Cryfhau Rheolaeth y Gyfraith yn Lesotho

Gyda chefnogaeth Grant Cyflymu Effaith Prifysgol Caerdydd, cychwynnodd Y Lab ar bartneriaeth gydag Seinoli Legal Centre a Protimos i archwilio a oedd modd defnyddio’r 10 mlynedd o ddata a gasglwyd ganddynt i greu prawf o’r cysyniad.

Mae mynediad at system gyfiawnder sydd wedi’i gwreiddio mewn trefn gyfreithiol sefydlog, ddibynadwy a theg yn bwysig o safbwynt economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a moesol.

Cyflwniad

Mae amcangyfrifon 2019 adroddiad Cyfiawnder i Bawb / Justice for All yn datgan bod 4.5 biliwn o bobl ar draws y byd ‘wedi’u heithrio o’r cyfleoedd mae’r gyfraith yn eu darparu’, gyda 5.1 biliwn yn cael eu diffinio fel rhai ‘heb fynediad ystyrlon at gyfiawnder’.

Mae gwledydd sydd â chyfoeth o adnoddau yn elwa’n gynyddol o brosiectau buddsoddi anferth, megis argaeau hydro-bŵer a mwyngloddiau diemwntau.  Mae rhoi’r prosiectau hyn ar waith yn cael effaith fawr ar fywoliaeth a hawliau pobl sy’n byw’n draddodiadol ar y tiroedd hynny, sy’n llawn adnoddau, ac y mae cymaint o alw amdanynt, cyn, yn ystod ac ar ôl torri’r tir.  Mae’r cymunedau hyn yn aml heb fynediad at gyfreithwyr a dealltwriaeth o strwythurau cyfreithiol ffurfiol, sy’n peryglu eu gallu i ffynnu a rhannu yn y buddion.  

Y Syniad

Mae gan Ganolfan Gyfreithiol Seinoli (SLC) yn Lesotho a Sefydliad Protimos agwedd unigryw at rymuso cyfreithiol a chryfhau trefn gyfreithiol.  Gyda chefnogaeth Grant Cyflymu Effaith Prifysgol Caerdydd, cychwynnodd Y Lab ar bartneriaeth gydag SLC a Protimos i archwilio a oedd modd defnyddio’r 10 mlynedd o ddata a gasglwyd ganddynt i greu prawf o’r cysyniad, a sut gallai datblygu prawf ddarparu tystiolaeth well o effaith eu dull gweithredu.  

Mae’r SLC yn mabwysiadu dull pobl-ganolog o ymdrin â gwasanaethau cyfreithiol, gan fynd â’u gwaith i gymunedau mewn rhannau pellennig o Lesotho, nad oedd ganddynt fynediad ystyrlon, fforddiadwy at wasanaethau cyfreithiol yn Lesotho cyn i SLC gael ei sefydlu.  Nid yw cymorth cyfreithiol yn bodoli yn Lesotho i bob pwrpas, nid yw ar gael yn gyfangwbl am ddim, ac mae’n gofyn bod pobl o gymunedau pellennig yn yr Ucheldir (ardal sydd â chyfoeth o adnoddau), y mae prosiectau seilwaith mawr yn effeithio fwyaf arnynt, yn gorfod teithio am oriau i gael mynediad i wasanaethau a allai fod yn gyfyngedig iawn. 

Mae SLC a Protimos UK yn arloeswyr cyfreithiol.  SLC, gyda chefnogaeth Protimos, oedd y ganolfan gyntaf o’r fath yn Lesotho sy’n cynnig gwasanaethau cyfreithiol cyhoeddus. Mae’r ddau gorff yn gweld manteisio ar holl gapasiti’r drefn gyfreithiol (hy cyfreithwyr a fydd yn mynd i gyfraith os bydd angen) fel offeryn effeithiol i leihau tlodi a diogelu hawliau cymunedau brodorol y mae prosiectau datblygu’n effeithio arnynt.  Mae’r rhan fwyaf o’u gwaith wedi canolbwyntio ar gymunedau y mae Prosiect Dŵr Ucheldir Lesotho (LHWP) yn effeithio arnynt.  Yr hyn sy’n eu gwneud nhw’n unigryw yw eu hagwedd gyfreithiol gyfannol, wedi’i gyfuno â’u hymroddiad i gynrychioli a diogelu cymunedau gwahanol yn y llys, mewn modd sy’n amddiffyn ymdeimlad o le a hunaniaeth gymunol. 

Protimos gychwynnodd Brosiect Seinoli yn 2009 trwy ymgyfreitha’n strategol mewn achos prawf cychwynnol er mwyn dangos pŵer cynsail cyfreithiol.  Arweiniodd yr achos prawf hwn at adfer mynediad at ddŵr i gymuned Mapeleng (427 o bobl ar y pryd) wedi i 16 mlynedd o eiriolaeth fethu.  Ni all pobl fyw na ffynnu heb ddŵr. Mae’r cynsail hwnnw bellach wedi cael ei gyrchu gan 7 o gymunedau eraill, ac adferwyd dŵr i 2,144 o bobl.  Wrth i LHWP symud ymlaen i’r cyfnodau nesaf ac i argaeau hydro-bŵer gael eu hadeiladu ar draws Affrica, gallai’r cynsail hwn o bosib fod o fudd i filoedd o bobl eraill.  

Beth wnaethom ni

Ar ôl cyfres o weithdai yn y Deyrnas Unedig, aeth tîm Y Lab i Lesotho ym mis Ebrill 2019 i weithio gydag SLC, eu bwrdd, a rhanddeiliaid lleol trwy gynhadledd dau ddiwrnod ar fesuriadau ystyrlon.  Bu’r gweithgareddau hyn o help i’r tîm ddeall effaith a chynaliadwyedd o amrywiol safbwyntiau.  Ym mis Gorffennaf 2019, daeth Ms Reitumetse Nkoti Mabula, Cyfarwyddwr Cyfreithiol SLC, i’r Deyrnas Unedig i olygu’r fersiwn gychwynnol o’r prawf ac ysgrifennu am y prosiect ar y cyd. 

Bu’r holl weithgareddau yn ein helpu i wrando, deall eu theori ar gyfer newid, archwilio’r data oedd ganddynt, ac yn y pen draw, greu cronfa ddata a phrawf rhagarweiniol o’r cysyniad ar gyfer eu dull o fynd ati i gryfhau’r drefn gyfreithiol.  Y gobaith yw y bydd hyn yn cychwyn partneriaeth sy’n parhau. 

Mewnwelediad

  • Mae gan ddulliau dylunio cyfranogol bŵer i fwyhau llais a phrofiad mewn ffyrdd sy’n amhosib i ddulliau ymgynghori traddodiadol. Cafodd ein dull o gynnal y gynhadledd a’r sgyrsiau a sbardunwyd ganddi effaith ddwys ar y cyfranogwyr, a wahoddodd y tîm i barhau i weithio gyda nhw.  Rydym ni’n teimlo bod yr ymateb a gawsom yn anrhydedd fawr.
  • Roeddem ni’n rhy uchelgeisiol gyda’r prosiect hwn, felly bu nifer o heriau yr ydym wedi dysgu oddi wrthynt, ac rydym ni’n dal i ymlafnio gydag eraill.  Y mwyaf o’r rhain yw sut mae rhoi adborth ar fewnwelediad yn gyflym, a rhannu’r hyn a ddysgwyd wrth ddefnyddio’r technegau cyfranogol hyn i weithio ar broblemau cymhleth? Fe hoffem ni fod yn fwy ystwyth yn y dyfodol, ac rydym ni’n meddwl y gallai dulliau a ffyrdd eraill o gasglu data helpu o bosib.