Gwerthuso rhaglen: Beth rydym ni wedi’i ddysgu hyd yma am Arloesi er mwyn Arbed?

4 September 2020

Sut a pham mae arloesi’n digwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus? Roedd cynhyrchu mwy o waith ymchwil a dealltwriaeth er mwyn ymateb i’r cwestiwn hwn yn un o nodau allweddol Y Lab wrth ddylunio a chyflwyno Arloesi er mwyn Arbed (I2S).  

Evaluating a programme

Mae gwerthuso’r rhaglen hon sy’n cyfuno arian a chymorth yn gyfle unigryw i ddilyn datblygiad rhai o’r syniadau newydd gorau sy’n deillio o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac i archwilio sut mae cronfeydd arloesi yn gweithredu ac yn cefnogi syniadau newydd, ar gyfer pwy a sut.  

Mae’r postiad blog hwn yn amlinellu rhai o’n canfyddiadau hyd yma o ddwy fersiwn gyntaf Arloesi er mwyn Arbed.  Mae’r gwerthusiad yn parhau ac rydym ni’n gobeithio y bydd rhannu ein meddyliau yn y cyfnod hwn yn ddefnyddiol i’r rhai a allai ddymuno ariannu, dylunio neu gyflwyno rhaglen neu gynllun arloesi tebyg neu’r rhai sy’n ystyried ymuno ag Arloesi er mwyn Arbed neu raglen debyg.

Mae Arloesi er mwyn Arbed yn cynnig cyfle i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sicrhau cyllid cyfunedig i greu prototeip a pheilot ar gyfer prosiect arloesi (arian grant), gyda chyfle’n dilyn i roi’r prosiect ar waith ar raddfa (benthyciad di-log).  Yn ogystal â’r mathau hyn o gyllid cyfunedig, cynigir cefnogaeth anariannol bwrpasol hefyd i dimau prosiectau, a allai gynnwys modelu ariannol, mapio rhanddeiliaid a chymorth arbenigol gydag ymchwil a chasglu data. Mae gofyn hefyd bod timau prosiectau sy’n rhan o’r rhaglen Arloesi er mwyn Arbed yn mynychu gweithdai a diwrnodau hyfforddi i gynorthwyo gyda datblygiad eu prosiectau arloesedd a pharatoi adroddiadau ymchwil a chynlluniau busnes (os byddant am wneud cais am fenthyciad).  Mae cefnogaeth barhaus ar gyfer timau prosiect sy’n cyfranogi yn cael ei darparu hefyd trwy gyswllt rheolaidd â thîm cyflwyno’r rhaglen Arloesi er mwyn Arbed. 

Mae tri chyfnod i’r rhaglen Arloesi er mwyn Arbed.  

Yn gyntaf, mae’r rhaglen yn cael cyhoeddusrwydd ac mae ymgysylltiad yn dechrau, yn ail cefnogir timau i ymchwilio a datblygu eu syniadau, ac yn olaf rhoddir prosiectau llwyddiannus ar waith a’u gwerthuso. Er bod y gwaith o werthuso’r rhaglen yn rhychwantu’r tri chyfnod yma, dim ond y ddau gyfnod cyntaf sydd wedi’u gwerthuso hyd yma, gan fod cyfnod tri yn dal i ddigwydd.  Rydym wedi defnyddio dulliau cymysg i werthuso’r rhaglen, ac mae hynny wedi cynnwys casglu data meintiol gan gyfranogwyr y rhaglen trwy e-arolygon (ar amrywiol adegau o’r sylfaen i’r diwedd), yn ogystal â data ansoddol o gyfweliadau lled-strwythuredig. 

Beth rydym ni wedi’i ddysgu hyd yma trwy gyflwyno’r rhaglen Arloesi er mwyn Arbed?

Mae cynnal rhaglen fel Arloesi er mwyn Arbed yn galw am hyblygrwydd a’r gallu i addasu dyluniad a chyflwyniad rhaglen tra’i bod ar waith.  Mae hyn yn cwmpasu dyluniad gwerthuso’r rhaglen, y mae angen iddo ymateb i addasiadau i’r rhaglen.

Yn dilyn adborth a gwerthuso yn sgîl cynnal Arloesi er mwyn Arbed gyda’r garfan gyntaf o gyfranogwyr, cyflwynwyd nifer o newidiadau ar gyfer yr ail garfan, sef:

  • math gwahanol o ddigwyddiadau ymgysylltu a chynyddu ymwybyddiaeth
  • cyfnod ymchwil a datblygu hwy a mwy hyblyg;
  • cynnydd yn lefel yr ariannu sydd ar gael ar gyfer prosiectau mwy; cefnogaeth fwy dwys gyda modelu ariannol

mwy o eglurder i gyfranogwyr y rhaglen ynghylch faint o amser ac adnoddau sy’n angenrheidiol. 

Trwy werthuso parhaus, rydym wedi gallu cynhyrchu canfyddiadau allweddol ynghylch rhwystrau a ffactorau sy’n hwyluso arloesi, megis y berthynas rhwng tîm y rhaglen a thimau’r prosiectau a ‘hyfforddiant’ arloesedd a’i effaith ar feddylfryd pobl.

Rhwystrau a Hwyluswyr 

Caniatâd a chefnogaeth ymarferol

Cefnogaeth ymarferol gan uwch-reolwyr ac argaeledd amser fel ei gilydd yw’r prif rwystrau, yn ogystal â’r ffactorau hwyluso allweddol a brofwyd gan dimau prosiect cyfranogol wrth ymgymryd â’u prosiectau arloesi.  Er gwaethaf rhoi sicrwydd y byddai cefnogaeth ar y cychwyn, nid oedd uwch-reolwyr bob amser yn darparu cefnogaeth ymarferol nac ymrwymiad digonol.  Yn yr un modd, hyd yn oed pan gâi amser y prosiect ei ‘brynu allan’, ni fyddai hynny bob amser yn golygu bod amser y prosiect wedi’i neilltuo’n benodol.  Mae’r rhain yn agweddau pwysig y mae angen rhoi sylw iddynt a darparu tystiolaeth glir yn eu cylch ar ffurf cefnogaeth ysgrifenedig cyn y broses gymeradwyo ariannol.  Roedd heriau ychwanegol yn ymwneud â diwylliant sefydliadol, o ran ofn methiant ac amharodrwydd i gymryd risgiau.

Perthnasoedd

Y tu hwnt i agweddau technegol y rhaglen, mae’r rhyngweithio o ran timau’r rhaglen a thimau’r prosiect hefyd yn bwysig.  Roedd perthynas agos ac ymddiriedaeth rhwng timau’r rhaglen a’r prosiect yn ffactor cadarnhaol pwysig wrth ysgogi a chynnal y broses.  Mae modd lliniaru gofynion bod yn rhan o’r rhaglen trwy deimlad o rannu nodau a darparu arbenigedd allanol i dimau’r prosiect.  Ar ben hynny, gall cyfranogi mewn rhaglen arloesi gynyddu cyfreithlondeb, neu statws y prosiect, ac o bosib hwyluso’r broses o wneud yr arloesi.

Hyfforddiant a meddylfryd arloesi

Gall y profiad o gyfranogi mewn rhaglen arloesi fel Arloesi er mwyn Arbed newid sut mae cyfranogwyr y rhaglen yn meddwl ac yn siarad am roi arloesedd ar waith.  Yn gyffredinol, teimlai pobl yn teimlo’n hyderus y gallent arloesi ymhellach oherwydd eu bod wedi cael yr offer a’r hyder i asesu, arbrofi, dadlau eu hachos a chynnal prosiect mewn modd a fuasai’n amhosibl iddynt cyn cychwyn ar y rhaglen.  Mae agweddau ar y broses arloesi, megis cyfnewid gwybodaeth a sgiliau, yn ddeilliannau pwysig i gyfranogi yn y rhaglen.  Er bod mesur effaith y prosesau hyn yn y tymor byr yn anodd, mae potensial i gymhwyso meddylfryd arloesi a gwybodaeth a sgiliau newydd yn y dyfodol er mwyn creu gwerth neu fudd i ymarferwyr unigol, sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ac aelodau’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.