Cynllun Peilot Presgripsiynau Cymdeithasol Credyd Amser

Gweithiodd Clwstwr Meddygfeydd De Orllewin Caerdydd a Tempo gyda’i gilydd drwy ymchwilio i weld sut byddai cynnig Credydau Amser i bobol gyda lefel gostyngedig o iselder ysbryd a gorbryder yn gallu cynhyrchu arbedion drwy arwain at leihad yn y feddyginiaeth a ragnodwyd.

Tempo Time Credits

Grant a Ddyfarnwyd: £14,997

Cyfnod a Gwblhawyd: Ymchwil a Datblygu 

Mae clwstwr De Orllewin Caerdydd yn gweithredu 11 o Feddygfeydd Teulu ar draws poblogaeth o 66,410 o gleifion. Mae rhai ardaloedd yng nghlwstwr y De Orllewin yn dioddef lefelau amddifadedd uchel gyda 60% o boblogaeth y clwstwr yn byw mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Yn ystod y ddegawd nesaf, bydd y boblogaeth o bobl hŷn a’r sawl sydd yn byw gyda chyflyrau cronig yn debygol o gynyddu.

Mae Tempo (sef Spice gynt yn fudiad datblygu cymunedol wnaeth ddatblygu Credydau Amser – sef arian amgen sydd yn gweithio ar sail awr-am-awr syml: am bob awr a wirfoddolir i weithgaredd cymunedol caiff Credyd Amser ei ennill. Gellir gwario’r rhain ar ystod amrywiol o weithgareddau. 

Gweithiodd Clwstwr Meddygfeydd De Orllewin Caerdydd a Tempo gyda’i gilydd drwy ymchwilio i weld sut byddai cynnig Credydau Amser i bobol gyda lefel gostyngedig o iselder ysbryd a gorbryder yn gallu cynhyrchu arbedion drwy arwain at leihad yn y feddyginiaeth a ragnodwyd.

Y Syniad

Ffordd o gysylltu cleifion gyda ffynonellau di-feddygol eraill o gymorth cymunedol fel grwpiau garddio, hamdden, celfyddydol a lles yw Presgripsiynau Cymdeithasol, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n gynyddol i fynd i’r afael â chyflyrau fel lefel gostyngedig o iselder-ysbryd a gorbryder. 

Ymchwiliwyd sut gallai credydau amser gael eu cyfuno gyda rhagnodi cymdeithasol i ddod a budd ychwanegol i gleifion. 

Cafodd y rhaglen beilot ei redeg mewn tair meddygfa yng Nghaerdydd. Cyflogwyd dau ragnodwr cymdeithasol er mwyn ymgynghori gyda chleifion cymwys a gafodd gredydau amser wedi eu rhagnodi iddyn nhw o flaen llaw. Wrth wneud y broses o ‘ennill’ credyd amser tuag yn ôl, bydd gan gleifion fynediad ar unwaith at ystod eang o weithgareddau sydd yn eu diddori, a’r posibilrwydd o gael mynediad at weithgareddau fyddai’n helpu lliniaru’r symptomau sydd yn gysylltiedig ag iselder ysbryd a gorbryder.

Beth Ddigwyddodd

Fe gafodd 78 o bobl fynediad at y rhagnodwr cymdeithasol ac allan o’r rhain, roedd 21 ohonynt yn fynychwyr rheolaidd (sef 15 apwyntiad neu fwy yn ystod y 12 mis diwethaf), gan gynrychioli defnyddwyr trymaf y gwasanaethau gofal iechyd. Yr awgrym a gafwyd ar ôl dadansoddiad pellach o nodiadau’r rhagnodwr cymdeithasol yw bod gan y cleifion hyn anghenion cymhleth seicolegol a elwodd o gael y gefnogaeth 1:1 a ddarparwyd gan y rhagnodwr cymdeithasol. Dangosodd y gwerthusiad economaidd ar gyfer y grŵp yma o gleifion bod yna ostyngiad wedi bod mewn apwyntiadau meddyg teulu a rhagnodion ac o ganlyniad cafwyd arbedion mewn costau i’r meddygfeydd teulu.

Dyrannwyd 49 presgriptiwn credyd amser yn ystod y cyfnod prawf. Erbyn diwedd y prawf roedd saith o aelodau wedi gwario eu Credydau Amser yn rhwydwaith Tempo ond doedd neb eto wedi dechrau gwirfoddoli er mwyn ennill rhagor o Gredydau Amser.

Mae’n bwysig amlygu fod y gyfradd o ddileu a pheidio mynychu apwyntiadau yn unol â’r projectau presgriptiwn cymdeithasol eraill. Arweiniodd hyn i Glwstwr Meddygfeydd Teulu De Orllewin Caerdydd a Tempo i ddod i’r casgliad bod angen archwiliad mwy hirdymor er mwyn cael dealltwriaeth lawn o effeithiau rhagnodi cymdeithasol.

Dyrannwyd 49 presgriptiwn credyd amser yn ystod y cyfnod prawf. Erbyn diwedd y prawf roedd saith o aelodau wedi gwario eu Credydau Amser yn rhwydwaith Tempo ond doedd neb eto wedi dechrau gwirfoddoli er mwyn ennill rhagor o Gredydau Amser.

Mewnwelediadau

● Nid Cyllid Benthyciad yw’r ffordd fwyaf addas bob tro o ariannu arloesiadau iechyd – dangosodd ddadansoddiad o fuddion Rhagnodi Cymdeithasol gan Tempo a chlwstwr Meddygfeydd Teulu Gorllewin Caerdydd bod ychydig bach o arbedion ariannol wedi cael eu cynhyrchu ond fe ddychwelwyd lefel uwch o fudd cymdeithasol yn gyfnewid am y buddsoddiad a adroddwyd. Ni welwyd fod yna sail resymegol glir dros weithredu’r gwaith ar raddfa a ariannir gan fenthyciad, ond gall drefniadau ariannu eraill brofi i fod yn fwy addas..

● Er bod yr ymglymiad a gafwyd gyda Chredydau Amser yn ystod y cyfnod ymchwil a datblygu yn isel, roedd y canlyniadau yn gymharol gyda phrojectau Credyd Amser eraill yn ystod eu misoedd cyntaf o fasnachu. Gellid paratoi darn mwy hir-dymor o ymchwil er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth.

● Gall data personol fod yn anodd cael mynediad ato (fel y dylai fod) yn y sector iechyd a byddai cymryd camau i sicrhau bod unrhyw ddata cleifion angenrheidiol ar gael i’w ddadansoddi yn helpu atal rhwystrau yn hwyrach yn ystod y broses.