Astudiaeth Achos: Schoop – Newid y berthynas rhwng ysgolion a rhieni 

Mae Schoop yn ap ymgysylltu sy’n ceisio newid y berthynas rhwng ysgolion a rhieni.  
  

Y syniad: 

Mae angen i ysgolion gyfathrebu â rhieni mewn ffordd hawdd, effeithlon, ac effeithiol. Yn aml, defnyddir cyfuniad o e-byst, negeseuon testun, cyfryngau cymdeithasol, grwpiau Google, gwefannau, a llythyrau, a gall rhieni ei chael hi’n anodd gwybod lle i chwilio am wybodaeth. Mae’n gallu cymryd llawer o amser i ysgolion ddiweddaru sawl platfform. Hefyd, mae llawer o rieni y mae’n anodd ymgysylltu â hwy, ac efallai na fyddant byth am droedio y tu mewn i ffiniau’r ysgol. Mae gan rai rhieni Saesneg fel iaith ychwanegol; efallai bod rhai mor brysur oherwydd ystyriaethau gwaith neu fywyd gartref; efallai bod rhai rhieni wedi cael profiad gwael yn yr ysgol pan oeddent yn blant eu hunain, a’u bod yn amharod i ymwneud ag amgylchedd yr ysgol o gwbl. 

Archwiliodd datblygwr yng Nghymru y posibilrwydd o gynhyrchu ap a allai helpu i wella ymgysylltiad â rhieni. Fodd bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar wybodaeth weinyddol yn unig, esblygodd Schoop i helpu ysgolion i gynyddu sut maent yn cyfathrebu â rhieni, a’u hannog i gymryd mwy o ran yn addysg eu plant. 

  

Beth ddigwyddodd? 

Datblygwyd yr ap drwy weithio gyda rhieni, ysgolion ac arbenigwyr academaidd. Arweiniodd hyn at declyn amlieithog sy’n rhoi llinell gyfathrebu uniongyrchol i ysgolion â rhieni. Mae rhieni’n cofrestru’n uniongyrchol ar ap Schoop gan ddefnyddio cod sy’n benodol i’w hysgol, ac yna’n dewis y grwpiau (neu’r sgyrsiau) sy’n gysylltiedig â’u plant, sy’n sicrhau bod yr holl wybodaeth maent yn ei chael yn berthnasol. Gan ddefnyddio negeseuon a hysbysiadau gwthio, mae rhybuddion pwysig, digwyddiadau’r ysgol, newyddlenni, llythyrau a ffurflenni caniatâd yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i gledr llaw’r rhiant.  

Nid data gweinyddol yr ysgol yn unig yw’r wybodaeth hon, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i rieni ymgysylltu â’r gwaith y mae eu plant wedi bod yn ei wneud y diwrnod hwnnw. Gellir anfon awgrymiadau at rieni, neu gwestiynau iddynt ofyn i’w plant am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud y diwrnod hwnnw a allai fod o ddiddordeb i’r rheini, ond maent hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu â phlant a dangos eich bod yn rhannu diddordeb yn yr hyn maent wedi bod yn ei ddysgu. 

Yn bwysig, mae Schoop yn rhoi’r gallu i bobl ymgysylltu ar hyd braich, oherwydd ei fod yn cyfiethu gwybodaeth, a bydd hefyd yn siarad â rhieni yn eu hiaith os oes ganddynt unrhyw anawsterau llythrennedd. Fe’i cynlluniwyd i wneud bywydau athrawon yn haws, yn ogystal â meithrin perthnasoedd mwy effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref. 

  

Mewnwelediadau 

  • Mae’r sector preifat yn gallu dod o hyd i atebion arloesol i faterion y mae’r sector cyhoeddus yn eu hwynebu. 
  • Gall ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio cynnyrch wella’r cynnyrch terfynol yn sylweddol. 

Llun: Llun gan Nicole Honeywill ar Unsplash