Her Sbrint HARP: Rengarific

Yn cefnogi dau grŵp o oedolion â phroblemau iechyd meddwl a thrydydd grŵp o oroeswyr anafiadau i’r ymennydd, i achub ar gyfleoedd i fod yn greadigol gartref drwy greu cadwyni stori o gelf weledol ac ysgrifennu creadigol wedi’u hysbrydoli gan waith ei gilydd.

Rengarific

Y Tîm

Steph Cross – rheolwr prosiect, Oriel VC

Johan Skre – rheolwr celfyddydau ar bresgripsiwn, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Melanie Wotton – rheolwr prosiect celfyddydau mewn iechyd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro

Y Nod

Cynnig cyfleoedd i aelodau o’r gymuned fod yn greadigol, gan feithrin cysylltiadau cymdeithasol ac artistig rhwng pobl â phrofiadau tebyg.  Mae’r weithred o rannu gwaith creadigol yn meithrin gwydnwch a’r gallu i ymdopi ag effeithiau’r pandemig.

Y Gweithgarwch

Cefnogi dau grŵp o oedolion â phroblemau iechyd meddwl a thrydydd grŵp o oroeswyr anafiadau i’r ymennydd, i achub ar gyfleoedd i fod yn greadigol gartref drwy greu cadwyni stori (‘rengas’) o gelf weledol ac ysgrifennu creadigol wedi’u hysbrydoli gan waith (‘riff’) ei gilydd a nodi eu teimladau am y cyfyngiadau symud a’r pandemig.

Pa anghenion roeddech yn eu gweld yn y byd a wnaeth eich ysgogi i ymgymryd â her Sbrint HARP?

O ganlyniad i’r cyfyngiadau symud yn sgil argyfwng COVID-19, roedd llawer o oedolion agored i niwed yn teimlo eu bod wedi’u datgysylltu oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth a’u dulliau rhyngweithio arferol, ac roedd angen ffocws arnynt o ddydd i ddydd.   Cafodd timau iechyd meddwl eu hadleoli ac ni allent gyflawni eu rolau cymorth wyneb yn wyneb, cymunedol na’u clinig dydd arferol. Dim ond cymorth sylfaenol y gallent ei gynnig i ddechrau, a chafodd llawer o leoliadau cymorth cymunedol eu cau.  O ganlyniad, roeddent yn bryderus iawn am lesiant eu cleifion neu eu haelodau; cafodd cyswllt ei gyfyngu i alwadau ffôn a/neu fideo.  Gwnaethom nodi dau grŵp penodol i weithio gyda nhw:

  1. Pobl â phroblemau iechyd meddwl sy’n byw yng nghymunedau De a Gorllewin Cymru (mae rhai ohonynt fel arfer yn cael eu cefnogi gan sefydliad cymunedol Oriel VC, ond nid pob un)
  2. Goroeswyr anafiadau i’r ymennydd sydd fel arfer yn mynychu canolfan gofal dydd Hafan y Coed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ond na allent yn ystod y cyfyngiadau symud

Beth roeddech am ei gyfrannu? Beth oedd eich nodau, eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer eich cyfranogwyr?

  • Roeddem am wella cysylltiadau rhwng grwpiau cymheiriaid drwy ddefnyddio gweithgareddau creadigol fel y gallent rannu mewn gofod diogel anfeirniadol.
  • Roeddem am i’r cyfranogwyr ystyried bod y celfyddydau yn rhywbeth cadarnhaol sydd ar gael i bawb – gan newid y farn ymhlith rhai mai rhywbeth elitaidd yw’r celfyddydau.
  • Roeddem yn gobeithio y gallai’r cyfranogwyr feithrin eu gwydnwch a’u hunan-barch i deimlo’n fwy hyderus ac yn llai pryderus, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  

Beth a wnaethoch, a pham?

Gwnaethom ystyried ymyriadau celfyddydol a allai ysbrydoli a grymuso cyfranogwyr ac arwain at fwy o ryngweithio cymdeithasol a chefnogaeth gan gymheiriaid, ac y gellid eu darparu’n ddiogel ar-lein. Gwnaethom ddatblygu ymyrraeth gelfyddydol hyblyg a hygyrch o’r enw Rengarific, yn seiliedig ar gadwyn o ymatebion artistig, a allai gael ei harwain gan gyfoedion. 

 Gwnaethom gyflogi artist i hwyluso ymarfer creadigol ‘Renga’ gyda grwpiau drwy alwadau fideo grŵp ar-lein.  Cafodd y sesiynau eu hwyluso gan Lee Aspland, artist a oedd yn gwarchod ei hun ar y pryd.   Gan ddilyn ffurf cadwyn stori Renga, dechreuodd Lee drwy roi llun i bob grŵp a gymerwyd ganddo i gyfleu ei brofiad yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, a ddisgrifiodd hefyd o safbwynt personol. Yna, aeth aelodau’r grŵp i ffwrdd o’r sesiwn grŵp gyntaf i greu ‘riffiau’ yn seiliedig ar y llun hwn, gan ei ddefnyddio fel ysbrydoliaeth i greu cadwyni o gelf a oedd yn adrodd eu profiadau a’u straeon nhw, a gafodd eu curadu a’u rhannu wedyn gan ddefnyddio llwyfan Padlet.  

Cynhaliwyd pedair sesiwn grŵp wythnosol wedi’u hwyluso ar gyfer pob un o’r tri grŵp dan sylw, a fu’n gyfle i’r cyfranogwyr rannu eu gwaith a disgrifio’r broses/cymhellion y tu ôl iddo.  Yn ystod wythnosau 2, 3 a 4, gwnaethant wedyn greu riffiau yn seiliedig ar waith ei gilydd, gan ddewis darnau o waith celf gan gyfranogwyr eraill a oedd yn eu cymell, a mynd ati i greu rhagor o waith a oedd yn gysylltiedig â’r rhain.  Ar gyfer grwpiau Oriel VC, roedd Steph yn bresennol i roi gofal bugeiliol.  Ar gyfer grwpiau Hafan y Coed, am resymau diogelu, rhoddodd Lee y cyfarwyddiadau cychwynnol ar ffurf fideo, a chafodd y sesiynau byw eu hwyluso wedyn gan aelodau o staff y tîm Niwroseiciatreg, gan gynnwys artist gweithredol, sy’n hwyluso’r sesiynau celf wyneb yn wyneb yn y ganolfan ddydd ac sy’n wyneb cyfarwydd i’r grŵp.

Rhoddodd yr artist lawer o ryddid i’r cyfranogwyr o ran testun a pha ffurf ar gelf yr oeddent am ei defnyddio, ond dewisodd y rhan fwyaf ohonynt baentio/darlunio, ffotograffiaeth neu farddoniaeth/ysgrifennu creadigol ar thema’r pandemig.   Caiff y gwaith celf ei arddangos, yn gyntaf ar-lein ac yna drwy arddangosfa ffisegol yn Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Beth y gwnaethoch ei ddysgu am y ffurf/ffurfiau ar gelfyddyd y gwnaethoch ei dewis/eu dewis a beth oedd ymateb y bobl i hynny?

Mewn ffordd, mae’r ffurf ar gelfyddyd yn Rengarific yn eilaidd i’r broses – y nod oedd rhannu profiadau drwy’r ffurf ar gelfyddyd y gwnaethant ei dewis. Fodd bynnag, roedd yn ffordd arbennig o dda o alluogi’r cyfranogwyr i ddefnyddio pa ffurf bynnag ar gelfyddyd ag a fynnent, gan ei bod yn tynnu’r pwysau oddi ar bobl i fod yn dda am wneud un math penodol o gelfyddyd, gan eu grymuso drwy hynny. Roedd hefyd yn cryfhau’r cysylltiadau rhyngddynt; efallai y byddai un cyfranogwr yn ysgrifennu cerdd, yna efallai y byddai cyfranogwr arall yn defnyddio’r geiriau o’r gerdd honno a oedd yn sefyll allan iddo, i greu paentiad, gan ymgorffori’r geiriau hynny. Roedd yn bwerus iawn gan ei bod yn dangos y safbwyntiau gwahanol am y cyfyngiadau symud, ond hefyd y profiadau tebyg, a oedd yn gwneud i bobl deimlo’n llai unig.

Roedd yn bwysig iawn dod o hyd i artist a allai gysylltu ag eraill yn y ffordd gywir yn y lleoliad hwn.   Roedd natur hynod bersonol yr ymgysylltu creadigol yn golygu bod angen i Lee ddangos llawer o broffesiynoldeb â ffiniau priodol, ond roedd yn bwysig hefyd fod ganddo brofiad personol o gyflwr iechyd y gallai ei rannu â’r cyfranogwyr er mwyn creu profiad cyfartal.   Roedd gallu Lee i rannu stori bersonol yn gatalydd allweddol i feithrin ymddiriedaeth y grwpiau a’u hysbrydoli.  Roedd yr angen i deilwra’r prosiect i’r grŵp hwn yn galw am waith paratoi a chydweithrediad dyfnach rhwng y staff a’r artist, yn enwedig ar gyfer grwpiau agored i niwed.

Nid oedd grŵp goroeswyr anafiadau i’r ymennydd Hafan y Coed yn hysbys i ni, a bu’n rhaid rheoli’r cyswllt â’r grŵp hwn o gyfranogwyr agored i niwed yn ofalus iawn drwy dîm Hafan y Coed.  Llwyddwyd i wneud hynny, gan fod y cyfranogwyr yn ymddiried yn nhîm Hafan y Coed, a chymerodd y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb llawn am y rhaglen o fewn ei strwythurau ei hun.   Felly, roedd y tîm yn ddibynnol iawn ar frwdfrydedd a chyfraniad aelodau o staff Hafan y Coed, a’u hymrwymiad i’r prosiect. Rhoddodd her Sbrint HARP fomentwm i sefydlu sesiynau celfyddydol rhithwir i gefnogi’r grŵp agored i niwed hwn.  Roeddem yn dibynnu ar allu’r aelodau o’r staff i sefydlu Asesiadau Risg ar gyfer pob unigolyn, ysgrifennu ffurflenni cydsynio a oedd yn berthnasol i’r grŵp agored i niwed hwn, a helpu i sefydlu gweithdrefnau Zoom newydd ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl oedolion.  Roeddent yn awyddus i ddarparu cymorth arloesol i’w cleifion, a gyflawnwyd drwy Rengarific, a bu modd i ni gefnogi drwy gyfarfodydd rheolaidd, deunyddiau celf a mynediad i’r system arddangos ar-lein er mwyn helpu tîm Hafan y coed i deimlo’n hyderus.  Roedd goresgyn yr heriau hyn ar gyfer y prosiect hwn yn golygu y gallai aelodau o staff Hafan y Coed ddefnyddio’r prosesau hyn wedyn ar gyfer sesiynau a phrosiectau eraill i helpu mwy o gleifion a staff ynysig, ac mae’r sesiynau wedi parhau yn yr un fformat.  

Beth y gwnaethoch ei ddysgu am y ffordd y mae pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar gyfer eu llesiant ar hyn o bryd?

Ar gyfer grwpiau Oriel VC, roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr Rengarific eisoes yn hysbys i’r Oriel; gwelsom ei bod hi’n llawer mwy anodd recriwtio pobl nad oeddent eisoes yn gysylltiedigu â ni, a oedd yn syndod i ni.  Roedd y diffyg ymgysylltu yn golygu bod gan y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr brofiad o greu gwaith celf, er nad oedd hyn yn angenrheidiol (a darparodd y tîm becynnau celf o ansawdd uchel i bob cyfranogwr).

Nid oedd grŵp goroeswyr anafiadau i’r ymennydd Hafan y Coed yn hysbys i ni, a bu’n rhaid rheoli’r cyswllt â’r grŵp hwn o gyfranogwyr agored i niwed yn ofalus iawn drwy dîm Hafan y Coed.  Llwyddwyd i wneud hynny, gan fod y cyfranogwyr yn ymddiried yn nhîm Hafan y Coed, a chymerodd y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb llawn am y rhaglen o fewn ei strwythurau ei hun.   Felly, roedd y tîm yn ddibynnol iawn ar frwdfrydedd a chyfraniad aelodau o staff Hafan y Coed, a’u hymrwymiad i’r prosiect. Rhoddodd her Sbrint HARP fomentwm i sefydlu sesiynau celfyddydol rhithwir i gefnogi’r grŵp agored i niwed hwn.  Roeddem yn dibynnu ar allu’r aelodau o’r staff i sefydlu Asesiadau Risg ar gyfer pob unigolyn, ysgrifennu ffurflenni cydsynio a oedd yn berthnasol i’r grŵp agored i niwed hwn, a helpu i sefydlu gweithdrefnau Zoom newydd ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl oedolion.  Roeddent yn awyddus i ddarparu cymorth arloesol i’w cleifion, a gyflawnwyd drwy Rengarific, a bu modd i ni gefnogi drwy gyfarfodydd rheolaidd, deunyddiau celf a mynediad i’r system arddangos ar-lein er mwyn helpu tîm Hafan y coed i deimlo’n hyderus.  Roedd goresgyn yr heriau hyn ar gyfer y prosiect hwn yn golygu y gallai aelodau o staff Hafan y Coed ddefnyddio’r prosesau hyn wedyn ar gyfer sesiynau a phrosiectau eraill i helpu mwy o gleifion a staff ynysig, ac mae’r sesiynau wedi parhau yn yr un fformat.  

Rengarific gan Laura Sorvala

Mae’r adborth gan dîm Hafan y Coed wedi bod yn gadarnhaol:

“Cyn y cyfyngiadau symud, roeddem yn cynnal grwpiau cymorth wythnosol, gan gynnwys grŵp prosiect creadigol. Yn anochel, daeth y sesiynau hyn i ben yn sgil y cyfyngiadau symud, ynghyd â rhai o’r buddiannau a oedd yn gysylltiedig â nhw, h.y. cyfle am gefnogaeth gan gymheiriaid, cyswllt cymdeithasol, ysgogiad gwybyddol, a’r cyfle i feddwl yn greadigol ac archwilio.

Pan estynnodd Melanie wahoddiad i ni gymryd rhan yn y prosiect celf rhithwir, roeddem wrth ein bodd ac yn ymwybodol o fuddiannau posibl y cyfle.   

Y consensws cyffredinol yw bod y prosiect wedi rhoi ffocws ar adeg o darfu ar arferion rheolaidd.  Ar yr un pryd, mae wedi gwella mynegiant creadigol a chysylltedd cymdeithasol ac wedi codi hwyliau  Ysgrifennodd un o’r aelodau, “Gwnaeth y grŵp fy annog i fynd allan a chymryd rhan mewn pethau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, a gwnaeth hynny godi fy hwyliau”. Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn newid braf o’r holl negyddoldeb yn y newyddion. 

Dywedodd aelod arall ei fod wedi cael ei annog i ystyried mathau gwahanol o gyfryngau creadigol, gan ddweud “Rwyf wedi magu mwy o hyder gyda phaent a phasteli oherwydd byddwn i byth wedi credu y byddwn i’n gallu paentio na thynnu llun.” Cafodd y cyflenwad o ddeunyddiau gan yr elusen eu croesawu’n fawr, a gwnaethant alluogi’r cyfranogwyr i ddechrau ar waith y prosiect.

Er eu bod yn heriol i rai i ddechrau, roedd y sesiynau yn fodd i’r bobl wella eu sgiliau technolegol. Roedd angen help ar un o’n haelodau i ddechrau i gymryd rhan yn y sesiynau, ond erbyn diwedd y prosiect, roedd wedi dod yn fwy cymwys ac yn gallu defnyddio’r platfform fideo yn annibynnol. 

Roedd y prosiect mor boblogaidd fel bod y grŵp wedi gofyn am i’r sesiynau barhau ar ôl i’r pedair wythnos ddod i ben, ac maent yr un mor frwdfrydig ag erioed am greu celf a chyfrannu at drafodaethau am hynny. 

Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan.”

Sut mae cyfranogwyr wedi elwa ar y gweithgarwch hwn?

Roedd cyfranogiad yn y sesiynau / presenoldeb yn dda iawn, gyda’r cyfranogwyr yn ymgysylltu’n dda ac yn creu dwsinau o weithiau celf pwerus – cerddi, lluniau a ffotograffau. Mae llawer wedi dilyn thema’r cyfyngiadau symud, gan adlewyrchu teimladau o fod yn gaeth mewn amgylchedd anghyfarwydd a brawychus.

Cafodd y pum cyfranogwr o Hafan y Coed eu gwahodd i gwblhau holiaduron cyn ac ar ôl y prosiect, yn gofyn iddynt bennu sgôr ar gyfer pa mor hyderus yr oeddent i fod yn greadigol, ac i ba raddau roeddent yn teimlo cysylltiad ag eraill.   Ymatebodd dau ohonynt, gan nodi gwelliannau o ran eu hyder creadigol a’u cysylltedd cymdeithasol.   Gofynnwyd iddynt hefyd rannu adborth am eu profiad o Rengarific, a chafwyd yr ymatebion canlynol:

  • Cyfranogwr 1: ‘’A dweud y gwir, doedd gen i fawr ddim disgwyliadau pan ymunais â’r prosiect. Ond rwyf wedi magu mwy o hyder gyda phaent a phasteli oherwydd byddwn i byth wedi credu y byddwn i’n gallu paentio na thynnu llun. Mae fy nghyflwyniadau wedi cynnwys ffotograffau yn bennaf, sef y cyfrwng rwy’n ei fwynhau fwyaf. Y wers bwysicaf rwyf wedi ei dysgu yw bod pob un ohonom, er ein bod wedi dechrau gyda’r un pwnc, wedi mynd i gyfeiriadau cwbl wahanol, gan greu llawer o wahanol ganlyniadau.’’
  • Cyfranogwr 2: “Gwnaeth y grŵp fy annog i fynd allan a chymryd rhan mewn pethau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, a gwnaeth hynny godi fy hwyliau llawer yn hytrach na chlywed byth a hefyd am y coronafeirws, sy’n ddiflas..  Doedd gen i  erioed lawer o ddiddordeb mewn celf oherwydd yn yr ysgol, dim ond tynnu llun roeddwn ni’n ei wneud, a doeddwn i ddim yn dda am wneud hynny, ond gwnaeth y prosiect hwn ehangu ar hynny a chynnig cymaint o lwybrau eraill i mi eu dilyn, gan dynnu’r straen allan o’r peth a’m galluogi i fod yn fwy creadigol (clai/paent/ffotograffau), ac rwyf wedi dod i fwynhau celf mewn gwirionedd, a bydda i’n parhau i wneud hynny.  Roedd cymryd rhan yn y grŵp yn brofiad hwylus iawn, ac roedd y ffordd y cafodd ei gynnal. h.y. sgyrsiau/adborth a’r gallu i fynegi’r pwnc yn eich ffordd eich hun heb gael eich cyfyngu i un peth, yn wych. Heblaw am hynny, byddwn i wedi teimlo dan straen ac wedi colli diddordeb.  Felly, yn bersonol, roedd yn brofiad gwych ac yn ffordd wych o roi cynnig ar greu celf a phrofi’r buddiannau sy’n gysylltiedig â hynny.”

Gwelsom fod y cyfle i fynegi’r heriau a wynebwyd gan y cyfranogwyr wedi bod yn amhrisiadwy iddynt, a bod y profiad hwn o rannu creadigrwydd wedi adlewyrchu’r profiad o’r cyfyngiadau symud, yn yr ystyr bod cymaint o’r cyfranogwyr wedi cael profiadau tebyg o’r cyfyngiadau symud, er eu bod wedi gwneud hynny ar eu pen eu hunain ac ar wahân i’w gilydd.  Dywedodd y cyfranogwyr yn aml eu bod yn teimlo wedi’u grymuso drwy’r profiad hwn.  Roedd y trafodaethau a’r sgyrsiau yn ymwneud â’r gwaith celf hefyd wedi cynyddu hyder a gallu’r cyfranogwyr i siarad am eu celf a mynegi eu meddyliau a’u teimladau.   Mae eraill wedi datblygu brwdfrydedd newydd dros ysgrifennu, darlunio a ffotograffiaeth, sy’n eu hannog i fynd allan o’r tŷ ac archwilio eu hamgylchedd – gan eu helpu i deimlo’n fwy cyfforddus a bod yn fwy cynhyrchiol yn eu sefyllfaoedd. Rhoddodd y prosiect lwyfan diogel i’w lleisiau gael eu rhannu, eu clywed a’u cefnogi gan eu cymheiriaid.

Beth oedd adborth yr artist-hwylusydd?

  • Gellir cynnwys arweiniad/addysg gelf ffurfiol mewn modd cynnil, cysylltu hynny â chelf y cyfranogwyr, neu ei gyflwyno/chyflwyno fel sesiynau penodol.  Roedd yn bwysig bod yr artist yn meddu ar sgiliau creadigol er mwyn helpu i ddatrys materion artistig a chynnig barn ag awdurdod
  • Mae’r ffordd y caiff y grŵp ei gefnogi yn y sesiynau yn dibynnu ar ei brofiad a’i rwydweithiau cymorth arferol. Roeddem yn naturiol yn gefnogol iawn i’n gilydd o ran yr iaith yr oedd pob un ohonom yn ei defnyddio. 
  • Mae’r rhyngweithio rhwng y cyfranogwyr yn gryfder.  Mae eu galluogi i drafod eu celf â’i gilydd yn bwerus iawn.  Mae dysgu gyda chymheiriaid yn cadw pawb yn y grŵp ar y trywydd iawn, a gellid datblygu’r agwedd hon drwy greu rhyw fath o dudalen grŵp cymunedol breifat, wedi’i monitro gan y staff, lle byddai’r cyfranogwyr yn rhannu eu celf a’u sylwadau, a allai gynyddu’r ymgysylltu yn ystod yr wythnos rhwng dosbarthiadau.
  • Yn ddelfrydol, gallai’r ‘Padlet’ (neu debyg) gael un mewnbwn gan y cyfranogwyr.  Byddent yn lanlwytho eu celf, teitl y darn o gelf, sylwadau a pha ddarn a wnaeth ei ysbrydoli i ‘ofod diogel’. Gallai’r hwylusydd adolygu pob darn, ei lanlwytho, ei gysylltu â’i ysbrydoliaeth, a’i rannu â thudalen y grŵp cymunedol. 
  • Gallai cynnig y profiad Renga i grwpiau galluoedd cymysg greu profiadau cymdeithasol er budd y cyfranogwyr.

Beth nesaf?

Credwn fod y prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac y gellid ei gynnig yn ehangach i eraill yn y gymuned, gyda phawb yn defnyddio’r un platfform. 

Mel: Gwnaethom helpu i ymgorffori’r broses rithwir o ddarparu’r celfyddydau mewn gwasanaethau iechyd meddwl mewn ysbyty ac mewn oriel gymunedol, a hoffem i hyn barhau. Hoffem ddatblygu Gwefan i’w defnyddio gan y cyhoedd yn ehangach, gyda’r opsiwn o ddarparu tîm o artistiaid hefyd a allai hwyluso Rengarific i grwpiau agored i niwed.

Steph: Rydym am ddatblygu ein cysyniad ymhellach a’i gynnig i grwpiau eraill â phroblemau iechyd meddwl, er mwyn cadarnhau ein canlyniadau.  Mae cymryd rhan yn her Sbrint wedi rhoi mwy o hyder i mi weithio mewn tîm proffesiynol.

Agweddau ariannol

Mae Rengarific yn costio tua £2,000 i’w chyflwyno, gan gynnwys ffioedd hwyluso artistiaid (£1,400 am 12 sesiwn), deunyddiau celf, costau postio a chostau argraffu ar gyfer arddangosfa. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a dalodd am y costau eraill, gan gynnwys amser staff a thrwyddedau Zoom.

Cafodd Johan a Steff grant o £1,000 yr un gan Y Lab i gymryd rhan yn her Sbrint.   Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a dalodd am amser Mel.