Arbed ynni mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghasnewydd, de Cymru

Perchnogion grant: Cyngor Dinas Casnewydd a Surple

Grant: £15,000

Cam a gyrhaeddwyd: Ymchwil a datblygu

Cyflwyniad

Mae Cyngor Dinas Casnewydd (NCC) yn cynnwys poblogaeth o 151,000 o bobl ac mae’n cynnal 57 o adeiladau ysgol ar hyn o bryd. Yn 2019/2020, roedd angen i’r cyngor arbed £15 miliwn i gynnig yr un gwasanaethau i’w preswylwyr. Mae Surple yn gwmni meddalwedd sy’n edrych ar greu ffyrdd yn haws i adeiladau cymunedol fonitro, lleihau a dysgu am eu defnydd o ynni i greu gwasanaethau carbon is ac i arbed arian.

Y syniad

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gwario £4.5 miliwn y flwyddyn ar ynni ledled ei adeiladau. Er mwyn ystyried ffyrdd i leihau costau a gwella effeithlonrwydd ynni yn eu hadeiladau, sefydlodd y cyngor bartneriaeth â Surple i archwilio sut y gallai eu platfform, sy’n galluogi sefydliadau i ddelweddu ac i olrhain eu defnydd o ynni, helpu i leihau costau ynni mewn ysgolion.

Beth ddigwyddodd

Trafododd Cyngor Dinas Casnewydd ystod o adeiladau cymunedol posibl i brofi platfform Surple i fesur a lleihau ei ddefnydd o ynni. Gwnaed y penderfyniad i brofi mewn amgylchedd ysgol gynradd – mae 42 yn ardal y cyngor. Y bwriad oedd ymgysylltu â’r ysgol gyfan i ddeall yn well ddefnydd yr adeilad o ynni er mwyn nodi lle roedd modd arbed ynni. At hynny, rhoddodd hyn y potensial i addysgu ac i ennyn diddordeb disgyblion ifanc yn y broses, a chynnwys agweddau eraill o’r cwricwlwm megis mathemateg a gwyddoniaeth wrth archwilio’r defnydd cyffredinol o ynni. Datblygwyd cwisiau i annog athrawon i drafod y platfform gyda’u dosbarth, ac i greu elfen o gystadleuaeth ar draws ysgolion.

Wynebwyd rhwystrau sylweddol yn rhan o’r prosiect wrth nodi ysgolion a oedd yn barod ac yn gallu cymryd rhan yn y peilot oherwydd y pwysau parhaus ar athrawon ac arweinwyr mewn ysgolion. Arweiniodd hyn at oedi o ran dechrau casglu data a llai o bobl yn ymgysylltu â’r prosiect nag y gobeithiwyd amdano.

Roedd cyfanswm o bum ysgol yn rhan o’r cyfnod ymchwil a datblygu. Gwnaeth dwy o’r pum ysgol leihau eu defnydd o ynni yn ystod y cyfnod prawf; nododd un ysgol ei bod hi’n gadael y goleuadau yn y maes parcio ymlaen dros nos a oedd yn gwastraffu ynni.

Roedd hefyd manteision annisgwyl; anogwyd ysgolion i gofrestru am fesurydd dŵr am ddim. Arweiniodd hyn at arbedion blynyddol o £21,490 ledled nifer o ysgolion oherwydd gollyngiadau a nodwyd y gellid eu hatgyweirio

Gwnaeth dwy o’r pum ysgol leihau eu defnydd o ynni yn ystod y cyfnod prawf; nododd un ysgol ei bod hi’n gadael y goleuadau yn y maes parcio ymlaen dros nos a oedd yn gwastraffu ynni.

Insights

  • Very low engagement with the platform demonstrates the time and work pressures experienced by teachers and school staff and the difficulties in piloting new initiatives on a voluntary basis across schools.
  • A short time for gathering data meant that conclusions about whether the platform would be effective in schools could not be drawn. 
  • The project team found that caretakers and headteachers were generally more engaged in the platform than classroom teachers. It may therefore be more effective to target the platform at the staff with responsibility for energy consumption rather than the whole school moving forward.

Anticipated Savings

Cashable savings were not identified by the project, however, the council has saved £21,490 having identified several water leaks within its schools estate following the installation of water meters as part of the project’s R&D. 

What’s next?

Newport City Council and Surple are planning to continue working together to extend the platform into more schools and gather additional data over a longer period of time. Surple won the Green Start-up category of the Wales Start-up Awards in 2019.