Astudiaeth Achos: Twyni Tywod Abertawe – Ateb sy’n seiliedig ar natur 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gorff datganoledig sy’n gyfrifol am gynnal amgylched ac adnoddau Cymru mewn ffordd gynaliadwy. 
  

Y syniad: 

Roedd lefelau tywod yn codi ym Maes Abertawe, ynghyd â gwyntoedd cryf oddi ar y môr, yn golygu bod rhaid clirio ffordd lan môr yn rheolaidd. Roedd Cyngor Abertawe yn gwario degau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn yn ysgubo’r ffordd yn glir. Cafwyd costau gwaredu, hefyd, gan fod halogiad â malurion ffyrdd yn golygu bod rhaid i’r tywod fynd i safleoedd tirlenwi, yn hytrach na chael ei ddychwelyd i’r traeth. Roedd y tywod yn gwneud promenâd a llwybr beicio glan môr yn beryglus. 

Awgrymodd Cyfoeth Naturiol Cymru annog system twyni tywod i ffurfio.  Byddai hyn yn sefydlogi’r tywod a chyfrannu at yr amgylchedd lleol. 

  

Beth ddigwyddodd? 

Yn rhan o’r gofynion newydd i ymgynghori ynghylch cynlluniau ar gyfer dalgylchoedd afonydd Cymru, cynhaliodd CNC ymgynghoriad eang iawn â thrigolion a busnesau o amgylch afon Tawe. Daeth y broblem gyda’r tywod yn cael ei chwythu i’r amlwg yn sgil yr ymgynghoriad hwn. Roedd CNC yn cydnabod bod modd iddynt ddefnyddio hyn fel cyfle i dynnu sylw at botensial atebion sy’n seiliedig ar natur, yn hytrach na seilwaith caled drud megis grwynau neu gaergewyll llawn cerrig.  Ond roedd rhaid iddynt sicrhau ymrwymiad y Cyngor. 

Yn ffodus, roedd Cyngor Abertawe eisoes wedi cael gwybod efallai mai system dwyni fyddai’r ateb, ond nid oedd ganddynt yr arian parod i dalu amdani ymlaen llaw. Roedd cyllid ar y cyd, defnyddio tîm gwaith mewnol CNC a lleihau hyd y twyni, yn golygu bod y prosiect yn fforddiadwy. 

Plannodd gwirfoddolwyr o ysgolion a sefydliadau lleol y glaswelltau yr oedd eu hangen er mwyn helpu’r twyni i ffurfio. Arbrofodd CNC gyda gwahanol fathau o laswellt i weld pa effaith yr oeddent yn ei chael ar ffurfio’r twyni. 

Mae’r prosiect twyni tywod wedi dod â manteision niferus, y tu hwnt i leihau costau cynnal a chadw a lleihau’r risgiau i feicwyr. Mae estheteg y traeth yn well, ac mae’r cynefinoedd yn fwy amrywiol. Wrth i dwyni tywod ddechrau ffurfio’n naturiol, dim ond cynyddu y bydd yr amddiffyniad y maent yn ei roi rhag llifogydd ac erydu’r blaendraeth. 

  

Mewnwelediadau 

  • Gall costau ymlaen llaw beri i gyrff cyhoeddus beidio ag ymgymryd â phrosiectau sydd â budd ac arbedion i’r cyhoedd. Gall rhaglenni Buddsoddi i Arbed ac Arloesi i Arbed helpu i roi hwb i brosiectau fel hyn. 
  • Gall dod â setiau amrywiol o arbenigedd ynghyd o amgylch nodau a rennir gyfoethogi syniadau ac esgor ar ystod ehangach o fuddion – yn ogystal â a chaniatáu cyllid cyfun. 

  

Beth nesaf? 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau defnyddio’r prosiect twyni tywod fel astudiaeth achos o sut y gall atebion sy’n seiliedig ar natur berfformio’n well na seilwaith caled traddodiadol pan fydd yn cyfathrebu â Chynghorau a chyrff eraill yng Nghymru. 

Ni chafodd y promenâd cyfan ei amddiffyn gan y cynllun, felly mae tywod sy’n cael ei chwythu gan y gwynt yn dal i effeithio ar y promenâd. Nid yw Cyngor Abertawe wedi dweud ei fod yn bwriadu ymestyn y prosiect twyni tywod ar draws yr ardal gyfan, a chan mai prosiect arddangos oedd hwn, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru’n bwriadu ariannu gweddill y system dwyni ar y cyd. Mae Cyngor Abertawe wedi dechrau defnyddio’r tywod halogedig i gyflenwi ei raglen graeanu’r ffyrdd mewn tywydd oer.  

  

Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru