Astudiaeth Achos: Tagio Lliain – Golchdy Ysbyty Green Vale

Golchdy Green Vale ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw golchdy mwyaf y GIG yng Nghymru. Mae’n glanhau ac yn diheintio 11 miliwn o ddarnau o liain ysbyty ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn ogystal â phedwar arall yng Nghymru.

 Y syniad:

Nid oedd yr ysbytai a’r Byrddau Iechyd a weithiai gyda Green Vale yn gwybod faint o flancedi, casys gobennydd, sgrybs a mathau eraill o liain roedden nhw’n berchen arnyn nhw. Roedd yn amlwg bod canran yn mynd ar goll bob blwyddyn, amcangyfrifir o tua £400,000, ond nid oedd yn glir i ble roedden nhw’n mynd.

Drwy osod tagiau Adnabod Amledd Radio (RFID) ar liain, gellir olrhain eitemau wrth iddyn nhw gyrraedd a gadael y golchdy. Roedd codau unigryw yn golygu y gellid olrhain cyflwr a chylch bywyd pob eitem. Gallai sganwyr llaw ddod o hyd i stoc a gollwyd ar y safle mewn ysbytai. Roedd gwybodaeth glir yn golygu tryloywder rhwng y golchdy a’u cleientiaid o fewn y GIG.

Beth ddigwyddodd?

Mae tagiau RFID yn dechnoleg sydd wedi ennill ei phlwyf, sy’n gyfarwydd i siopwyr mewn siopau dillad, ond am amser hir nid oedd yn economaidd i’w defnyddio i olrhain eitemau cymharol rad. Ond wrth i’w prisiau ostwng dechreuodd Green Vale edrych arno fel posibilrwydd.

Roedden nhw hefyd wedi dod yn fwy gwydn. Mae lliain ysbytai yn cadw gwres yn dda, wedi’u gwasgu, eu nyddu, eu llyfnhau a’u cynhesu eto hyd at 600 gwaith drwy gydol cylch eu bywyd. Dangosodd prawf y gallen nhw, a’r patshys wedi’u selio â gwres a oedd yn eu cysylltu, wrthsefyll y driniaeth honno.

Roedd benthyciad £500,000 o raglen Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi’i ad-dalu drwy arbedion, yn golygu y gallai Green Vale osod tagiau ar hanner miliwn o ddarnau o liain dros dair blynedd. Roedd hyn yn gyfle i roi’r syniad ar waith o fewn y sector preifat nad oedd eisiau buddsoddi mewn ôl-osod.

Roedd yn rhaid perswadio cleientiaid, ac roedd hynny’n frwydr. Pe bai Bwrdd Iechyd yn colli lliain, yna byddai’n rhaid talu am un arall, yn hytrach na’r golchdy’n ysgwyddo’r gost fel oedd yn digwydd. Roedd achos positif i’w wneud (gallai tryloywder leihau costau amnewid), ond roedd yn anodd argyhoeddi cleientiaid.

Ar ôl ychydig flynyddoedd, gwelwyd gostyngiad o £120,000 y flwyddyn yn eu costau wrth i gleientiaid ddechrau deall goblygiadau cost pentyrru a thaflu stoc lliain. Cam nesaf y prosiect yw dylanwadu ar newid ymddygiad ar lefel ward drwy ddefnyddio sganwyr llaw. Mae’r syniad bellach yn cael ei ddefnyddio gan olchdai masnachol ledled y DU ac mae GIG yr Alban wedi ei fabwysiadu ar gyfer eu holl olchdai.

Cipolwg

  • Gall costau ymlaen llaw rwystro cyrff cyhoeddus rhag ymgymryd â phrosiectau sydd â buddion ac arbedion cyhoeddus. Gall rhaglen fel Buddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed helpu i gychwyn prosiectau fel hyn.
  • Gall cyrff gwladol gymryd risgiau na all y sector preifat eu cyfiawnhau, gan wthio arloesedd ymlaen ac agor marchnadoedd newydd.
  • Gall dibynnu ar bartneriaid heb gael ymrwymiad ganddyn nhw arwain at risgiau diangen. Gall sicrhau cefnogaeth glir yn gynnar yn y broses helpu i wella’r prosiect.