Lansiwyd Arloesi i Arbed yn 2017 i ganfod a chefnogi syniadau newydd a oedd yn gwella gwasanaethau ac yn gwneud arbedion ariannol.
Arloesi er mwyn Arbed
Ynghyd â’n partneriaid, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), rydym wedi cefnogi pymtheg o brosiectau drwy ymchwil a datblygu.
Rydym wedi cymeradwyo pedwar benthyciad di-log werth £2.8 miliwn ar gyfer y prosiectau hyn. Gall y prosiectau uwchraddio a chyrraedd rhagor o bobl gyda’u gwasanaethau gwell.
Mae Arloesi er mwyn Arbed yn rhaglen ariannol cyfunol sy’n cyfuno cefnogaeth nad yw’n ariannol, cyllid grant a chyllid benthyciadau di-log i helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus.
Nid oedd Arloesi er mwyn Arbed yn rhywbeth oedd yn ein cylch gwaith arferol, felly rwy’n falch ein bod wedi cymryd y cam hwnnw.
Jill Jones, Cyngor Fflint
Rydym wedi rhoi £270,000 mewn grantiau wrth gefnogi prosiectau i brofi a datblygu eu syniadau. Mae pedwar o’r pymtheg wedi cael cymeradwyaeth am £2.8 miliwn o gyllid benthyciad di-log i uwchraddio eu gwaith a chyrraedd rhagor o bobl.