Rhedeg cynllun peilot o fodel buddsoddiad cymdeithasol cynaliadwy

Chwilotodd Llamau i hyfywdra math newydd o fodel ariannu er mwyn sicrhau bod elusennau, sy’n llesol i’r sector gyhoeddus.

Llamau

Grant a Ddyfarnwyd: £15,000

Cyfnod Cyfredol: Gweithredu

Elusen Gymreig yw Llamau sydd ag enw am ddarparu gwasanaethau arloesol, creadigol ac o ansawdd uchel, gyda’r bwriad o ddod â digartrefedd i ben ymhlith pobl ifanc a menywod, gan ddarparu llety diogel a galluogi pobl i symud ymlaen gyda’u bywydau.

Y Syniad

Yn aml bydd projectau sydd yn cael eu rhedeg gan y trydydd sector yn ei chael hi’n anodd ariannu eu gwaith mewn nod cynaliadwy, er hynny mae nifer ohonyn nhw yn cynhyrchu (neu fod gyda nhw’r potensial i gynhyrchu) arbedion sylweddol ar gyfer ystod o gyrff cyhoeddus. 

Gan ddefnyddio deilliannau eu prosiect Symud Ymlaen Moving Forward (SYMF), yn sylfaen, cynhaliwyd ymchwil gan Llamau i ddarganfod yr arbedion a wnaed i adrannau’r llywodraeth a dadlau’r achos i’w hail-fuddsoddi i’r drydedd sector.

Beth Ddigwyddodd 

Chwilotodd Llamau i hyfywdra math newydd o fodel ariannu er mwyn sicrhau bod elusennau, sy’n llesol i’r sector gyhoeddus, cael eu hariannu’n fwy cynaliadwy ac yn decach. 

Drwy ail-fuddsoddi‘r arbedion a gynhyrchir gan sefydliadau elusennol a thrydydd sector ‘nôl mewn i’r sector hwnnw, gellid cyflawni deilliannau hirach-dymor ar gyfer y bobl. Ar yr un pryd, mae’r drydedd sector yn ennill sicrwydd i barhau i gyflenwi gwasanaethau o ansawdd uchel. 

Datblygwyd a phrofwyd y model ariannu yn benodol gan Llamau gyda’i broject Symud Ymlaen Moving Forward (SYMF) sydd yn gweithio gyda phobl ifanc oed 16-18, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, neu sydd yn gadael gofal a’r sawl sydd yn adnabyddus i’r System Cyfiawnder Ieuenctid.  

Llwyddodd Llamau i fesur arbedion a wnaed i’r sector gyhoeddus, ond cyfyng iawn yw’r ddealltwriaeth o’r llwybr i adhawlio’r arbedion. Cafwyd heriau wrth weithio o fewn gweinyddiaeth ddatganoledig gan fod rhai o’r arbedion a gynhyrchwyd i’r sector cyhoeddus heb eu datganoli.

Datblygwyd model buddsoddiad cymdeithasol Llamau ar y sail gellir arbedion ariannol eu cael a’u hailgylchu drwy gytundebau rhannu-elw neu contractau sydd yn seiliedig ar canlyniadau. Er mwyn gweithredu’r project ar raddfa briodol, byddai angen i Llamau sicrhau trefniant gyda sefydliadau sector cyhoeddus i ddychwelyd yr arbedion a wnaed gan waith Llamau gyda phobl ifanc.

Mewnwelediadau

● Mae angen ystod fawr o fedrau ar dimoedd gwych, ac mae’r broses o gydweithio yn galluogi pobl ifanc i roi cymysgedd o fedrau ar waith sydd yn mynd tu hwnt i allu un person, a’i helpu i gydlynu gweithgareddau tuag at nod cyffredin mwy. Profodd Llamau beth oedi ar ddechrau eu project o ganlyniad i anawsterau a gafwyd wrth geisio cyflogi person gyda’r gallu i ymchwilio a datblygu eu model ariannu amgen. 

● Mae cael y bobl iawn i gyfranogi ar yr adeg iawn yn hanfodol i lwyddiant unrhyw broject. Nawr bod gan Llamau brawf o’r cysyniad, mae angen iddyn nhw sicrhau bod y budd-ddeiliaid cywir yn rhannu’r un weledigaeth er mwyn er mwyn sicrhau bod yr arbedion a gynhyrchwyd gan eu gwaith yn cael ei ail-fuddsoddi.

Beth Sydd Nesaf?

Fe wnaeth Llamau gynhyrchu achos busnes er mwyn symud eu project ymlaen i’r cyfnod gweithredu fel rhan o Arloesi er mwyn Arbed ac maen nhw nawr yn cynnal trafodaethau gyda mudiadau sector cyhoeddus er mwyn cynnal rhaglen beilot wedi’i ariannu o’r model hwn.