Sut gall llywodraethau gael y cyhoedd i gyfranogi mwy wrth wneud penderfyniadau?

30 September 2019

What are the best ways to involve people in decisions that affect their lives? Research Fellow, Emyr Williams, explores some options that could be more widely used in Wales.

Mae cyfraniad ac ymddiriedaeth yn system wleidyddol y DU ar ei lefel isaf erioed, am amrywiaeth o resymau. Yn y DU, mae’r anghytuno ynghylch Brexit a pholareiddio pleidiau gwleidyddol yn golygu bod llawer o bobl yn teimlo’n anfodlon a ddim am ymwneud â system sy’n cynnig ychydig iawn o gyfleoedd i gael effaith.  

Mae cyllidebau llywodraeth leol a chenedlaethol dan straen yn sgil caledi, ac mae’r penderfyniadau sy’n dilyn yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau rheng flaen a bywydau bob dydd pobl. Mae’r ‘Rheolaeth Gyhoeddus Newydd’ mewn llywodraeth leol yn rhoi ychydig, os o gwbl, o gyfleoedd i ddinasyddion wneud cyfraniad gwirioneddol yn y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn. 

Fodd bynnag, mae llywodraethau’n archwilio ffyrdd newydd, mwy arloesol a allai helpu i ennyn mwy o ffydd wrth wneud penderfyniadau, gwella ymgysylltiad gwleidyddol a rhoi fwy o effaith i bobl yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt drwy ddemocratiaeth gydgynghorol.

Mae prosesau democrataidd cydgynghorol yn amrywiaeth o ddulliau sy’n caniatáu i bobl gymryd rhan mewn penderfyniadau mewn ffordd sy’n fwy gwybodus. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio sesiynau bach cyhoeddus (fel cynulliadau dinasyddion, rheithgorau dinasyddion, celloedd cynllunio, arolygon cydgynghorol ac ati) neu gyllidebu cyfranogol. 

Mae sesiynau bach cyhoeddus yn dueddol o gael eu defnyddio er mwyn cynnwys pobl mewn penderfyniadau anodd a allai fod yn wleidyddol rhwygol. Mae sampl gynrychiadol o’r boblogaeth yn clywed amrywiaeth o dystiolaeth cyn trafod a phenderfynu ar ryw fath o argymhellion ynghylch sut y dylid mynd i’r afael â mater.

Mae cyllidebu cyfranogol yn cynnwys y boblogaeth gyfan mewn ardal ddaearyddol benodol ac yn rhoi cyfle cyfartal iddynt gynnig syniadau am brosiectau, trafod pa syniadau a allai fod orau ac yna pleidleisio ar ba rai maen nhw’n teimlo y dylid rhoi adnoddau iddynt. Efallai y bydd y prosiect â’r mwyaf o bleidleisiau yn cael ei weithredu, ac mae’r cylch yn dechrau eto.

Mae prosesau democrataidd cydgynghorol yn amrywiaeth o ddulliau sy’n caniatáu i bobl gymryd rhan mewn penderfyniadau mewn ffordd sy’n fwy gwybodus. 

Mae’r rhai sydd o blaid y dulliau hyn yn dadlau mai’r bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau yn eu hardal sy’n meddu ar yr wybodaeth a’r arbenigedd i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch y materion sy’n effeithio arnyn nhw. Yn wir, mae llawer yn dadlau y gall gweithredu dulliau democrataidd cydgynghorol yn effeithiol arwain at lu o fanteision sy’n cynnwys y canlynol:

  • Cynnwys pobl eto ym maes gwleidyddiaeth a gwneud penderfyniadau;
  • Annog cyfranogiad sifil ehangach;
  • Gwneud penderfyniadau gwell;
  • Ailddosbarthu cyfoeth ac adnoddau i’r ardaloedd sydd fwyaf eu hangen;
  • Rhoi llais i’r rhai sydd wedi’u ‘tangynrychioli’; a
  • Newid o wneud penderfyniadau gwleidyddol ymosodol llwythol gan roi sylw i ffeithiau, tystiolaeth a dadleuon rhesymegol.

Fodd bynnag, er bod yr honiadau hyn yn ymddangos yn realistig, hyd yma ni fu digon o ymchwil trwyadl sy’n ymchwilio i effaith ymyriadau democrataidd cydgynghorol ar y broses o wneud penderfyniadau nac ar yr unigolion sy’n cymryd rhan, yn enwedig yng nghyd-destun y DU. 

Rydym yn bwriadu edrych ar hyn yn Y Lab a byddwn yn annog sefydliadau yng Nghymru i gysylltu â ni os oes diddordeb ganddynt mewn cyflwyno unrhyw broses gydgynghorol. Rydym yn awyddus i glywed gennych os ydych yn bwriadu treialu proses neu ddull democratiaeth gydgynghorol yn eich cymuned.