Datblygu Cwmni Budd Cymunedol Fairbourne

Pentref yng ngogledd Cymru yw Fairbourne, sydd yn cael ei wasanaethu gan Gyngor Gwynedd.  Yn 2014, cyhoeddwyd Cynllun Rheoli’r Arfordir wnaeth amcangyfrif na fyddai’n gynaliadwy i gynnal yr amddiffynfeydd llifogydd lleol ar ôl cyfnod o thua deugain o flynyddoedd pan ragfynegir bydd lefel y môr yn codi gan 0.5m.

Cyngor Gwynedd

Grant a Ddyfarnwyd: £15,000

Cyfnod a Gwblhawyd: Ymchwil a Datblygiad 

Pentref yng ngogledd Cymru yw Fairbourne, sydd yn cael ei wasanaethu gan Gyngor Gwynedd.  Yn 2014, cyhoeddwyd Cynllun Rheoli’r Arfordir wnaeth amcangyfrif na fyddai’n gynaliadwy i gynnal yr amddiffynfeydd llifogydd lleol ar ôl cyfnod o thua deugain o flynyddoedd pan ragfynegir bydd lefel y môr yn codi gan 0.5m. Creodd hyn ansicrwydd yn y gymuned, gyda gwydnwch emosiynol ac ariannol yn cael ei rhoi ar brawf yng ngwyneb newid hinsawdd a’i effeithiau.

Y Syniad

Datblygodd Cyngor Gwynedd broject fyddai’n profi i weld os gallai Cwmni Budd Cymunedol (CIC) gaffael tai o’u perchnogion, a fyddai fel arall yn awyddus i symud ond yn methu a gwerthu oherwydd argymhellion y Cynllun Rheoli Arfordirol. Byddai’r CIC yn gosod y tai fel landlord cymdeithasol, gan leihau’r pwysau ar restr aros Gwynedd, ac yn adfer peth dewis i drigolion Fairbourne.

Beth Ddigwyddodd

Gweithiodd Cyngor Gwynedd gyda Fairbourne Moving Forward, sef grŵp o fudd-ddeiliaid lleol adnabyddus a hir-sefydlog er mwyn datblygu’r syniad, adeiladu gwybodaeth ynglŷn â’i hyfywdra a phrofi p’un a fyddai eu datrysiad yn ddigon deniadol i drigolion lleol. 

Fe weithion nhw i greu model ariannol ar gyfer y CIC o’r enw ‘Cysur’ fyddai’n cynnig datrysiad da ar gyfer y sawl oedd yn gwerthu eu tai, yn ogystal ag ar gyfer y Cyngor, gan greu cyflenwad mwy o dai cymdeithasol. 

Wrth ddatblygu’r project, fe wnaeth Cyngor Gwynedd gyflwyno elfennau eraill hefyd wnaethon nhw obeithio byddai’n creu cynaladwyedd ychwanegol a gwella lles yn y dref; caffi wedi’i redeg gan y gymuned, ardal swyddfa, ac ystafell ymgynghori er mwyn galluogi trigolion i weld ymarferwyr iechyd yn agosach at adref.

Mewnwelediadau

● Wrth i’r weledigaeth o gymuned gynaliadwy ymddangos, cyflwynwyd elfennau newydd i’r cynllun. Wrth gynnig cyfle i gynyddu llesiant yn y pentref, cafwyd gwyriad oddi ar ganolbwyntio ar dai cymdeithasol a golygai hyn nad y benthyciad ad-daladwy a gynigwyd gan Arloesi er mwyn Arbed oedd y ffynhonnell ariannu orau ar gyfer y project bellach.

● Mae gweithio’n effeithiol gyda grŵp o fudd-ddeiliaid yn bwysig iawn wrth gyflenwi project traws cymunedol. Roedd gan Fairbourne, grŵp cymunedol cryf a gweithgar oedd yn effeithiol wrth ddylanwadu a chasglu gwybodaeth gan drigolion a effeithiwyd gan y project hwn. Ond gan y sawl oedd wedi sefydlu eisoes yn y gymuned oedd y lleisiau cryfaf ac nid y sawl oed yn bwriadu symud i Fairbourne.

Beth Sydd Nesaf?

O ystyried pwysigrwydd a brys yr angen i ddatblygu a gweithredu datrysiadau cynaliadwy er mwyn addasu ar gyfer newid hinsawdd, mae project Fairbourne Moving Forward a Chyngor Gwynedd yn parhau i chwilio am ariannu priodol er mwyn gweithredu Cysur.