Profi Arloesi ar gyfer Cymunedau Bywiog

Mae prosiect Leonard Cheshire oedd grymuso pobl anabl i ddefnyddio eu cyllideb gofal cymdeithasol a thaliadau uniongyrchol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw, creu mwy o gyfleoedd i gymdeithasu a dod yn rhan o’r gymuned.

Leonard Cheshire

Grant a Ddyfarnwyd: £15,000

Cyfnod Cyfredol: Gweithredu

Mae Leonard Cheshire yn cynnig gofal ymarferol a chefnogaeth bersonol i bobl anabl. Ymhlith y gwasanaethau a gaiff eu cynnig ganddo mae cartrefi gofal, byw â chymorth, gwasanaethau yn ystod y dydd, gofal seibiant a chymorth personol. Mae Leonard Cheshire yn gweithio gyda phobl o bob oed a mathau o anableddau, ac yn eu cefnogi i fyw yn annibynnol a chyfrannu’n economaidd a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas. 

Ymgorfforir ymagwedd gan Leonard Cheshire sydd yn canolbwyntio ar y person. Golyga hyn bod anghenion a gofynion y bobl mae’n ceisio ei gefnogi yn ganolog i’w ddatblygiad a chyflenwad y gwasanaeth. Mae ganddyn nhw 15 swyddfa wedi’u lleoli mewn cymunedau ar draws Cymru.

Y Syniad

Gwnaed cais gan Leonard Cheshire i Arloesi i Arbed i gael profi eu project o’r enw Arloesi ar gyfer Cymunedau Bywiog. Eu bwriad oedd grymuso pobl anabl i ddefnyddio eu cyllideb gofal cymdeithasol a thaliadau uniongyrchol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw, creu mwy o gyfleoedd i gymdeithasu a dod yn rhan o’r gymuned. Yn rhan o’r syniad oedd cynnig offer arfaethedig ar gyfer y we fyddai’n cysylltu’r sawl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr un gweithgaredd – er enghraifft, taith i’r sinema neu’r dafarn, neu sesiwn nofio. Gallai’r gweithgaredd hon gael ei asesu ar gyfer y gefnogaeth a’r cydlyniad priodol er mwyn ei redeg yn effeithiol.

Mae cefnogaeth wyneb yn wyneb yn gostus ac yn aml, bydd yn cael ei gynnal ar yr un adeg bob wythnos. Drwy gyfuno gweithgareddau gan gynnwys Arloesi ar gyfer Cymunedau Bywiog, mwy o hyblygrwydd a chyfleoedd a phosibilrwydd i bobl gael eu cefnogi gan Leonard Cheshire. Yn fwy na hynny, byddai cydlynu’r system yn effeithiol yn lleihau canran yr oriau wyneb yn wyneb a gaiff eu cynnig bob wythnos, gan greu arbedion ar gyfer yr Awdurdod Lleol. 


Ochr yn ochr ag arbedion, roedd gan Arloesi ar gyfer Cymunedau Bywiog y potensial i gynyddu’r dewis a rheolaeth sydd gan bobl anabl a galluogi cysylltiadau cymdeithasol a mwy o ymglymiad gyda chymunedau lleol.

Beth Ddigwyddodd

Gweithiodd Leonard Cheshire gyda 35 unigolyn yn Ynys Môn dros gyfnod o 7 mis i brofi a oedd Arloesi ar gyfer Cymunedau Bywiog yn ffordd effeithiol o wella gwasanaethau ar gyfer pobl anabl a ph’un a allai’r arbedion a rhagdybiwyd gael eu cyflawni.

Fe wnaethon nhw ganfod y gellid lleihau’r nifer o oriau wyneb yn wyneb oedd eu hangen drwy wella hygyrchedd at wasanaethau a gweithgareddau cymunedol, a thrwy hynny amlygu arbedion potensial o £160,000.


Canfu Leonard Cheshire hefyd bod Arloesi ar gyfer Cymunedau Bywiog, wedi cynyddu lles y bobl a gymerodd rhan yn y peilot. Dywedodd un o drigolion Ynys Môn, “Mae hyn wedi bod yn hwb i fy hyder ac wedi agor mwy o gyfleoedd i fi.”

Mewnwelediadau

● Mae cael perthynas gref ac ymrwymiad gan yr Awdurdod Lleol yn allweddol er mwyn gweithredu newidiadau i’r ffordd caiff gwasanaethau eu cyflenwi. 

● Mae hi’n cymryd mwy o amser nac y byddech yn ei gredu i sefydlu a rhedeg gweithgareddau newydd sydd yn hygyrch i bawb. 

● Gall cael mynediad at ddata fod yn faen tramgwydd. Yn ddealladwy, mae Awdurdodau Lleol yn ofalus dros ben ynglŷn â rhannu data sensitif gyda mudiadau eraill, felly mae’n hanfodol bwysig i sicrhau bod cytundebau rhannu data wedi eu paratoi a’u sefydlu yn gynnar.  

Beth Sydd Nesaf?


O ganlyniad i’w Hymchwil a’u Datblygiad, fe wnaeth Leonard Cheshire wneud cais am Gyfnod Gweithredu Arloesi i Arbed, ochr yn ochr â benthyciad o £1 miliwn i ledu Arloesi ar gyfer Cymunedau Bywiog ar draws Cymru.