Astudiaeth Achos: Cydleoli i gyflawni gwell canlyniadau iechyd a lles 

Mae canolfan iechyd Conwy yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), a fu’n gweithio’n agos â’i gilydd i wella’r modd y mae cyflyrau iechyd cronig yn cael eu rheoli.  

Y syniad: 

Fel rheol, mae trin cyflyrau iechyd cronig wedi canolbwyntio ar ymyriadau meddygol sy’n ceisio lleihau effaith poen neu anghysur pobl. Mae nifer o ddamcaniaethau ac astudiaethau sy’n canmol effeithiau cadarnhaol gweithgarwch corfforol ar ystod eang o glefydau cronig, iechyd meddwl, yn ogystal ag iechyd corfforol. Roedd y Ganolfan Iechyd am roi’r damcaniaethau hyn ar brawf trwy integreiddio gweithgarwch corfforol i’r gwasanaeth iechyd a dad-feddygoli’r ffordd y mae’r gwasanaeth iechyd yn trin cyflyrau iechyd cronig, gan weithio’n agos gyda gwasanaethau hamdden yr awdurdod lleol. 

Beth ddigwyddodd? 

Wrth archwilio’r posibiliadau ar gyfer datblygu eu cyfleusterau hamdden, mynychodd aelod o staff gyfarfod amlddisgyblaethol, lle darganfu fod y tîm gofal cyfryngol yn gweithio mewn gofod bach iawn yn yr ysbyty, a’u bod yn ysu am fwy o le. Sbardunodd hyn syniad i roi lle i’r tîm mewn gofod a oedd wedi’i ailgynllunio mewn canolfan hamdden yng Nghonwy. Ar ôl datblygu’r syniad, a chydweithio agos rhwng yr adran hamdden a’r gwasanaethau iechyd, symudodd y tîm cyfryngol, gan gynnwys ffisiotherapyddion a gweithwyr iechyd galwedigaethol, i’r ganolfan hamdden i weithio gyda’i gilydd.  

O ganlyniad i’r cydleoli hwn ac arferion gweithio agosach, mae’r timau bellach yn darparu llwybrau a rhaglenni gweithgarwch corfforaethol yn amgylchedd y ganolfan hamdden ar y cyd â staff iechyd a hamdden. Mae hyn yn golygu bod triniaeth wedi’i dad-feddygoli, a bod llwybr cynaliadwy ar gyfer cleifion y mae angen triniaeth arnynt. Gan fod bron pob un o’r gwasanaethau adfer yn cael eu darparu mewn gwahanol rannau o’r ganolfan iechyd, mae cleifion yn dod yn gyfforddus ag amgylchedd y ganolfan hamdden, a gallant symud ar hyd llwybr adfer o gymorth meddygol arbenigol un-i-un i ddosbarthiadau neu gynlluniau hyfforddi unigol o fewn y cyfleusterau hamdden. Mae gweithwyr iechyd a hamdden proffesiynol hefyd yn gallu rhannu arbenigedd ac offer, sy’n caniatáu mynediad i amrywiaeth eang o gyfleusterau iechyd ac yn galluogi cleifion risg uwch ag anghenion ychwanegol i gael eu cefnogi. 

Mewnwelediadau 

  • Gall cydleoli gwasanaethau sy’n ceisio cyflawni nodau tebyg wella canlyniadau i gleifion, arbed arian a gwella dysgu rhwng y gwahanol sefydliadau. 
  • Gall darparu dull llwybr un safle wella canlyniadau i gleifion sydd ond angen ymweld ag un lle ar gyfer triniaeth ac adsefydlu parhaus. 
  • Nid yw pob datblygiad arloesol yn cael ei gynllunio, ac mae rhai o’r datblygiadau arloesi gorau yn deillio o gyfarfodydd ar hap a phenderfyniad i wella gwasanaethau. 
  • Gall costau ymlaen llaw beri i gyrff cyhoeddus beidio ag ymgymryd â phrosiectau sydd â budd ac arbedion i’r cyhoedd. Gall rhaglenni megis Buddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed helpu i roi hwb i brosiectau fel hyn. 
  • Gall dod â setiau amrywiol o arbenigedd ynghyd o amgylch nodau a rennir gyfoethogi syniadau ac esgor ar ystodau ehangach o fuddion – yn ogystal â chaniatáu cyllid cyfun.