BARTS shielders

Staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yw ein hased mwyaf. Mae Barts Shielders yn brawf o gysyniad ar gyfer meithrin cysylltiadau rhithwir ystyrlon â chyfoedion a darparu cefnogaeth sefydliadol integredig. 

Datblygwyd Barts Shielders mewn ymateb i gyfnod clo cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig (DU) yn ystod pandemig Covid-19.

Yn wreiddiol, bwriad y fethodoleg oedd cefnogi rheolwyr canol y GIG i ddatrys problemau yn gyflym, ond cododd cyfle ac angen gwirioneddol gyda staff ar y rhestr warchod (shielding staff). Mae unigolion a warchodir (shielders) yn bobl sy’n arbennig o agored yn glinigol i salwch difrifol neu farwolaeth yn sgil Covid-19. Amcangyfrifir bod 2.3 i 4 miliwn o bobl yn Lloegr yn unig wedi cael llythyrau gwarchod ffurfiol gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig. Nid yw’r ffaith bod rhywun yn hynod fregus yn glinigol yn golygu na allant weithio na hyd yn oed deimlo’n sâl.  Yn hytrach, dywedwyd wrth y grŵp hwn o bobl i warchod eu hunain gartref oherwydd cyflyrau iechyd fel bod yn dderbynnydd trawsblaniad organ, bod ag imiwnedd gwan, bod yn destun triniaethau canser penodol neu’n cael triniaethau o’r fath ar hyn o bryd, a’r rheiny â chlefydau prin. Gall byw gyda’r cyflyrau iechyd hyn achosi eu heriau corfforol ac emosiynol eu hunain. Cynyddodd y pandemig deimladau o drawma ac amlygiad i lawer. 

Beth wnaeth Barts Shielders?

Mae perthnasoedd a rhwydweithiau cymorth cymdeithasol yn ffactorau amddiffynnol clir yn erbyn trallod meddwl. Ar ôl cyhoeddi’r cyfnod clo cyntaf yn y DU, dywedwyd wrth dros 640 o staff Barts Health i warchod eu hunain a chafodd miloedd yn rhagor ar draws yr ymddiriedolaeth a’r GIG eu hanfon gartref. Bron dros nos, collodd staff gysylltiad â’u timau, eu galwedigaeth, a rhwydweithiau cymorth arferol. Roedd staff y GIG a oedd yn gorfod gwarchod eu hunain yn wynebu risg wirioneddol o ynysigrwydd cymdeithasol tymor hir a chanlyniadau ar iechyd meddwl. Collodd llawer eu synnwyr o berthyn a phwrpas mewn dim o amser, gan fethu â chyflawni eu rôl(au) o gartref.

Tyfodd Barts Shielders o fod yn grŵp gwirfoddol ‘craidd’ o wyth a gamodd ymlaen i ddefnyddio cyfleoedd rhithiol i gefnogi’r staff hyn ar draws Ymddiriedolaeth GIG BartsHealth gan ddechrau ym mis Ebrill 2020. Roedd y grŵp craidd o wirfoddolwyr yn cynnwys cefnogaeth sefydliadol fewnol, cefnogaeth hwyluso allanol i feithrin gallu, a phobl â phrofiad bywyd felly roedd gweithgareddau’n cael eu harwain gan ei gynulleidfa darged a gyda nhw.

Rhwng mis Ebrill a mis Awst 2020, fe wnaeth y tîm craidd addasu ac ymateb yn gyflym i ddatblygu dwy ffordd gyson i’r rheiny a oedd yn cael eu gwarchod barhau i fod wedi’u cysylltu ag Ymddiriedolaeth Barts sy’n parhau hyd heddiw: Galwad Gysylltu Shield (Shield Connect Call) i gynnig cymorth cymheiriaid a datblygu rhwydwaith a galwad Cam Nesaf Shield (Shield Next Step) i gynnig cefnogaeth a gwybodaeth sefydliadol gyda chyfraniad gan Adnoddau Dynol, Cynrychiolwyr Undebau, Gwasanaethau Lles Gweithwyr (Iechyd Galwedigaethol), a thîm BartsAbility (rhwydwaith staff anabl). Fel y disgrifiodd un o’r rheiny ar y rhestr warchod, roedd yn ymwneud â ‘darparu lle diogel i bobl a oedd yn ofidus, creu cysylltiad pan oedd cysylltiad wedi diflannu, a dangos beth sy’n bosibl wrth wneud hynny’.

Nid yn unig yr oedd y grŵp yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, ond roedd cymryd rhan yn y gofod yn gwbl wirfoddol. Roedd y ffordd yr oedd y galwadau rhithiol yn cael eu hwyluso yn creu ac yn cynnal y galw am y lleoedd hyn drwy gydol y pandemig. Canolbwyntiodd cyfarfodydd rhithwir ar hyrwyddo teimladau o ddiogelwch seicolegol i alluogi perthnasoedd a theimladau o berthyn. Mesurwyd hyn gan gyfranogwyr yn hunan-adrodd os oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu, eu gwerthfawrogi, a byddent yn argymell y sesiwn i gydweithiwr ar ôl pob galwad.

Defnyddiodd y tîm craidd ‘Liberating Structures’ i hwyluso’r holl fannau Gwarchod. Dewiswyd Liberating Structures gan eu bod yn ddulliau hygyrch, wedi’u hymarfer yn eang ar gyfer cyfarfodydd mwy cynhwysol, gan ei gwneud hi’n haws meithrin gallu a rhannu adnoddau. Mae’r rheiny ar y rhestr warchod bellach yn defnyddio Liberating Structures gyda grwpiau a thimau cleifion.

Nid dim ond y rheiny ar y rhestr warchod yr oeddem ni’n eu cefnogi

Fe wnaeth unigolion ar y rhestr warchod a oedd wedi’u hyfforddi mewn Liberating Structures gefnogi sonograffwyr, radiolegwyr, Bandiau 7, haematolegwyr, Adran y Bobl, seicolegwyr, myfyrwyr nyrsio, a gwahanol fandiau a mathau o reolwyr i gysylltu â gwybodaeth, myfyrio â chyfoedion, a lleisio eu hanghenion i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau: cynhwysion allweddol ar gyfer dysgu sefydliadol.  

BARTS Shield Infographic

Themâu a dysgu allweddol

Teimladau o euogrwydd ac anghrediniaeth: Roedd yn daith anodd i lawer o staff y GIG ar y rhestr warchod i dderbyn mai eu hiechyd a oedd yn dod gyntaf. Dywedodd llawer ‘Rydw i’n teimlo fy mod i’n siomi pobl’. Dywedodd eraill eu bod yn cyfiawnhau eu statws gwarchod yn ormodol i gydweithwyr.  

Caiff y rheiny ar y rhestr warchod eu llosgi sawl gwaith gan unrhyw bandemig: mae llawer yn eu cael eu hunain ar groesffordd risg uwch o salwch difrifol, ynysigrwydd cymdeithasol, allgau digidol oherwydd diffyg sgiliau a/neu fynediad at ddyfeisiau, amddifadedd, anallu i weithio’n effeithiol o’u cartref oherwydd bod eu swyddi yn rhai lle mae’n rhaid wynebu’r cyhoedd, profedigaeth a cholled yn eu rhwydweithiau cymorth allweddol ac anallu i alaru yn ‘normal’ oherwydd eu statws gwarchod.

Rhwystrau i ymgysylltu digidol a gweithio gartref: roedd mynediad i liniaduron ymddiriedolaeth a’u dosbarthiad, a/neu docynnau meddal ar gyfer mynediad a gweithio o bell yn araf yn cyrraedd staff ar y rhestr warchod, a oedd yn rhwystro ein gallu i allu gweithio gartref.

Anghydraddoldebau: (mewnosod)

Presenoliaeth (presenteeism): mae diwylliant a seilwaith y GIG yn ffafrio rhyngweithio wyneb yn wyneb. Arweiniodd hyn at staff yn teimlo’n anghofiedig, fel eu bod yn cael eu tanddefnyddio ac weithiau’n teimlo fel bod pobl yn eu camddeall wrth weithio gartref.

Rhwystrau seicolegol i ailintegreiddio: roedd llawer o’r rhai ar y rhestr warchod yn teimlo’n fregus a’u bod yn cael eu gorfodi i rannu eu cyflyrau iechyd, a bod cydweithwyr yn siarad am y cyflyrau hynny. Nododd staff eu bod wedi clywed cyfeiriadau fel “sherking” neu “skiving” a’u bod yn teimlo’n fwy sensitif i sylwadau fel ‘gobeithio dy fod yn mwynhau’r tywydd’ ‘croeso’n ôl’ ac ‘i’r rhai ohonoch sy’n gweithio gartref ac yn ymlacio’.

Gwneud y mwyaf o gysylltiad: nododd y rheiny ar y rhestr warchod eu bod yn hoffi’r hyblygrwydd mewn ffyrdd y gallent ymgysylltu â’r grŵp yn ychwanegol at ein galwadau mwy strwythuredig er enghraifft Facebook, Whatsapp, Côr, y Cylchlythyr, a thrwy e-bost. Roedd ein hyblygrwydd yn rhoi’r dewis iddynt gymryd rhan mewn ffyrdd a oedd yn ystyrlon iddyn nhw.

Buddion a chanlyniadau allweddol

  1. Mae’r camau a gymerwyd yn hyrwyddo teimladau cryf o gynhwysiant, perthyn, grymuso a defnyddioldeb. Rydym ni wedi cael ein galw’n adnodd ‘hanfodol’ i staff yn ystod y pandemig. Mae hyn wedi arwain at well lles, profiad staff, cyfraddau cadw staff, ac wedi lleihau aneffeithlonrwydd.
  2. Meithrin galluoedd digidol – nododd staff eu bod nhw a’u hadrannau wedi datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol trwy gymryd rhan.
  3. Osgoi canlyniadau iechyd meddwl niweidiol ar gyfer grŵp amrywiol iawn o staff.
  4. Dolenni dysgu cyflymach a’r gallu i ddatrys problemau yn gynnar – roedd elfennau wedi’u hwyluso yn caniatáu i ni ganfod problemau gyda gweithredu polisi a staff yn gynnar.
  5. Llai o rwystrau i gael mynediad at gefnogaeth sefydliadol a chysylltiad â’r Ymddiriedolaeth o gartref.
  6. Lefelau diogelwch cleifion uwch a gwell profiad i gleifion.

Argymhellion

Mae ein profiad yn cefnogi’r argymhellion a wneir yma a byddai’n ychwanegu:  

  • Rhwydweithiau cymorth integredig – cael lleoedd cymorth a all fynd i’r afael â llu o anghenion mewn un lle yn hytrach na bod pobl yn gorfod cyrchu gwasanaethau a holi cwestiynau mewn sawl fforwm.
  • Codi ymwybyddiaeth – cefnogi’r rhai sy’n agored i niwed yn glinigol i deimlo bod croeso iddynt a’u bod yn ddiogel yn y gweithle a’r gymdeithas. Fe ddefnyddion ni laniardau a phinnau llachar o’r ymgyrch ShieldUs genedlaethol i atgoffa pobl i ‘roi lle i mi os gwelwch yn dda’. Hefyd, yr angen i gredu statws pobl a pharchu eu preifatrwydd gan fod llawer yn teimlo eu bod yn cael eu ‘heithrio’ gan y pandemig.
  • Cefnogaeth i weithio’n llawn mewn modd Covid ddiogel – ni chafodd pob unigolyn ar y rhestr warchod brofiadau cadarnhaol yn cael gafael ar offer ac nid oedd ganddynt y gallu i brynu’r offer angenrheidiol i weithio gartref. Gellid sefydlu cronfa i osgoi allgau digidol. At hynny, i’r rhai nad oes ganddynt amgylchedd gweithio gartref cadarnhaol (oherwydd amodau byw neu fod yn aelwyd sengl) gellid darparu amgylcheddau gwaith diogel i osgoi effeithiau negyddol ar iechyd meddwl. Nododd rhai eu teimladau cychwynnol o fod eisiau lladd eu hunain.
  • Mannau cefnogi cymheiriaid – i liniaru canlyniadau negyddol 
    ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltu pobl â gwybodaeth berthnasol.
  • Cefnogaeth raddol i ailintegreiddio – rhoi mwy o rybudd am ‘ddiwedd’ y cyfnod gwarchod a chreu polisïau cenedlaethol sy’n fwy graddol i mewn ac allan o’r cyfnodau hyn yn hytrach na therfynau sydyn, a disymwth.
  • Fframio problemau – lluniwyd polisïau trwy lens bregusrwydd a diogelu gan wneud i lawer deimlo bod polisïau yn eu hanalluogi yn hytrach na chael eu hystyried fel pobl abl i’w defnyddio