Garddio’n gymunedol fel offeryn rhagnodi cymdeithasol

Mae staff a gwirfoddolwyr sydd yn gweithio gyda Grow Cardiff wedi profi’r buddion iechyd cadarnhaol sydd yn gysylltiedig gyda thyfu bwyd, o lygad y ffynnon.

Grow Cardiff

Grant a Ddyfarnwyd: £15,000

Cyfnod a gafodd ei gwblhau: Ymchwil a Datblygu 

Mae Grow Cardiff  yn cefnogi pobl i greu a chynnal gerddi cymunedol a gofodau tyfu ar draws y ddinas. Sefydlwyd yn 2015, ac mae’n gweithio ar draws 11 o safleoedd yng Nghaerdydd ac maen nhw wedi cefnogi cannoedd o bobl i deimlo’n iachach, hapusach ac yn agosach i’w cymunedau drwy gyfrwng projectau garddio.

Partneriaeth yw’r project ’Tyfu’n Dda’  gyda Chlwstwr Meddygfeydd Teulu Gorllewin Caerdydd a bu’n rhedeg ers ychydig dros 18 mis. Mae’r project yn gweithredu mewn dau safle gerddi – un yn Nhrelái a’r llall yn Nhreganna. Gall Meddygon Teulu a Staff Rheng Flaen eraill y GIG o ar draws yr 11 Meddygfa sydd yn y clwstwr, gyfeirio cleifion. Bydd cleifion yn gwneud popeth o dyfu cynnyrch ffres i ddyfrhau, chwynnu, cynaeafu, celf a chrefftau creadigol, gwneud cyforwelyau a chloddio pyllau dŵr. Ym mis Ebrill 2018, fe gafodd gleifion ar y project eu cefnogi i greu gardd nodwedd ar gyfer y Sioe Flodau Frenhinol yng Nghaerdydd 

Y Syniad

Mae’r galw am ofal iechyd yn cynyddu ac mae pwysau costau ar y GIG yng Nghymru yn codi bob blwyddyn. Mae Rhagnodi Cymdeithasol yn ffordd o gysylltu cleifion gyda ffynonellau o gymorth cymunedol sydd heb fod wedi eu meddygoleiddio fel garddio, y celfyddydau a grwpiau llesiant. Fel ‘offeryn’ yn y cit offer Rhagnodi Cymdeithasol, mae gan Garddio Cymunedol ystod o fuddion seicolegol drwy gyfrwng mynediad at natur a meithrin drwy gyfranogaeth grŵp cymunedol. Mae hefyd yn cynnig gweithgareddau sydd yn cynyddu lefelau o weithgarwch corfforol a mynediad at ffrwythau a llysiau ffres. Gan hynny, mae garddio cymunedol yn cyflenwi ymagwedd gyfannol tuag at gefnogi iechyd corfforol, meddyliol a lles claf.

Mae staff a gwirfoddolwyr sydd yn gweithio gyda Grow Cardiff wedi profi’r buddion iechyd cadarnhaol sydd yn gysylltiedig gyda thyfu bwyd, o lygad y ffynnon. Fe welon nhw fod Arloesi i Arbed yn well llwyfan i allu deall a chasglu tystiolaeth ynglŷn â’r buddion a’r effeithiau cadarnhaol economaidd ar y GIG.

Beth Ddigwyddodd 

Fe weithiodd Grow Cardiff mewn dau safle yng Nghaerdydd er mwyn chwilota i weld a fyddai rhagnodyn garddio i gleifion a chanddynt ystod o gyflyrau yn gallu: 

1. Gwella iechyd corfforol, meddyliol a llesiant claf yng Nghlwstwr Meddygfeydd Gorllewin Caerdydd, a

2. Chanfod a allai unrhyw welliannau i iechyd a lles claf drwy’r project, ennill unrhyw arbedion ariannol ar gyfer y GIG 

Cafwyd rhai cyfyngiadau i’r ymchwil roedd Grow Cardiff yn gallu ei wneud drwy Arloesi i Arbed, oherwydd natur y tymhorau. Awgryma arolygon cyn ac ar ôl y cafwyd cynnydd cadarnhaol wrth wella lles. Er hynny, roedd y nifer o gyfranogwyr a gymerodd ran yn fach, ac fe ganiataodd hyn ddadansoddiad cyfyng. O ran gwella llesiant, soniodd y sawl a oedd wedi cymryd rhan eu bod yn teimlo’n fwy ymlacedig, defnyddiol, optimistaidd am y dyfodol ac yn gallu dod i benderfyniadau am bethau yn well nac ar ddechrau’r ymyrraeth. 


Awgryma cyfweliadau ansoddol gyda chyfranogwyr bod ymagwedd Grow Cardiff’s tuag at arddio cymunedol yn lleihau ynysu cymdeithasol ac yn gwella ymgysyllted â chymdeithas. Mae canlyniadau hefyd yn awgrymu bod y sawl a gymerodd rhan wedi cynyddu eu gweithgarwch corfforol a faint o lysiau a ffrwythau fyddan nhw’n eu bwyta.  

Mewnwelediadau

● Mae dechrau ar yr adeg gywir yn hanfodol – nid oedd amserlen Arloesi i Arbed yn gweddu’n dda i natur dymhorol gynhenid y gwaith garddio. Golygai hyn bod Grow Cardiff yn profi drwy’r gaeaf pan roedd llai o alw, yn naturiol, am waith garddio. 

● Pa mor fyr yw rhy fyr? Fe gafodd yr astudiaeth beilot ar gyfer Grow Cardiff ei gynnal dros gyfnod rhy fyr i allu denu nifer fawr o gyfranogwyr ac i ganiatáu i ni allu gwneud casgliadau a chanfyddiadau terfynol ynglŷn ag effeithiau hirdymor a photensial arbedion y project yma.  

Beth Sydd Nesaf?

Ers gorffen cyfnod Ymchwil a Datblygu Arloesi i Arbed, mae Tyfu’n Dda/Grow Well wedi parhau gydag ariannu pellach o Glwstwr Meddygfeydd Teulu Gorllewin Caerdydd. 

Maen nhw nawr yn gweithio ar ddatblygu eu model monitro a gwerthuso a chysylltu â’r mudiad Rhagnodi Cymdeithasol.