau â mwyafrif gwrywaidd a gafodd eu hariannu.
Beth ddigwyddodd?
Cafodd ein dwy broses dewis rhaglen eu rhedeg gyda niferoedd bach, ac ar sail cymharu dau grŵp o’r fath, lle newidiodd ffactorau eraill megis aelodau’r panel, y cyfweleion, a’r prosiectau, nid yw’n bosib priodoli’n rhesymol unrhyw newidiadau o ran dyfarnu grantiau i’r prosiect lliniaru rhagfarnau hwn.
Wedi dweud hynny, roedd patrymau a oedd wedi gwella; y tro hwn, roedd cyfran y timau â mwyafrif benywaidd a gafodd eu hariannu yn llawer agosach i gyfran y timau â mwyafrif gwrywaidd a gafodd eu hariannu.
Mae trawsnewid argymhellion arfer gorau yn weithredoedd o’r byd go iawn yn ddiddorol bob amser; canfuom fod angen cyfaddawdu wrth gynllunio’r broses, a bod rhedeg y broses arbrofol yn arwain at rai heriau diddorol i’r panel dethol o’i gymharu â dull cyfweld mwy traddodiadol.
Mae sicrhau bod pob prosiect yn cael yr un cwestiwn yn gwbl deg – ond mewn gwirionedd, yr effaith oedd nad oedd y person a oedd yn gofyn y cwestiwn yn gallu ymchwilio i gynildeb, a golygai hynny efallai nad oedd atebion prosiectau mor gyfoethog ag o’r blaen.
Yn syml, nid oedd yn ymarferol cymryd nodiadau ar atebion, sgorio a chofnodi nodweddion ymddygiad o fewn yr amser a oedd gennym ar gyfer cyfweld – cafodd yr argymhelliad hwn ei ollwng o’n proses ar ôl ymarfer cyn diwrnod y cyfweliadau.
Roedd gwneud newidiadau mor sylfaenol i gynllun ein proses ddethol yn cynyddu maint y waith gweinyddu a threfnu yr oedd ei angen i sicrhau bod y broses yn rhedeg yn ddidrafferth. Dywedodd y rhan fwyaf o’r prosiectau wrthym eu bod wedi mwynhau’r profiad, ond roedd un neu ddau’n llawer llai cyfforddus â’r sefyllfa.
Er gwaethaf yr heriau a gafodd eu codi gan yr argymhellion a roddwyd ar waith gennym, rydym yn falch iawn o fod wedi cynllunio proses ddethol yn bwrpasol sy’n ceisio bod mor gynhwysol â phosibl. Rydym yn bwriadu parhau i gymryd camau cadarnhaol yn y maes hwn, ac yn gobeithio y gallai ein profiadau helpu eraill i wella eu harfer eu hunain.