Her Sbrint HARP: Y Gylchfa Gelfyddydau Deuluol

Yn cefnogi teuluoedd lle mae un aelod o’r teulu yn gwarchod ei hun, drwy brosiect celfyddydol sy’n pontio’r cenedlaethau lle mae’r teulu’n cydweithio ar-lein i greu darn o waith ar y cyd sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, dawns a chelf weledol.

Y Gylchfa Gelfyddydau Deuluol

Y Tîm

Iori Haugen – cerddor llawrydd, arweinydd côr a hwylusydd cerddoriaeth mewn iechyd

Amanda Griffkin – cyfarwyddwr artistig, Impelo

Dr Megan Wyatt – artist ac ymchwilydd gwadd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Y Nod

Cefnogi llesiant y teuluoedd a lleihau ynysu drwy eu helpu i gysylltu/cyfathrebu’n well ar-lein, gan oresgyn bylchau rhwng y cenedlaethau a rhwystrau i dechnoleg

Y Gweithgarwch

Yn cefnogi teuluoedd lle mae un aelod o’r teulu yn gwarchod ei hun, drwy brosiect celfyddydol sy’n pontio’r cenedlaethau lle mae’r teulu’n cydweithio ar-lein i greu darn o waith ar y cyd sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, dawns a chelf weledol.

Pa anghenion roeddech yn eu gweld yn y byd a wnaeth eich ysgogi i ymgymryd â her Sbrint HARP?

  • Gwnaethom sylweddoli bod llawer o bobl mewn amrywiaeth o leoliadau a oedd wedi cael eu hynysu ac nad oeddent yn gallu gweld eu ffrindiau a’u teuluoedd na chyflawni tasgau dyddiol arferol mwyach.
  • Roedd pobl yn wynebu risg o golli eu diben ac o deimlo’n ynysig ac yn unig.
  • Roedd pobl yn agos at ei gilydd yn gorfforol ond yn gwbl ar wahân i’w gilydd neu wedi’u rhannu’n ddaearyddol. 
  • Roedd rhaniad rhwng yr ystod oedrannau.  Neiniau a theidiau, wyrion ac wyresau, ysgolion

Beth roeddech am ei gyfrannu? Beth oedd eich nodau, eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer eich cyfranogwyr?

Hapus – Iach – Cysylltiedig

Roedd y tîm am gysylltu pobl yn greadigol gan ddefnyddio’r celfyddydau, gyda phob un ohonynt yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad eu hunain i gydweithio a chreu prosiect diddorol ac ysgogol a fyddai’n cysylltu pobl ifanc a phobl hŷn â’i gilydd.  Roeddem am roi’r cyfle i bobl roi cynnig ar gelfyddyd newydd a chyffrous gyda’u teuluoedd, drwy greu prosiect pwrpasol sy’n canolbwyntio ar y person, sy’n canolbwyntio ar eu diddordebau a’u huchelgeisiau personol eu hunain.

Beth a wnaethoch, a pham?

Gwnaethom ddatblygu prosiect gweledol, dawns a chanu o’r enw’r ‘Gylchfa Gelfyddydau Deuluol’: mae gweithiwr dawns proffesiynol, ymarferydd celfyddydau gweledol ac arweinydd côr proffesiynol yn cyflwyno prosiect creadigol pwrpasol a phleserus i deuluoedd na fu modd iddynt weld ei gilydd yn gorfforol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud / cadw pellter cymdeithasol.

Roedd gennym leoedd i dri theulu gymryd rhan mewn cyfres o bum gweithdy ar-lein dros gyfnod o bedair wythnos, ym meysydd paentio, canu a dawnsio. Gwnaethom weithio gyda dau deulu yn y pen draw; roedd un ohonynt wedi’i wasgaru’n ddaearyddol, gyda’r aelod hynaf yn byw mewn cartref gofal, ac roedd y llall wedi’i ganoli o amgylch unigolyn 16 oed a oedd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar ac yn gwarchod ei hun.  Y nod gyda’r ddau deulu oedd creu rhywbeth gyda’n gilydd, boed yn fideo neu’n ddarn o waith celf, a hynny’n gyfan gwbl o bell, er mwyn eu helpu i gysylltu a chyfathrebu â’u teuluoedd drwy wneud rhywbeth creadigol llawn hwyl gyda’i gilydd.    Cafodd pob gweithgaredd ei addasu a’i deilwra ar gyfer anghenion a diddordebau pob teulu, felly nid oedd angen unrhyw brofiad na diddordeb blaenorol arnynt mewn canu, dawnsio na chelf er mwyn cymryd rhan.   

Family Arts Roundabout by Laura Sorvala

Beth ddysgoch chi?

Diben y prosiect hwn oedd arbrofi a dysgu, felly gwnaethom achub ar y cyfle hwn i arbrofi â phethau newydd na fyddem fel arfer yn arbrofi â nhw.  Roedd hyn yn cynnwys defnyddio ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd gyda’r un grŵp o bobl, gan weithio o bell gyda’r grwpiau drwy Zoom, gweithio mewn unedau teuluol bach a oedd yn pontio’r cenedlaethau, drwy sefydliadau a chyda phobl nad oeddem yn eu hadnabod yn flaenorol.  Felly, ein nod oedd dysgu am yr holl bethau hyn, yn hytrach na cheisio creu ffordd gwbl newydd o weithio y gellid ei hehangu neu ei lleihau o reidrwydd  (oherwydd gwyddom ar gam cynnar ei bod yn debygol y byddai rhwystrau o ran cost i wneud hynny).

Gweithio drwy sefydliadau â phobl nad oeddem yn eu hadnabod yn flaenorol

Er mwyn cael gafael ar gyfranogwyr, roeddem yn ddibynnol iawn ar gydgysylltwyr gweithgareddau cartrefi gofal a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd oherwydd ni allem gysylltu â chyfranogwyr yn uniongyrchol.  Roedd hyn yn broses lafurus; nid oeddem bob amser yn flaenoriaeth iddynt a bu’n rhaid i ni aros yn hirach na’r disgwyl am ateb gan rai, hyd yn oed os mai ‘na’ oedd yr ateb hwnnw.   Yn ein hachos ni, gwnaethom fynd i’r mannau mwyaf heriol a chwilio am y bobl fwyaf ynysig, o fewn sefydliadau.   Roedd yn rhaid iddynt hefyd ddarbwyllo eu teuluoedd i gymryd rhan, a gan ein bod yn gweithio gyda sawl ffurf ar gelfyddyd, gallai’r prosiect ymddangos yn gymhleth ac roedd angen ei egluro’n ofalus i ddarpar gyfranogwyr.   Gwnaethom gysylltu â sefydliadau fesul un, gan mai dim ond lle i dri theulu oedd gennym, ond gwnaeth hyn arafu’r broses a phe byddem yn gwneud hyn eto, mae’n bosibl y byddai’n fuddiol cysylltu â mwy nag un sefydliad ar yr un pryd. 

Fodd bynnag, yn y pen draw, daethom o hyd i gydgysylltydd gweithgareddau brwdfrydig yng Nghwrt Newton (cartref gofal yn Abertawe) a staff cyfeillgar ar ward Ymddiriedolaeth Canser y Glasoed yng Nghaerdydd, a gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr nid yn unig o ran cael gafael ar gyfranogwyr i ddechrau, ond hefyd drwy gydol y broses o gyflwyno’r prosiect; bu cyfraniad y bobl hynny at y prosiect yn enfawr.   Yn y cartref gofal yn benodol, chwaraeodd y cydgysylltydd gweithgareddau rôl hollbwysig drwy ailadrodd cyfarwyddiadau, rheoli’r dechnoleg ac annog y preswylydd/preswylwyr i gymryd rhan.   Yn wir, gwnaeth y cydgysylltydd gweithgareddau hefyd wahodd preswylwyr eraill i’r sesiwn ddawns, felly roedd ymdeimlad o ymgysylltu ehangach, er mai’r teulu oedd y prif ffocws.

Mae diogelu yn hollbwysig ac mae hyn yn rhywbeth a effeithiodd ar gynnydd ein prosiect.  Er mwyn glynu wrth y rheoliadau diogelu, gwnaethom benderfynu gynnal ein prosiect o fewn unedau teuluol, ond roedd hynny hefyd yn cyfyngu ein cynulleidfa darged.

Gweithio o bell drwy Zoom

Gweithiodd yr amgylchedd ar-lein yn dda, ac yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, bu’n ffordd dda o gyrraedd y nodau roeddem wedi eu pennu i ni ein hunain o ran cefnogi cysylltiadau teuluol a helpu pobl hŷn i deimlo’n fwy cyfforddus wrth ddefnyddio technoleg.   I rai aelodau o’r teulu, dyma oedd eu hunig gyswllt â’u mam-gu mewn gofod rhithwir – eu hunig gyswllt fel arall oedd drwy fab y preswylydd a dros y ffôn yn bennaf.

O ran y ferch ifanc yn ei harddegau y gwnaethom weithio gyda hi, gwnaeth hyn ei galluogi i weithio gyda’i chwaer dros Zoom (nad oedd yr un ohonynt yn gyfarwydd iawn ag ef cyn hynny). 

Roedd y cymysgedd o ymgysylltu ar-lein ac all-lein yn bwysig hefyd.  Er y gallai’r artist-hwylusydd gymryd rhan o bell, ym mhob un o’r tair sesiwn (cerddoriaeth, celf a dawns) gyda’r preswylydd cartref gofal, roedd angen i rywun fod yn yr ystafell yn gorfforol i’w gefnogi a’i oruchwylio.  Bu hyn yn ffordd effeithiol o weithio gyda phreswylwyr cartrefi gofal. 

Roeddem yn arbennig o falch ein bod wedi gallu cefnogi’r cyfranogwr yn ei harddegau, gan na allai fanteisio ar holl ymyriadau Ymddiriedolaeth Canser y Glasoed oherwydd natur ei salwch.  Fodd bynnag, bu angen i ni weithio gyda hi mewn ffordd ychydig yn wahanol; gallai ddefnyddio’r dechnoleg heb unrhyw drafferth ac felly nid oedd angen goruchwyliaeth arni, ond bu angen i ni deilwra rhannau penodol o’n hymyrraeth; er enghraifft, yn lle gweithgaredd canu grŵp, roedd yn well ganddi gael gwers canu unigol.  Roedd cael yr adnoddau a’r hyblygrwydd i wneud hyn yn hollbwysig.

Gweithio mewn unedau teuluol bach a oedd yn pontio’r cenedlaethau

At ei gilydd, roedd y sesiynau yn hyblyg ac yn llawn hwyl, ac roeddent yn dilyn dymuniadau a diddordebau cynhenid y bobl dan sylw.   Anaml y byddwn yn cael cyfle i weithio mewn ffordd mor bwrpasol, na chydag un teulu ar y tro; nid yw cyfansoddiad ‘un i lawer’ y rhan fwyaf o’r gweithgareddau celfyddydol ac iechyd rydym yn eu cynnal yn ein galluogi i wneud hyn.   Roedd yn werth chweil iawn gallu ymdrin â’r gweithgareddau creadigol mewn ffordd mor bwrpasol ac wedi’i chyd-gynhyrchu; gwnaeth y ddau deulu lywio’r gweithgareddau llawer mwy nag a fyddai’n bosibl fel arfer mewn amgylchedd grŵp – er enghraifft, gallent ddewis caneuon penodol i ni eu trefnu, eu canu a dawnsio iddynt, lliwiau penodol ar gyfer ategolion dawnsio, pynciau ar gyfer y darnau celf, ac ati.   Rhoddodd hyn lawer o berchenogaeth i’r cyfranogwyr a’u teuluoedd dros y prosiect, ac oherwydd y niferoedd bach, gallem fod yn fwy hyblyg.

Ar gyfer y preswylydd cartref gofal y gwnaethom weithio gyda hi, rhoddodd y prosiect weithgaredd grŵp iddi hi a’i theulu a oedd yn eu galluogi i gael profiad ar y cyd, ffocws a rhywbeth i sgwrsio amdano.   Yn wir, gwelsom fod y caneuon a’r celf weledol yn ysbrydoli sgyrsiau a chwerthin am atgofion teuluol a diddordebau, a oedd yn fwy ystyrlon iddynt na dim ond siarad am bynciau o ddydd i ddydd. 

Defnyddio ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd

Gwnaethom sylwi bod y gweithdai celf weledol yn arbennig o effeithiol o ran ysbrydoli sgyrsiau dyfnach am ddiddordebau a phrofiadau.  Roedd y gweithdai canu a dawns yn fwy egnïol gyda mwy o chwerthin, gan ysbrydoli’r cyfranogwyr i siarad am atgofion ar yr un pryd. 

O safbwynt y gweithdai dawns, roeddem wedi cynllunio strwythur a oedd yn caniatáu’r amser a’r lle i gael sgwrs.   Fodd bynnag, roedd ffocws pawb yn ystod y gweithgareddau yn wych, felly roedd y teulu’n cael sgwrs dda ar ddiwedd y sesiwn yn lle hynny.  Drwy gael dau ymarferydd yn arwain y sesiwn ddawns, gallem sicrhau bod rhywun bob amser ar gael i arddangos fersiwn o’r gweithgaredd y gallai’r cyfranogwyr ei gwneud ‘ar eu heistedd’, a gallent ddewis drostynt eu hunain pa fersiwn i’w gwneud.  

Roedd cynnal gweithgaredd corawl yn gofyn am fwy o waith paratoi cyn y sesiynau nag y byddai sesiwn gorawl draddodiadol o bosibl.  Fel arfer, gall rhywun drefnu darn o gerddoriaeth a’i addysgu’n bersonol, ond er mwyn gwneud hyn yn effeithiol ar-lein, rhaid recordio’r gân (mewn sawl rhan) yn ogystal â chreu taflenni geiriau/sgôr ymhell o flaen llaw er mwyn rhoi digon o amser i’r cyfranogwyr eu lawrlwytho a’u hargraffu.   Yn ystod y sesiwn, rhaid i’r unigolyn sy’n rheoli Zoom allu defnyddio’r botwm i fudo pawb yn eithaf aml er mwyn lleihau’r oedi, yr adlif a’r lleisiau croes – mae’r rhain yn elfennau cymharol sefydlog o gôr rhithwir.  Fodd bynnag, yn ogystal â’r elfennau hyn, wrth weithio yn y cartref gofal gwelwyd bod angen diffodd pob fideo heblaw am un neu ddau hefyd, er mwyn helpu i gynnal ffocws y cyfranogwyr yn ystod y sesiwn a lleihau’r pethau a allai dynnu eu sylw. Unwaith eto, mae hyblygrwydd yn bwysig iawn oherwydd yn aml byddai’r sgwrs yn gwyro oddi wrth y testun (a oedd yn hyfryd) a byddai dod o hyd i ffyrdd o adfer ffocws y sesiwn weithiau’n heriol. 

Roedd cynnal cyfarfod canfod a chyflwyno cychwynnol â’r ddau deulu yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect.  Er enghraifft, o ran y cyfranogwr yn ei harddegau, gwelsom fod dawnsio yn ffefryn clir, felly daeth hynny’n rhan annatod o’n hymyrraeth.  Ond o ran y teulu arall yn y cartref gofal, y gân oedd y ffocws cychwynnol, a daeth yn gatalydd ar gyfer y gweithgareddau eraill.  Unwaith eto, y peth pwysig oedd bod yn hyblyg, fel y gallem addasu’n briodol, a daeth newid yr hyn a gynlluniwyd i ddechrau yn hollbwysig i lwyddiant yr ymyrraeth gyffredinol – mae’n bwysig nodi mai’r hyblygrwydd hwn oedd hanfod y cyfan, a’r rheswm pam yr oeddem am weithio gyda grwpiau bach penodol o’r fath.  Deallwn y byddai’n anodd ehangu hyn.

Beth nesaf i’r tîm?

Megan: Hoffwn barhau i gydweithio â gweithwyr proffesiynol o ddisgyblaethau eraill. Byddaf yn datblygu mwy o brosiectau celfyddydol o bell nawr rwy’n gwybod bod hynny’n bosibl.

Iori: Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n fawr gan agwedd greadigol, ddeallus a blaengar pawb yn ystod y broses hon. Rwy’n teimlo bod gennyf fwy o gysylltiad â’r rhai sy’n gweithio ym myd y celfyddydau a’r sector iechyd yng Nghymru, ac rwy’n hyderus bod hyn wedi cryfhau cysylltiadau rhwng nifer o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio i gyrraedd nodau tebyg.  Rwy’n gobeithio cael y cyfle i ychwanegu gwerth at brosiectau fy nghydweithwyr yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio bod ein gwaith wedi helpu i ddatblygu agenda’r Celfyddydau mewn Iechyd yng Nghymru.

Amanda: Rwyf wedi cynnwys yr hyn a ddysgwyd drwy her Sbrint a’r Gylchfa Gelfyddydau Deuluol yn y broses o gynllunio ar gyfer prosiect dawns digidol i bobl â dementia, a ddechreuodd y mis hwn.   Rwyf hefyd wedi mwynhau cydweithio â gweithwyr proffesiynol o feysydd celfyddydol eraill yn fawr – hoffwn i weld mwy o hyn os gwelwch chi’n dda!

Manylion ariannol

Cyfanswm cost uniongyrchol y Gylchfa Gelfyddydau Deuluol oedd tua £2,000, gan gynnwys costau artist-hwylusydd a phecynnau celf i’r cyfranogwyr.

Cafodd Iori, Megan ac Impelo grant o £1,000 yr un gan Y Lab i gymryd rhan yn her Sbrint HARP.