Creu gwasanaeth newydd ar y cyd i roi gwybodaeth am iechyd rhywiol i bobl ifanc

Promo-Cymru used R&D funding from Innovate to Save to develop and test a new information service helping young people find out and take action on their sexual health. 

Perchnogion grant: ProMo-Cymru

Grant: £15,000

Cam a gyrhaeddwyd: Ymchwil a datblygu

Cyflwyniad

Mae ProMo-Cymru yn elusen ac yn fenter gymdeithasol yng Nghymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau i ddylunio, i brofi ac i greu gwasanaethau gwell. Maen nhw wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf yn cynnig gwasanaethau gwybodaeth ddigidol i bobl ifanc, gan gynnwys llinell gymorth gyfrinachol a rhad ac am ddim, Meic, a datblygu platfform ar-lein i bobl ifanc yng Nghaerdydd o’r enw theSprout.co.uk, lle gall pobl ifanc rannu eu newyddion, safbwyntiau, gwybodaeth, cyngor a barn.

Yn 2018, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad ar iechyd rhywiolCanfu fod nifer y bobl sy’n mynd i glinigau iechyd rhywiol wedi dyblu dros y pum mlynedd diwethaf gan roi mwy o bwysau ar wasanaethau. Un o’r argymhellion oedd y dylid ystyried datblygu gwybodaeth genedlaethol ynglŷn â risgiau rhywiol a ddylai gael ei chyflwyno mewn fformat sy’n hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Mae data Iechyd Rhywiol yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael diagnosis o syffilis (44%), gonorea (32%) a’r achos cyntaf o herpes (20%) yn nhri mis olaf 2018. Fodd bynnag, nid yw’r ffigyrau hyn yn cyfri’r achosion nad ydynt wedi cael diagnosis ar hyn o bryd, sydd o bosibl yn uwch o lawer oherwydd dangosodd arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 52% o fenywod rhwng 16 a 24 oed wedi nodi mai eu pryder mwyaf am ryw heb ddiogelwch oedd ‘peidio â beichiogi’, a dim ond 9% a nododd heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) fel pryder.

Y syniad

Roedd ProMo-Cymru eisiau archwilio ffyrdd mwy arloesol o gyflwyno gwybodaeth briodol ac amserol am iechyd rhywiol i bobl ifanc. Cyflawnir hyn drwy ddylunio a datblygu gwasanaeth digidol gyda phobl ifanc a fyddai’n fwy effeithiol o ran darparu’r hyn yr oedd ei angen arnynt.

Cynigiodd ProMo gynnal sawl gweithdy mewn lleoliadau gwahanol i ddarganfod mwy am y broses yr aeth pobl ifanc drwyddi wrth gael gwybodaeth am iechyd rhywiol.

Roeddent hefyd yn bwriadu rhoi prototeip o wasanaeth digidol at ei gilydd a fyddai’n gwella ansawdd y wybodaeth oedd ar gael a’i gwneud hi’n haws i bobl ifanc gael gafael arni.

Cwestiynau ymchwil

  • Sut mae pobl ifanc eisiau rhyngweithio â’r gwasanaeth?
  • Sut y gellir gwneud arbedion ariannol?

Beth ddigwyddodd

Llywiwyd gwaith ymchwil a datblygu ProMo gan fethodoleg Dylunio Gwasanaeth. Roedd y gwaith yn cynnwys cwblhau mapiau taith defnyddwyr, glasbrintiau ac ymgysylltu’n rheolaidd â darpar ddefnyddwyr y gwasanaeth newydd. Cynhaliwyd yr ymchwil gyntaf gydag ystod eang o ddarpar ddefnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys disgyblion chweched dosbarth, pobl ifanc B/byddar (D/deaf) a myfyrwyr yr oeddent mewn perygl nad oeddent yn cael addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Oherwydd y grwpiau ffocws, roedd gan ProMo ddealltwriaeth well o sut y caiff gwybodaeth am iechyd rhywiol ei dehongli ar hyn o bryd a sut y mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau.

Cynhaliodd y Lab weithdy prototeipio wedi hynny, gan helpu ProMo i fapio sut olwg allai fod ar y gwasanaeth newydd ac ystyried yr adnoddau a’r amser angenrheidiol i greu pob ‘man cyswllt’. Yna dangoswyd y prototeip hwn i ddefnyddwyr gwasanaeth, ar fwy nag un achlysur, i gael adborth er mwyn gwella’r dyluniad. O’r grwpiau hyn, ni wnaeth prototeip ProMo weithio ar gyfer y bobl B/byddar a oedd yn rhan o’r arbrawf, a chafodd diffyg gwybodaeth bresennol am derminoleg ym maes iechyd rhywiol effaith ar hygyrchedd yr adnodd.

Fodd bynnag, barn y disgyblion ysgol oedd bod y prototeip yn fwy effeithiol wrth gyfleu gwybodaeth, megis pryd i fynd i glinig iechyd rhywiol os oeddech yn poeni eich bod wedi dal Clamydia (dim cyn 14 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad posibl). Dywedodd un person ifanc, “Mae hwn yn dda iawn. Mae’n debyg i gwis Buzzfeed. Cwis Buzzfeed am iechyd rhywiol.”

Yn gyffredinol, roedd yn well gan bobl gynnwys fideo a oedd yn rhoi’r cyfle i bobl gael ymarfer mynd i glinig, neu wrando ar straeon byw gan bobl â phrofiadau tebyg. Dywedodd un person ifanc wrth drafod hyn, “Byddai’n bwysig iawn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth i chi fynd i’r clinig go iawn.”

Yn hollbwysig, canfu ProMo nad yw’n hawdd i bobl ifanc gael gafael ar wybodaeth am iechyd rhywiol ar hyn o bryd, a gall fod yn anodd i’r bobl ifanc y mae ei hangen arnynt ei phrosesu.

Trwy weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwnaeth ProMo ddarganfod nad oedd cyllidebau marchnata a chyfathrebu’n bodoli bron, ac yn aml, roedd ymgyrchoedd am iechyd rhywiol yn cael eu hariannu drwy danwariant neu ffyrdd eraill.

“Mae hwn yn dda iawn. Mae’n debyg i gwis Buzzfeed. Cwis Buzzfeed am iechyd rhywiol.”

A young person at Promo-Cymru’s workshop

Niferoedd

  • Gwnaeth 35 person ifanc greu adnodd gwybodaeth am iechyd rhywiol ar y cyd â ProMo-Cymru.
  • Roedd 100% o’r bobl ifanc y gofynnwyd iddynt yn teimlo bod y prototeip a ddatblygwyd yn fwy effeithiol ac yn fwy defnyddiol na gwasanaethau presennol.
  • Nid oedd modd dod o hyd i arbedion ariannol; amcangyfrifwyd y byddai’n costio £197,000 i sefydlu’r gwasanaeth.

Arbedion a Ragwelir

Ni ellid dod o hyd i arbedion arian parod; fodd bynnag, nodwyd costau gwasanaeth clir a chrëwyd tystiolaeth tuag at achos cyllido fel rhan o’r gwaith Ymchwil a Datblygu.

Beth sydd nesaf?

Mae ProMo Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu partneriaeth gref sydd â’r potensial i fod o fudd i bobl ifanc dros amser. Mae defnyddio dull sy’n seiliedig ar ddylunio gwasanaeth i drin y prosiect hwn wedi dangos bod angen amlwg am y math hwn o wybodaeth am iechyd rhywiol i bobl ifanc, er nad oes llwybr clir i gael cyllid ar gael ar hyn o bryd.

Maen nhw’n cymryd rhan yn rhaglen Accelerate ar hyn o bryd, a arweinir gan y Ganolfan Gwyddorau Bywyd yng Nghymru, ar brosiect i edrych yn ehangach ar sut y caiff gwybodaeth am iechyd rhywiol ei chyflwyno i bobl ifanc, gan gynnwys sut y cânt eu cyfeirio at becynnau hunan samplu. Nod y gwaith hwn yw datblygu ac ategu prototeip yr adnodd.