Help i Symud: Sut y gellir cefnogi pobl hŷn i symud cartref?

Pan nad aros yn yr un man yw’r opsiwn orau, sut y gellir cefnogi pobl hŷn i symud cartref? Pan nad aros yn yr un man yw’r opsiwn orau, sut y gellir cefnogi pobl hŷn i symud cartref?

Perchnogion grant: Gofal a Thrwsio Cymru

Grant: £15,000

Cam a gyrhaeddwyd: Ymchwil a datblygu

Cyflwyniad

Nod Gofal a Thrwsio Cymru (CRC) yw helpu pobl hyn i fyw’n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel y mae’n hawdd mynd i mewn iddynt.

Dechreuodd y sefydliad, a sefydlwyd ym 1979, drwy ymateb i broblemau difrifol yr oedd perchnogion cartref hŷn yn y Rhondda yn eu hwynebu, a oedd yn byw mewn cartrefi a oedd yn hynod anaddas ac nad oedd yn cynnwys cyfleustodau sylfaenol.

O hynny, mae CRC wedi datblygu i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru drwy 13 asiantaeth sy’n darparu ar gyfer pobl hŷn ym mhob un o’r 22 sir.

Y syniad

Barn CRC yw bod ansawdd cartref unigolyn hŷn yn hanfodol i’w annibyniaeth, ei iechyd a’i les. Ar hyn o bryd, mae polisi cyhoeddus yn canolbwyntio ar addasu cartref presennol unigolyn hŷn i’w alluogi i aros yn yr un man. Am 30 mlynedd, mae CRC wedi bod ar flaen y gad o ran cyflawni hynny, ond dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi sylwi ar alw cynyddol gan bobl hŷn nad yw eu cartrefi, waeth beth yw lefel y buddsoddiad, yn gallu rhoi eu hannibyniaeth hirdymor, eu hiechyd a’u lles iddynt.

Gwnaeth cynllun peilot CRC sef ‘Help i Symud’ brofi’r galw am wasanaeth a allai gynorthwyo perchnogion-ddeiliaid hŷn, y rhai hynny sy’n rhenti cartrefi preifat, a thenantiaid cymdeithasol i adael eu cartref presennol a symud i gartref mwy addas i ddiwallu eu hanghenion brys a’u hanghenion hirdymor, yn ogystal â natur y gwasanaeth hwn.

Beth ddigwyddodd

Cynhaliodd CRC gynllun peilot ymarferol i brofi’r galw am y gwasanaeth ac i ddatblygu’r prosesau angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r gwasanaeth yn llawn.

Dechreuodd CRC wneud ymchwil a datblygu drwy gynnal rhywfaint o waith ymchwil cefndirol. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, arolwg o’r farchnad, dadansoddiad o gleientiaid a model gwasanaeth manwl. Nododd pob un o’r rhai a ymatebodd i arolwg Help i Symud CRC na ofynnwyd iddynt erioed am eu dyheadau o ran tŷ yn nes ymlaen mewn bywyd. Canfu’r ymchwil hefyd fod ystod o ffactorau cymhleth yn ysgogi’r angen i bobl hŷn symud cartref, ond maent yn eu tro hefyd yn colli’r gallu i symud. Felly, datgelodd y ffordd y diffiniodd y gwasanaeth ei hun i ddarpar gleientiaid alw mawr am wasanaeth Help i Symud, yn enwedig ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed ac yn enwedig o amgylch y broses a hwyluswyd o ‘wneud penderfyniadau da’ a datblygu ‘helpu i symud galluogwyr’.

Cwblhaodd cyfanswm o 42 o gleientiaid ledled gwasanaeth Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-Bont ar Ogwr arolwg ar opsiynau hen bobl o ran tai.

Trwy weithio gyda Gofal a Thrwsio Pen-y-Bont ar Ogwr i gael atgyfeiriadau i’r cynllun peilot, gwelodd CRC fod galw mawr am Help i Symud ymhlith eu cleientiaid presennol a rhyngweithio cynhyrchiol rhwng y gwasanaeth peilot a gwasanaethau presennol Gofal a Thrwsio. O’r 61 o atgyfeiriadau a wnaed, 3 yn unig a ddaeth o ffynonellau allanol.

Sylwodd CRC yn gynnar yn eu gwaith ymchwil a datblygu fod angen haenau gwahanol o gymorth i ddiwallu anghenion gwahanol gleientiaid. Gan ddefnyddio technegau dylunio gwasanaeth, datblygwyd tri opsiwn i’r gwasanaeth; ‘camau ysgafn’, ‘canolig’ a ‘dwys’. Ar ôl pedwar mis o gynnal y cynllun peilot, roedd 18 (29%) o’r holl gleientiaid a ailgyfeiriwyd yn defnyddio’r gwasanaeth yn ddwys, symudodd 2 (3%) i eiddo mwy addas ac roedd 16 (26%) yn aros i symud gyda chymorth Help i Symud. Dewisodd bron hanner yr holl gleientiaid ddewis a dethol cyngor a chymorth Help i Symud pryd a ble roedden nhw ei angen.

Roedd cymorth a chefnogaeth emosiynol gyda materion personol ac ariannol ehangach yn allweddol i gleientiaid deimlo’n ddigon hyderus i symud. Penodwyd gweithiwr achos i helpu i reoli’r materion hyn, i roi cyngor, cefnogaeth a chymorth i’r rhai hynny a oedd yn ystyried a/neu’n dechrau symud i dŷ mwy addas.

Niferoedd

  • Dros gyfnod o 4 mis, derbyniodd Gofal a Thrwsio 61 o atgyfeiriadau i Help i Symud​​​​​
  • Cefnogwyd 14 o bobl drwy ‘Help i Symud’ yn ystod y cynllun peilot
  • Ar ddiwedd y cyfnod ymchwil a datblygu, roedd 26 o bobl yn aros neu’n dal i benderfynu a ddylid defnyddio’r gwasanaeth Help i Symud
  • Symudodd 2 unigolyn dŷ yn ystod cynllun peilot

Mewnwelediad

  • Trwy gydol y cynllun peilot, canfu CRC fod galw uchel am y gwasanaeth Help i Symud – roedd 95% o’r ymatebwyr i holiadur Help i Symud yn credu y dylai fod gwasanaeth ar gael i helpu pobl hŷn sy’n ystyried symud cartref.
  • Roedd darpar symudwyr yn ffafrio eiddo a oedd â mynediad gwastad iddynt, er enghraifft byngalos a fflatiau.
  • Hygyrchedd yna diogelwch yw’r nodweddion pwysicaf mewn cartref yn nes ymlaen mewn bywyd.
  • Y ddeiliadaeth a ffefrir i 60% o’r ymatebwyr oedd eiddo rhent sy’n briodol i’w hoedran (yn breifat neu’n gymdeithasol) pe bai’n nhw’n symud yn nes ymlaen mewn bywyd.
  • Ar sail data o’r gwasanaeth peilot a sylfaen dystiolaeth BCCRau, amcangyfrifir y gallai CRC gynhyrchu oddeutu £1.6m mewn incwm dros gyfnod o 10 mlynedd o wasanaeth Help i Symud y codir tâl amdano.
  • Mae’r profiad ymarferol o fod yn rhan o’r ymchwil hon wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer ymchwil a datblygu pellach. Mae gan CRC ddealltwriaeth gliriach o faint o amser, cynllunio a phrofi sydd eu hangen i ddatblygu gwasanaeth a all ddatblygu gwasanaeth hirdymor a allai gynnwys gwerthu a phrynu eiddo.

Arbedion a ragwelir

Ni nodwyd unrhyw arbedion ariannol fel rhan o’r gwaith ymchwil a datblygu. Fodd bynnag, nodwyd arbedion eraill, gan gynnwys arbedion o ran effeithiolrwydd gwerth £165k dros ddeng mlynedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, trwy osgoi gwaith diangen o dan y Grant Cyfleusterau Anabl.

Ar ben hyn, canfuwyd y gallai’r cyngor elwa ar osgoi costau gwerth bron £4m dros gyfnod o 10 mlynedd mewn costau preswyl a gofal dydd o ganlyniad i unigolion yn cael eu cefnogi’n gynt drwy Help i Symud.

Beth sydd nesaf?

Mae gwaith wrth fynd i ddatblygu Help i Symud ymhellach yn Sir Gaerfyrddin. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu cynllun peilot Help i Symud dwy flynedd yn Sir Gaerfyrddin a lywiwyd gan y gwaith ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae CRC yn bwriadu ehangu’r gwaith hwn yn genedlaethol yn yr hirdymor. Maen nhw’n bwriadu parhau i ddatblygu a phrofi Help i Symud nes eu bod yn hyderus bod ganddynt fodel y gellir ei wneud ar raddfa ehangach i’w gynnal ar draws Cymru gyfan. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys cyflwyno achos ar gyfer cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i symud o gynllun peilot i wasanaeth cenedlaethol llawn.