Llety Cymunedol

Fe welodd FABRIC fod angen llety ‘cam i lawr’ ar bobl ifanc oedd yn byw dan ofal neu oedd yn y cyfnod pontio allan o ofal.

Ymchwil a Datblygu: FABRIC

Grant a Ddyfarnwyd: £15,000

Cyfnod Cyfredol: Gweithredu

Ers 2016, mae FABRIC (sydd yn sefyll am Facilitating Aspirations, Building Resilience and Inspiring Change) wedi cynnig cymorth a chefnogaeth a llety rhannol annibynnol i bobl ifanc sydd naill ai yn blant dan ofal neu’n gadael gofal yn Abertawe.

Mae FABRIC yn rhoi cymorth i’r bobl ifanc yma ar eu taith tuag at annibyniaeth drwy eu helpu i ddatblygu medrau byw, cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, a mynd i’r afael ag unrhyw faes perthynol arall o’u bywydau.

Y Syniad

Fe welodd FABRIC fod angen llety ‘cam i lawr’ ar bobl ifanc oedd yn byw dan ofal neu oedd yn y cyfnod pontio allan o ofal. Yn hytrach na chael eu hyrddio allan o leoliad fel llety lle ceir cefnogaeth i fyw yn annibynnol, ceisioddd FABRIC ddarparu pont rhwng y ddau, gan gynnig cartrefi wedi’u rhentu fyddai hefyd yn ymgorffori rhai o’r strwythurau cynnal a gynigir gan lety FABRIC lle ceir cefnogaeth.

Fel rhan o’u llety, byddai pobl ifanc yn cael cymorth gyda phethau fel deal biliau a threth y cyngor, chwilota cyfleodd hyfforddiant a chyflogaeth a phontio llwyddiannus i fywyd oedolyn.

Rhagdybiwyd byddai gwella’r ffyrdd allan o’r ddarpariaeth gyfredol lle mae’r nifer o lefydd yn gyfyng yn gwella’r llif o bobl ifanc mewn i ddarpariaeth FABRIC lle ceir llety â chymorth llawn, gydag arbedion potensial i’r Awdurdod Lleol o hyd at £2,497 yr wythnos lle nad oedd gofyn am lety ar frys.

Beth Ddigwyddodd

O dan gyfnod Ymchwil a Datblygu Arloesi i Arbed, fe wnaeth FABRIC ddefnyddio dau eiddo wedi’u rhentu er mwyn profi dichonoldeb eu syniad darpariaeth ‘cam i lawr’. Defnyddiwyd yr eiddo hwn er mwyn galluogi pobl ifanc i symud allan o lety â chymorth llawn ac mewn i’w heiddo eu hunain. Golygai byw gyda’i gilydd bod pobl ifanc yn gallu cefnogi ei gilydd wrth iddyn nhw ddechrau eu taith i ennill medrau cyn byw yn annibynnol yn ychwanegol i’r cymorth mae FABRIC yn ei ddarparu.

Cadarnhaodd y sesiynau ymchwil a datblygu gyda’r bobl ifanc o dan ofal FABRIC bod y llwybrau sydd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd iddyn nhw yn methu cynnig cynllun clir iddyn nhw i bontio tuag at annibyniaeth yn llwyddianus. 

Dangosodd eu gwaith ymchwil a datblygu fod yna gyfle unigryw i FABRIC ddarparu’r llwybr yma oherwydd bod y bobl ifanc sydd yn defnyddio’r gwasanaeth yn ymddiried yn llwyr yn y mudiad a’i weithwyr ac yn mwynhau perthynas waith cryf gyda nhw.

Yn ystod cyfnod ymchwil a datblygu Arloesi i Arbed, diwygiwyd y strwythurau staffio a swyddogaethau swydd gan FABRIC, er mwyn eu caniatáu i ymateb yn well i’r heriau ddaethon nhw ar eu traws wrth ddatblygu eu model ‘cam i lawr’.

Mewnwelediadau

●   Llesteiriwyd peth o’r cynnydd yng ngwaith ymchwil FABRIC gan ddiffyg argaeledd data. Mae’n hanfodol sicrhau bod yna systemau gwydn mewn lle i sicrhau fod y cofnodion a gaiff eu cadw yn ddigonol i gefnogi unrhyw gyfleoedd ymchwil a gaiff eu cynllunio neu a allai gymryd lle yn y dyfodol.

●   Mae gwaith FABRIC yn arddangos yr angen i ddisgwyl yr annisgwyl pan ddaw hi i ymgymryd ag ymchwil a datblygiad. Roedd yr amserlen yn heriol i FABRIC gan fod problemau cynnal a chadw annisgwyl wedi codi gyda’r eiddo Llety Cymunedol a rentwyd.

●   Weithiau, bydd projectau yn cymryd mudiadau ar deithiau annisgwyl. Dangosodd profiad FABRIC gydag Arloesi i Arbed fod yna angen ac fe roddodd hyn y gofod iddyn nhw ailfeddwl ac ailddyfeisio eu strwythur a swyddogaethau staffio.

Beth Sydd Nesaf?

Mae FABRIC wedi datblygu achos busnes i gynyddu ei ddarpariaeth llety cam i lawr, ar raddfa fwy, ar gyfer pobl ifanc sydd yn gadael gofal yn Abertawe.

Image: Christian Stahl on Unsplash