12 Gorffennaf 2019
Bydd Leonard Cheshire yn defnyddio benthyciad o £1miliwn i ddatblygu a graddio eu prosiect Arloesi i Arbed ledled Cymru.
Lansiwyd Arloesi i Arbed gennym yn 2017 i helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i brofi syniad newydd a fydd, yn eu barn nhw, yn gwella gwasanaethau ac yn cynhyrchu arbedion arian parod.
Roedd Leonard Cheshire yn rhan o’r garfan gyntaf o brosiectau Arloesi i Arbed sy’n cynnal gwaith ymchwil a datblygu, ac mae bellach wedi cael benthyciad o £1miliwn i raddio’r prosiect ledled Cymru.
Mae Together as One(a elwid gynt yn Prime Members Club) yn cynnig ffordd i oedolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol gronni eu horiau cymorth un-i-un. Yna gellir defnyddio’r rhain yn erbyn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol grŵp ar wahanol adegau o’r wythnos, gan leihau nifer y gofalwyr sydd eu hangen i gefnogi’r gweithgareddau a chynhyrchu arbedion i awdurdodau lleol.
Mae teclyn gwe yn cael ei ddatblygu fel y gellir gwneud dewis neu awgrymu gweithgareddau ar-lein, gyda ‘brasluniau’ sy’n rhoi syniad o’r hyn y mae’r unigolyn a’r gweithwyr cymorth yn mwynhau ei wneud. Yn ystod y cynllun peilot, bu gweithdai drama a sesiynau ffotograffiaeth yn boblogaidd.
Daeth y syniad ar gyfer Together As One gan y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yng Nghymru. Yn ystod cyfnod Glyn Meredith fel gweithiwr cymorth plant yn Abertawe, sylwodd fod llawer o bobl yn derbyn gofal un-i-un ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol y gellid eu rhannu. Dechreuodd gyfuno cefnogaeth a chynyddodd yr amrywiaeth o weithgareddau a oedd yn cael eu cynnig, a oedd yn y pen draw yn gwella’r dewis a’r rheolaeth i’r bobl ifanc yr oedd yn gweithio gyda nhw.
Mae trosglwyddo’r elfen gymdeithasol honno’n bwysig iawn i oedolion, a bydd yn trawsnewid gweithgareddau hamdden sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ledled Cymru. Dewisodd y grwpiau a gefnogwyd gennym yn y cynllun peilot weithgareddau sy’n cynnwys pam rydym yn pleidleisio, hyfforddiant iechyd a diogelwch a hylendid bwyd, a arweiniodd at aelodau’r grŵp yn cael cyflogaeth.
Glyn Meredith, Cyfarwyddwr Cymru
Bu Leonard Cheshire yn gweithio gyda 35 o unigolion yn Ynys Môn dros gyfnod o saith mis i brofi a oedd yr IAC yn ffordd effeithiol o wella gwasanaethau i bobl anabl ac a ellid gwireddu’r arbedion yr oeddent yn eu rhagweld. Roedd tystiolaeth a gasglwyd o gam ymchwil a datblygu Buddsoddi i Arbed yn caniatáu i’r elusen ysgrifennu achos busnes yn cefnogi’r cais am fenthyciad.
Gwnaethom ddysgu llawer o gyflwyno’r fersiwn gyntaf o Arloesi i Arbed, ac rydym wedi ysgrifennu Canllaw i Gyllid Ad-daladwy ar gyfer Arloesi mewn Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n helpu eraill i ddatblygu a rhedeg eu rhaglen eu hunain.