Astudiaeth Achos: Corau i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser

Mae gofal canser Tenovus yn elusen ganser genedlaethol sy’n ceisio helpu i atal, trin a dod o hyd i ateb ar gyfer Canser. Maen nhw’n gwneud hyn drwy gynnig cymorth, cyngor a thriniaeth i gleifion canser a’u hanwyliaid. Maen nhw hefyd yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac yn ariannu ymchwil canser i ddod o hyd i ffyrdd newydd o’i atal, ei ddiagnosio a’i drin.

Y syniad

Daeth y syniad cychwynnol ar gyfer y côr gan uwch aelod o staff a oedd o’r farn y gallai canu mewn côr helpu pobl â chanser yr ysgyfaint drwy ymarferion anadlu estynedig, yn ogystal â brwydro yn erbyn yr unigrwydd a’r teimladau ynysig a brofir gan lawer o gleifion canser.

Nid oedd tystiolaeth wyddonol ar gyfer buddion canu ond roedd Tenovus eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac archwilio effaith ymyriadau anfeddygol ar bobl sy’n profi problemau meddygol difrifol. Wrth i’r syniad fynd yn ei flaen a dod yn fwyfwy poblogaidd datblygodd y corau i fod yn ffordd o wella llesiant y rheini sy’n wynebu canser a’r rhai sydd ddim yn ei wynebu.

Beth ddigwyddodd?

Yn 2010 sefydlodd Gofal Canser Tenovus y côr “Sing with Us” cyntaf ym Mhontypridd, ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan ganser. Roedd cerddorion proffesiynol yn arwain ymarferion gyda’r bwriad o godi calon, cael hwyl a chynnig cefnogaeth. Dechreuodd y corau’n fach, gyda llai na 10 o aelodau. Ond o fewn ychydig fisoedd, tyfodd yr aelodaeth i dros 100 o bobl ac mae wedi parhau i dyfu.

Cynhaliodd Tenovus werthusiad effaith o’u corau gyda Phrifysgol Caerdydd, y Coleg Cerdd Brenhinol a Choleg Imperial Llundain. Mae’r astudiaethau hyn wedi dangos bod awr o ymarfer côr yn lleihau pryder ac iselder ymhlith aelodau, ac yn cael effaith bositif ar farcwyr biolegol sy’n gysylltiedig â straen, swyddogaeth imiwnedd ac ymateb llidiol. Gallai hyn roi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser mewn gwell sefyllfa i dderbyn triniaeth a chynnal eu gwellhad.

Cipolwg

  • Gall treialu syniad heb sylfaen dystiolaeth gyfredol gael effeithiau positif anfwriadol sylweddol.
  • Mae elusennau yn aml gyda’r gorau wrth fentro gyda’u darpariaeth gwasanaeth oherwydd eu diwylliant a’u hyblygrwydd gweithredol.
  • Mae’n amhosibl gwybod beth fydd holl effeithiau’r arloesi, a dim ond wrth i brosiect fynd yn ei flaen y daw rhai o’r effeithiau mwyaf arwyddocaol i’r amlwg.
  • Gall tystiolaeth annibynnol ddibynadwy o effaith prosiect gael rhan fawr wrth gynyddu arloesedd.

Beth nesaf?

Mae Tenovus bellach yn gweithio gyda’r Loteri Genedlaethol i ehangu eu hymgysylltiad cymunedol a’u gweithgareddau corawl yn Lloegr. Maen nhw hefyd wedi ychwanegu nifer o gorau yn Lloegr a oedd yn aflwyddiannus o dan sefydliadau eraill.

Mae Tenovus hefyd wedi cael ymholiadau rhyngwladol ynglŷn â’r gwaith o’r UDA ac America Ladin ac maen nhw’n archwilio’r cyfleoedd i ehangu eu model corawl ledled y byd.