Defnyddio drama i wella cydraddoldeb ym maes gofal dementia

Mae Y Lab mewn cydweithrediad â'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd a Reality Theatre yn dod â thair ffilm i chi am brofiadau grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn perthynas ag anabledd, ethnigrwydd a rhywioldeb.

Mae'r ffilmiau'n seiliedig ar dystebau pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a chawsant eu casglu rhwng 2019 a 2020. Maen nhw’n taflu goleuni ar effaith iaith hiliol, heteronormyddol ac ablaethol ar ansawdd bywyd defnyddwyr gwasanaeth a pherthnasoedd teuluol mewn lleoliadau gofal dementia. Eu nod yw cychwyn sgwrs am sut olwg sydd ar ofal da i bawb â dementia a'u teuluoedd waeth beth yw eu hethnigrwydd, rhywioldeb ac anabledd.

Perthynas Agosaf: Cyfathrebu â phobl B/byddar, gofal dementia a'r teulu mewn lleoliadau ysbytai

Mae'r perfformiad hwn yn seiliedig ar dystebau pobl Fyddar sy'n defnyddio BSL a gofalwyr trwm eu clyw. Mae'n tynnu sylw at yr anawsterau cyfathrebu a wynebir gan y perthynas agosaf i bobl sy'n byw gyda dementia a sut y gwnaeth diffyg dehongli a chyfathrebu da eu hamddifadu o'u hawl i chwarae rhan gyfartal ar ddiwedd bywyd eu hanwyliaid.

Mwy o Amser: cymhwysedd diwylliannol a gofal dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn lleoliadau cymunedol

Mae'r perfformiad hwn yn seiliedig ar dystebau gweithwyr proffesiynol a gofalwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd gofal sy'n briodol yn ddiwylliannol a'r ffyrdd y mae diwylliannau sefydliadol sy'n canolbwyntio ar dasgau a llwythi gwaith trwm yn cyfrannu at ofal gwael ac esgeuluso pobl oedrannus.

Yn ôl Yn Y Closet: homoffobia, hawliau dynol a diwylliannau sefydliadol gofal dementia