Infuse: Gwasanaethau Arloesol Y Dyfodol

Rhaglen arloesi ac ymchwil yw Infuse sydd wedi’i chynllunio i feithrin sgiliau a gallu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus arloesol yn y dyfodol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae InFuSe (sy’n sefyll am Innovative Future Services) yn rhaglen werth £5.6 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i gael mynediad at sgiliau, dulliau ac adnoddau newydd sy’n gwella eu gallu i arloesi.

Mae’r rhaglen yn bartneriaeth dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy gyda Phrifysgol Caerdydd, Nesta ac Y Lab ac wedi’i hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Cynhwysedd Sefydliadol Swyddfa Gyllido Cymru (WEFO) gyda chyllid cyfatebol gan y deg awdurdod lleol a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Wedi’i wreiddio mewn heriau bywyd go iawn, bydd y rhaglen dair blynedd hon yn nodi ac yn gweithio ar y cyd i fynd i’r afael â dau faes thematig sydd o bwys mawr i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd; Datgarboneiddio a Thrawsnewid Cymunedau.

Cyflwynir y rhaglen trwy dri ‘Lab’ sydd â ffrydiau gwaith penodol:

  • Y Lab Addasu – Yn rhedeg am chwe wythnos, bydd cyfranogwyr yn cael gwybodaeth ac offer i’w helpu i ddeall sut i fabwysiadu neu addasu arloesiadau yn llwyddiannus i weddu i’w cyd-destun a’u hanghenion.
  • Y Lab Data – Yn rhedeg am chwe wythnos, bydd cyfranogwyr yn cael offer i’w helpu i ofyn ‘cwestiynau data da’ mewn perthynas â’r ddwy thema Infuse. Byddwn yn ymdrin â phwysigrwydd moeseg data, y gwahanol fathau o ddata a sut y gall y rhain helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau, a chyflwyno cyfranogwyr i’r hyn sy’n bosibl trwy gymhwyso technegau gwyddor data.
  • Y Labordy Caffael – Yn rhedeg am chwe wythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gynyddu effaith gwariant cyhoeddus i’r eithaf i gyflawni eu nodau strategol ehangach. Bydd y labordy yn darparu offer a thechnegau, y gellir eu defnyddio gan unrhyw un mewn sefydliad, i sicrhau bod y ‘gwerth’ mwyaf yn cael ei gyflawni wrth gomisiynu, neu brynu nwyddau a gwasanaethau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â Infuse@monmouthshire.gov.uk

https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/infuse