Her Sbrint HARP COVID-19 Adroddiad

Sut gallai’r celfyddydau gefnogi pobl sy’n byw drwy’r cyfyngiadau symud? Sut y gellid gwella mynediad at ymyriadau celfyddydol? Nod ein her sbrint oedd ceisio gwella ein gwybodaeth i gefnogi mwy o bobl yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â’r hyn a wnaethom – Her Sprint HARP COVID-19 – a’r hyn a ddysgom. 

Yn y Sbrint, daethom â thîm o 12 o weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau ac iechyd ledled Cymru at ei gilydd, drwy weminarau wythnosol ar Zoom, i arloesi’n gyflym er mwyn cefnogi’n greadigol grwpiau o bobl y nodwyd eu bod wedi dioddef yn arbennig yn ystod y cyfyngiadau symud, heb i unrhyw un ohonom adael ein cartrefi.  Creodd a lluniodd y tîm anhygoel brofiadau newydd, gwaith celf newydd, gwefannau newydd, llwyfannau newydd. Gwnaethant ysbrydoli pobl roedd angen cymorth arnynt i gymryd perchnogaeth o’u hamser a’u creadigrwydd eu hunain, i roi cynnig ar rywbeth newydd, i fwynhau eu hunain – ac i deimlo’n well.