Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022 cynhaliodd Y Lab a Chanlyniadau Pŵer Pobl Nesta ymchwil gyda 70 o bobl o bob rhan o faes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Fe ddysgon ni fod:
- pobl eisiau newid ac yn meddwl ei fod yn angenrheidiol.
- ond mae’r system yn creu anghydraddoldeb: nid yw pawb yn cael yr un cyfle i arloesi yng Nghymru.
- maent am i waith gael ei wneud ar y system i liniaru pwysau a hefyd i roi cymhelliant iddynt sicrhau canlyniadau gwell.
Nod yr ymchwil oedd nodi ffyrdd y gall Gofal Cymdeithasol Cymru gefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol yn well. Gwnaethom ei chynllunio a’i chyflwyno i fod yn sensitif i gymhlethdod y system gofal cymdeithasol, defnyddio fframweithiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a gweithio’n gyson gyda rhanddeiliaid allweddol. Hyd yn oed cyn i’r prosiect ddod i ben, dylanwadodd yr ymchwil defnyddwyr yn uniongyrchol ar ddyheadau, buddsoddiad a chamau gweithredu’r sector.
Amcanion allweddol y prosiect oedd:
- rhoi dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r rhwystrau o ran arloesedd yng Nghymru drwy weithio gydag ystod eang o bobl, gan gynnwys: llunwyr polisïau, staff rheng flaen, eiriolwyr, pobl â phrofiad o lygad y ffynnon, a’r rhai sydd â phrofiad o arloesi
- helpu Gofal Cymdeithasol Cymru i nodi rhanddeiliaid allweddol a datblygu cynllun gweithredu i gefnogi arloesedd lle bo angen;
- datblygu personâu sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fod yn fodd o gyfathrebu gyda’r sector cyhoeddus ehangach.
Nododd ein hymchwil 3 Maes Gweithredu allweddol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi arloesedd a 6 Maes Her — pwyntiau ffrithiant cylchol sy’n mygu arloesedd mewn gofal cymdeithasol, a 10 Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Gofal Cymdeithasol. Edrychwch ar yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am ganfyddiadau ac allbynnau ein hymchwil.
Available Downloads
Crynodeb Gweithredol, Adroddiad Terfynol a Tri Gorwel
Personas Ar gael YMA
Os yw’n well gennych, gwyliwch ein cyflwyniad 50 munud ar gyfer Ysgol Haf DPP Rithwir 2022 Prifysgol Caerdydd.
Mae’r cyflwyniad cyfan yn cael ei isdeitlo yn y Gymraeg, o 2’50 ar ôl fideo rhagarweiniol yr Ysgol Haf.