Her Sbrint HARP: 15 y Dydd

Cymerodd oedolion a oedd yn teimlo’n unig ran mewn 7 diwrnod o weithgareddau creadigol (darlunio ac ysgrifennu), 15 munud y dydd, wedi’u hysbrydoli gan fideos realiti rhithwir y gwnaethant eu gwylio drwy glustffonau Google Cardboard.

Y Nod

Lleihau unigedd a gwella llesiant drwy brofiad ac ymarfer creadigol dyddiol.

Y Tîm

Ian Cooke-Tapia – darlunydd, Cooked Illustrations

Esyllt George – cydlynydd y celfyddydau ac iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dr Maria Hayes – artist-hwylusydd annibynnol

Y Gweithgarwch 

Cymerodd oedolion a oedd yn teimlo’n unig ran mewn 7 diwrnod o weithgareddau creadigol (darlunio ac ysgrifennu), 15 munud y dydd, wedi’u hysbrydoli gan fideos realiti rhithwir y gwnaethant eu gwylio drwy glustffonau Google Cardboard.

Pa anghenion roeddech yn eu gweld yn y byd a wnaeth eich ysgogi i ymgymryd â her Sbrint HARP?

Gwnaethom gydnabod y gallai pobl a oedd yn byw ar eu pen eu hunain yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud fod yn wynebu llawer o faterion mewnol heb unrhyw ffordd allanol o fynegi’r teimladau hynny, a gwnaethom ystyried sut mae hynny’n creu straen.  Gwnaethom gydnabod bod gan lawer o bobl a oedd yn teimlo’n unig gyflwr iechyd a oedd yn bodoli eisoes a’u bod yn ynysig cyn cyfnod y cyfyngiadau symud, ac unwaith rydych yn mynd i’ch cragen, gall fod yn fwy anodd torri’r arfer honno.  Gall yr ynysu hwn gael effaith negyddol ar lesiant, ac nid yw cyswllt ar-lein bob amser yn mynd i’r afael â hynny.  Gwnaethom ystyried paradocs bod ar eich pen eich hun a bod yn unig – gallant fod yn bethau gwahanol iawn a gall hwyliau newid yn gyflym yn y sefyllfa ddigynsail hon. 

Gwnaethom gydnabod bod llesiant yn aml yn cael ei gysylltu ag ymarfer corff ac nid yn gymaint â chreadigrwydd mewn diwylliant cyffredinol, er bod ymchwil yn cydnabod effaith gadarnhaol gweithgarwch greadigol ar iechyd a lles.  Gwnaethom ystyried natur gyffredinol ‘unigrwydd’ a manteision unigedd o ran ysgogi creadigrwydd.

Beth roeddech am ei gyfrannu? Beth oedd eich nodau?

Roeddem am godi ymwybyddiaeth o’r effaith fawr y gall arferion creadigol dyddiol bach ei chael ar lesiant.

Beth wnaethoch chi, a pham?

Gwnaethom ddefnyddio profiadau realiti rhithwir i ysbrydoli ymatebion creadigol ac ehangu gorwelion.  Gwnaethom ofyn i bobl gymryd rhan am 15 munud y dydd, saith diwrnod yn olynol.

Bob dydd, byddai’r cyfranogwyr yn dechrau drwy wylio fideo realiti rhithwir, oddi ar YouTube (felly yn bodoli eisoes) ond wedi ei ddewis yn ofalus gan y tîm, gan gynnwys profiadau o dan y môr, yn edrych ar Oleuni’r Gogledd, teithio’r gofod ac archwilio lloc llewod mewn parc saffari.  Yna, gofynnwyd i’r cyfranogwyr wylio’r fideo am yr eildro, gan ymateb ar yr un pryd drwy dynnu llun o’r symudiad neu ysgrifennu cofnod myfyriol.  Roedd yr ymarferion yn seiliedig ar arferion creadigol personol yr ymarferwyr:  mae Maria yn darlunio symudiadau ac mae Esyllt yn dyfeisio ymarferion therapiwtig creadigol sy’n annog ymatebion drwy eiriau a delweddau.

Rhoddwyd yr holl gyfarwyddiadau drwy negeseuon e-bost dyddiol, felly nid oedd unrhyw ryngweithio personol rhwng y cyfranogwyr na gyda’r hwyluswyr yn nhermau’r gweithgareddau creadigol.  Fodd bynnag, roedd angen cyswllt unigol â’r cyfranogwyr drwy e-bost a dros y ffôn er mwyn trefnu’r logisteg a chefnogi’r gwaith gosod (er enghraifft postio a gosod y clustffonau).  Eglurwyd i’r cyfranogwyr eu bod yn rhan o grŵp o gyfranogwyr a bod pob un ohonynt yn cymryd rhan yr un wythnos, fel eu bod yn gwybod nad oeddent yn gweithio’n gwbl annibynnol a bod ysgogiad i gwblhau’r gweithgareddau.

15 a day by Laura Sorvala

Cafodd y profiadau realiti rhithwir a chreadigol eu dylunio i helpu’r cyfranogwyr i fod yn ystyriol ac yn bresennol, ond hefyd i ganolbwyntio ar rywbeth y tu hwnt i’w hunain a’u sefyllfa, yn ogystal â’u hysbrydoli i fod yn greadigol.  Gwnaethom ofyn i’r cyfranogwyr wthio eu hunain yn greadigol a rhoesom ddeunyddiau celf o ansawdd da iddynt eu defnyddio (llyfrau braslunio a phensiliau).

Creodd pob cyfranogwr o leiaf un darn o waith celf rhagorol yn ystod y prosiect, a gafodd ei arddangos mewn oriel ar-lein (gan ddefnyddio Artsteps).

Beth ddysgoch chi?

Gwelsom ei bod hi’n bwysig bod yn ystyriol ac yn ofalus o ran iaith wrth osod cyfarwyddiadau ysgrifenedig, a defnyddio cyfarwyddiadau testun byrrach NEU eu recordio fel y gellir gwrando arnynt wrth wylio’r fideos realiti rhithwir. 

Mae ansawdd y fideos a’r clustffonau realiti rhithwir yn hollbwysig; mae’n bwysig dewis fideos niwtral yn emosiynol a rhai 360 gradd (ymgolli’n llwyr).  Dylid ystyried dewisiadau unigol a’u sefydlu ymlaen llaw lle bo modd.

Mae gweithio o bell yn gofyn am lawer o ofal a threfn – mwy nag sydd ei angen wrth weithio wyneb yn wyneb. Mae cydgyflwyno gyda thîm nad ydych yn ei adnabod yn gofyn am fwy o amser nag sydd ei angen wrth weithio wyneb yn wyneb.  Mae angen gosod llinellau rheoli ac atebolrwydd clir ar y dechrau.

Y tro nesaf, byddem hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau cliriach ar sut i dynnu lluniau o ansawdd da o waith celf.

Sut mae’r cyfranogwyr wedi elwa ar y gweithgarwch hwn?

Gwnaethom ddysgu bod cymryd rhan reolaidd yn y broses greadigol, dan arweiniad arbenigwr, yn cael effaith therapiwtig ac yn helpu i feithrin gwydnwch.

Ar ôl i’r cyfranogwyr oresgyn eu gwrthwynebiad i ddefnyddio’r dechnoleg, gwnaethant fwynhau’r profiad yn fawr, a rhoddodd brofiadau newydd i rai pobl a oedd wedi osgoi profiadau ar-lein cyn hynny. 

Gwerthuso

Cymerodd pob un o’r 10 cyfranogwr ran ar ryw adeg; cymerodd naw ohonynt ran am bedwar allan o’r saith diwrnod.

Cwblhaodd pob un o’r cyfranogwyr fesur llesiant pwrpasol cyn ac ar ôl y prosiect cyfan, a chyn ac ar ôl pob ymarfer dyddiol. Dros y prosiect cyfan, dangosodd pob un ohonynt hwyliau gwell o ganlyniad i gymryd rhan; a nododd wyth cyfranogwr welliannau dramatig mewn hwyliau ar ôl cymryd rhan. Ar ambell ddiwrnod, dywedodd pedwar cyfranogwr eu bod yn teimlo’n waeth ar ôl cymryd rhan. Dywedodd un cyfranogwr fod y darlunio wrth ddefnyddio technoleg ymgolli mor effeithiol â therapi EMDR ar gyfer newid ei hwyliau.

Roedd yn ymddangos bod monitro eu llesiant drwy’r mesur hefyd yn cael effaith therapiwtig ar gyfranogwyr, gan eu helpu i fod yn fwy ymwybodol o’u cyflwr dyddiol.

  • Gellir gweld adroddiad gwerthuso llawn gan Maria Hayes yma: Adroddiad Gwerthuso Terfynol 15 y Dydd
  • Mae’r Mesur Llesiant a ddyfeisiwyd gan Maria Hayes bellach ar gael i eraill ei ddefnyddio, ac mae Maria wedi llunio canllaw i ddefnyddwyr yma:  Y Mesur Llesiant – sut i’w ddefnyddio. Hyd yma, mae nifer o sefydliadau eraill sy’n cynnig gweithgareddau celfyddydol ac iechyd wedi manteisio ar y canllaw ac yn bwriadu ei ddefnyddio i werthuso eu prosiectau.

Beth nesaf?

Esyllt: Byddaf yn croesawu heriau newydd ac yn parhau i archwilio posibiliadau mynegiant creadigol ar gyfer llesiant drwy realiti rhithwir yn fy ngwaith gyda’r bwrdd iechyd

Maria: mae’r broses greadigol ynddi’i hun yn iachusol ac yn therapiwtig, a gall gwaith wedi’i hwyluso sy’n dod o graidd ymarfer artist gael effaith fawr.   Er bod gweithio gyda phobl agored i niwed yn gofyn am lawer o gyfrifoldeb personol, creadigol a phroffesiynol, mae’n talu ar ei ganfed. 

Agweddau ariannol

Mae 15 y dydd yn costio tua £700, gan gynnwys deunyddiau celf a chlustffonau i’r cyfranogwyr, costau postio a chostau gweithwyr llawrydd ychwanegol er mwyn i Ian greu’r oriel ar-lein ac i Maria gwblhau’r gwerthusiad. 

Cafodd Ian a Maria grant o £1,000 yr un i gymryd rhan yn her Sbrint HARP.   Talwyd am amser Esyllt drwy ei rôl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru).