Astudiaeth Achos: Grangetown Gwyrddach – dangos y gall draenio cynaliadwy weithio unrhyw le

Mae Grangetown Gwyrddach yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru a Chyfoeth  Naturiol Cymru

Y syniad:

Roedd system garthffosiaeth Fictoraidd Cyngor Caerdydd yn pwmpio galwyni o ddŵr glaw a gronnai mewn draeniau ffordd o ochr Glan yr Afon o Grangetown i waith trin pell cyn y gellid ei ddychwelyd yn ddiogel i’r môr. Sylwodd un peiriannydd draenio, gydag ychydig iawn o driniaeth ar y safle, y gellid ei adael yn ddiogel i ddraenio i’r Taf gerllaw, gan leihau’r pwysau ar orsafoedd pwmpio ac arbed prosesau trin costus.

Beth ddigwyddodd?

Daeth y prosiect i stop yng Nghyngor Caerdydd, ond roedd gan Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru awgrymiadau ar sut gallai gyflawni eu hamcanion hefyd, felly symudodd a thyfodd y syniad.

Mae systemau draenio trefol cynaliadwy (SUDS) sy’n defnyddio seilwaith gwyrdd (planhigion a choed) i wneud dŵr wyneb yn ddiogel a lleihau’r risg o lifogydd, wedi cael eu hystyried yn fuddiol ers amser maith, ond dim ond mewn datblygiadau newydd y cawsant eu profi neu eu gosod yn hwyrach mewn rhodfeydd llydan. Roedd strydoedd teras Fictoraidd Grangetown yn gyfle perffaith i ddangos y gallai SUDS gael ei ddefnyddio mewn ardaloedd lle mae’r adeiladau’n agosach at ei gilydd.

Fel prosiect aml-swyddogaethol, roedd yn anodd tynnu’r cyllid at ei gilydd. Nid oedd y sefydliadau yn gyfarwydd â defnyddio cronfeydd cyllido ynysig fel hyn. Ond ar ôl cytuno i gyfuno cyllid o’r dechrau, a rhywfaint o arian o ardoll Tirlenwi, roeddent yn gallu ei roi ar waith a’i gadw i fynd hyd yn oed wrth i bersonél newid.

Gyda brand clir ac unigryw, ‘Grangetown Gwyrddach’, ac ymgynghoriad cyhoeddus go iawn (gan gynnwys swyddog cyswllt llawn amser ar y safle) llwyddodd y tri phartner i gael perthynas gynhyrchiol a phositif gyda thrigolion lleol. Cynigiodd cwpwl lleol syniad allweddol ar gyfer lleoli’r gwyrddni ac atal problemau parcio lleol. Oherwydd bod pobl leol yn rhan bwysig o’r broses gynllunio o’r camau cyntaf, gellid amrywio lefelau parcio yn erbyn gwyrddni, lleoliadau a mathau o goed a dodrefn stryd i ddiwallu anghenion a dymuniadau preswylwyr fesul stryd, a oedd yn gwella’r amgylchedd ac yn creu ymdeimlad o berchnogaeth.

Cipolwg

  • Gall partneriaid annisgwyl adfywio syniad sydd wedi dod i stop, gyda syniadau newydd a ffrydiau cyllido newydd, ond nid yw cyllidebau’r sector cyhoeddus o reidrwydd yn cael eu sefydlu ar gyfer prosiectau aml-asiantaeth.
  • Ar gyfer prosiect seilwaith, cymerodd ddull anarferol o gyfannol o wella’r gymdogaeth. Roedd cynnwys ystod eang o bartneriaid a phobl leol yn gynnar wrth wneud penderfyniadau yn golygu y gallai’r prosiect wella llwybr beicio, helpu i ddatrys problemau parcio a lleihau troseddu ymhlith amrywiaeth o faterion eraill yn ogystal â draenio.
  • Oherwydd bod y prosiect draenio ar flaen y gad, mae gweithwyr y contractwr adeiladu wedi cael mwy o sgiliau.

Beth nesaf?

Mae ymwelwyr o bob rhan o’r DU ac Ewrop wedi dod i weld sut gallant weithredu system draenio gynaliadwy yn eu hardaloedd eu hunain. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddefnyddio’r arbenigedd i ddod yn arweinydd SUDS o fewn y DU yn, gan drosi’r syniadau yn newidiadau arfaethedig i Rodfa Lloyd George yng Nghaerdydd.

Image: Arup