Cyflwyno rhaglen Mockingbird yng Nghymru

Clwstwr gofal ar gyfer plant o dan ofal. 

Perchnogion grant: Cyngor Sir y Fflint

Grant: £30,000 

Cam a gyrhaeddwyd: Gweithredu

Cyflwyniad

Ym mis Mawrth 2019, roedd 6,845 o blant o dan ofal yng Nghymru, sef cynnydd o 7% o’r flwyddyn flaenorol. 

Mae nifer o awdurdodau lleol ledled y DU yn wynebu galw uwch am leoliadau gofal maeth. Ar gyfer 2019-20, rhagwelwyd y byddai angen 550 o deuluoedd maeth ychwanegol yng Nghymru i ymateb i’r galw. 


Yn 2017-2018, gwariodd Cyngor Sir y Fflint £7.8 miliwn i ofalu am blant o dan ofal. Gwariwyd oddeutu 65% o hyn ar leoliadau y tu allan i’r sir ar gyfer 13-14% o’r plant o dan ofal. Roedd tîm maethu Sir y Fflint yn teimlo bod ffordd well o recriwtio, o gefnogi ac o gadw teuluoedd maeth medrus er mwyn lleihau nifer y lleoliadau a oedd yn chwalu a’r plant a oedd yn symud. Gyda phob symudiad, mae plant yn debygol o fod ymhellach ac ymhellach o amgylchoedd cyfarwydd, gan gynnwys eu hysgolion a’u ffrindiau.

Y syniad

Datblygwyd rhaglen Mockingbird (Mockingbird) yn Unol Daleithiau America. Mae Mockingbird yn dod yn gynyddol boblogaidd yn Lloegr, ond ni roddwyd cynnig arni o’r blaen yng Nghymru. Roedd gwasanaeth maethu Sir y Fflint eisiau profi a fyddai modd cyflwyno model Mockingbird yn eu gwasanaeth.

Er mwyn ail-greu teulu estynedig, mae Model Teulu Mockingbird (MFM) yn rhoi gofalwyr maeth mewn ‘clystyrau’ o 6-10 o deuluoedd sy’n maethu. Cefnogir y rhain gan ofalwr maeth canolog (‘Gofalwr Cartref Canolog’) sy’n trefnu cyfnodau cysgu draw a drefnir a rhai brys yn ogystal â chyngor, hyfforddiant a chymorth i glwstwr o ofalwyr maeth eraill yn Sir y Fflint (‘Gofalwyr Lloeren’). Mae’n cynnig profiad mwy ‘arferol’ i blant maeth, gan gynnwys rhyngweithio ag ystod eang o blant ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt, gan roi rhwydwaith cymorth ehangach i deuluoedd maeth. 

Mae Cyngor Sir y Fflint, sy’n rhieni corfforaethol plant o dan ofal, yn dyheu am drefniadau gofal sefydlog yng nghymuned leol y plentyn, gan eu galluogi nhw i gyflawni eu llawn botensial. Mae’r MFM yn cynnig y cyfle i greu ‘teulu estynedig’ o amgylch plant a phobl ifanc, gan roi hwb i’w hymdeimlad o berthyn. Rhagwelir y bydd ychwanegu’r MFM yn gwneud maethu ar gyfer Sir y Fflint yn gynnig deniadol i ofalwyr maeth newydd a phrofiadol, a thrwy hynny sicrhau mwy o sefydlogrwydd o ran lleoliadau a chadw gofalwyr.

Beth ddigwyddodd

Canolbwyntiodd gwaith ymchwil a datblygu Sir y Fflint ar brofi sawl ansicrwydd ynglŷn â sut ac a fyddai modd cyflwyno MFM yn llwyddiannus yn y sir.  Gwnaethant edrych yn fanwl ar y gwasanaeth cyfredol yn Sir y Fflint i weld a fyddai MFM yn cyd-fynd yn dda â’r math o broblemau y maen nhw’n eu hwynebu, a chymharu eu data eu hunain â chanfyddiadau ehangach MFM o brosiectau eraill yn Lloegr a thu hwnt. 

Rhan bwysicaf yr ymchwil oedd sicrhau bod llais y plant a phobl ifanc yn cael ei glywed. Gwnaethant ymgynghori’n ddwys â gofalwyr maeth, gofalwyr canolog posibl, gweithwyr cymdeithasol a phobl ifanc. Roedd pawb yn hynod gefnogol o’r model. 

Roedd rhan o’u hymchwil a datblygu’n canolbwyntio ar ddeall y cyflenwad tai a’r lleoliadau sydd eu hangen i sefydlu’r clystyrau. Daethant i’r casgliad y dylai Sir y Fflint sefydlu pum clwstwr dros dair blynedd, ac y dylid addasu’r model i weddu i leoliad yn y dref ar gyfer clystyrau.

Niferoedd

  • Gwnaeth 74 o ofalwyr maeth a 10 person ifanc ymwneud â’r gwaith o brofi rhaglen Mockingbird
  • Dyfarnwyd cyllid grant gwerth £30,000
  • Cynigiwyd benthyciad gwerth £1.15 miliwn gan Arloesi er mwyn Arbed
  • Mae 5 clwstwr Mockingbird ar y gweill erbyn 2022.

Mewnwelediad

Canfu eu hymchwil y byddai MFM yn gweddu’n dda i’r heriau a wynebir yn Sir y Fflint ac y byddai’n cael ei groesawu gan y plant a’r bobl ifanc a’r gofalwyr maeth.

Gwelwyd nad oedd cynsail i’r pryderon ynglŷn â bod y cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r rhaglen a hynny mewn ardal lled-wledig. Roedd y model yn gweddu’n dda i egwyddorion deddfwriaeth Cymru ac roedd yn ddigon hyblyg i gyd-fynd â phatrymau aneddiadau a thai lleol.

Trwy edrych ar ddata a oedd eisoes yn bodoli ynghylch cadw gofalwyr a sefydlogrwydd lleoliadau, cadarnhawyd bod gofalwyr yn chwilio am fwy o gymorth gan y gwasanaeth maethu. Serch hyn, nid oedd lwfansau seibiant yn aml yn cael eu defnyddio, sy’n dangos nad oedd gofalwyr eu heisiau.

Cafwyd ymateb brwdfrydig i’r model mewn digwyddiadau ymgynghori â gofalwyr. Roedd mathau mwy hyblyg o seibiant gan gynnwys cysgu draw yn y cartref canolog yn agosach o lawer i’w hanghenion, ac roedd y plant a phobl ifanc yn dwlu ar y syniad o fywyd teuluol mwy ‘arferol’. Gwelwyd bod cefnogaeth gan gymheiriaid hefyd yn gweithio, oherwydd bod rhai gofalwyr o’r un gymdogaeth wedi mwynhau cwrdd â’i gilydd a rhannu profiadau am y tro cyntaf yn y digwyddiadau.

Dangosodd y dull y gwerth o ddatblygu’n araf a siarad â llawer o bobl. Gwnaeth wneud i’r sefydliad, y gofalwyr, y plant a’r bobl ifanc deimlo’n gartrefol â’r newidiadau. Cafodd diffygion posibl, megis o ran sicrhau bod tai addas ar gael a diweddaru’r system gyfrifiadurol eu darganfod mewn da bryd ac roedd modd eu datrys.

Arbedion a ragwelir

Unwaith y bydd y Model Teuluol Mockingbird newydd yn cael ei weithredu’n ddidrafferth, rhagwelir y caiff oddeutu £907,980 ei arbed yn flynyddol, gyda chost flynyddol o £378,000, gan arwain at arbediad net o £529,980 y flwyddyn.

Beth sydd nesaf?

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn benthyciad o £1.15 miliwn i gyflwyno pum clwstwr Mockingbird erbyn diwedd 2022, a fydd yn cefnogi hyd at 80 o bobl ifanc a 50 o deuluoedd maeth yn uniongyrchol. Byddant yn cynnig gwerthusiad manwl o’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen i ddeall i ba raddau y maen nhw’n gallu gwella’r gwasanaeth y maen nhw’n ei gynnig i blant o dan ofal a’u teuluoedd, yn ogystal â gwneud arbedion ariannol ar gyfer yr awdurdod lleol.